Ynys-wen: Dyn o flaen llys ar gyhuddiad o lofruddio merch, 16

  • Cyhoeddwyd
ymddangosiad
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dyn wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth Wenjing Lin, a cheisio llofruddio dyn arall

Mae dyn wedi ymddangos o flaen Ynadon Merthyr Tudful ar gyhuddiad o lofruddio merch 16 oed yn Ynys-wen ger Treorci ddydd Gwener.

Mae Chun Xu, 31, hefyd wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio dyn 38 oed.

Bu farw Wenjing Lin - a gafodd ei henwi fel Wenjing Xu yn wreiddiol - wedi digwyddiad yn siop tŷ bwyta Chineaidd ei theulu.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Wenjing Lin wedi digwyddiad yn siop dŷ bwyta ei thelu.

Clywodd Chun Xu, drwy gymorth cyfieithydd, y bydd yr achos yn cael ei drosglwyddo i Lys y Goron Caerdydd, a bydd yn ymddangos yno ddydd Gwener.

Ni wnaeth gais am fechnïaeth ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.

Dywedodd yr heddlu bod dyn 38 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog, ac nad yw'n cael ei amau o unrhyw drosedd erbyn hyn.