Canllaw hanfodol ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Plant mewn hetiau Mistar UrddFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Ydych chi'n mynd i Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr ym Mharc Margam eleni, ond ddim yn siŵr beth sydd ei angen neu lle i fynd?

Peidiwch â phoeni – dyma gyngor i chi am sut i oroesi'r wythnos!

Plentyn mewn welis
  • Cyrraedd

Dilynwch yr arwyddion melyn i gyrraedd y maes carafanau neu'r meysydd parcio - a gadael digon o amser, rhag ofn fod traffig!

Dewch â dillad ar gyfer pob tywydd - un funud efallai y byddwch chi'n gwisgo sbectol haul, wedyn bydd angen y got law. Cofiwch eich bod mewn cae!

Cystadlu yn y Pafiliwn GwyrddFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cystadlu yn y Pafiliwn Gwyrdd

  • Coch, gwyn a gwyrdd

Lliwiau Mistar Urdd ond hefyd lliwiau'r pafiliynau ble mae'r corau, partïon ac unawdau yn cystadlu. Mae hefyd cystadlaethau ym mhebyll CogUrdd, Trin Gwallt a Harddwch ac Yr Adlen.

Ewch draw i Lwyfan y Cyfrwy ar gyfer y canlyniadau, i weld pwy sydd wedi dod yn fuddugol, neu wedi cael cam.

Os ydych chi'n cystadlu – pob lwc, a mwynhewch!

Yn y Pafiliwn Gwyn mae'r prif seremonïau bob prynhawn am 14.00. Tybed pwy fydd yn ennill y Goron neu'r Gadair eleni?

Tegwen Bruce-DeansFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Tegwen Bruce-Deans enillodd y Goron yn Eisteddfod 2024 ym Maldwyn

  • Rhywbeth i bawb

Beth am ddysgu sgiliau syrcas yn Yr Adlen, neu fynd i weithdy animeiddio gan Into Film yn y babell Celf, Dylunio a Thechnoleg?

Yn Gwyddonle, gallwch ddysgu am bopeth gwyddonol, ym mhabell Nant Caredig, mae Jambori Makaton, ac mae digon i'w wneud yn yr ardal Chwaraeon.

Yr AdlenFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Neu ewch draw i babell Cwiar Na nOg – lle i aelodau LHDTC+ yr Urdd - i ddosbarth ffitrwydd Dragtastig neu ddisgo tawel.

Ar gyfer y plant llai, mae sesiynau Canu a Dawnsio gyda Cyw yn Garddorfa Coed Cadw, neu Amser Stori yn Nant Caredig.

Cofiwch ddod ag arian poced i'w wario yn y stondinau, yn y ffair neu ar fwyd blasus.

Cwiar Na nOg
  • Crwydro

Mae digon i'ch diddanu ar y Maes, ond beth am grwydro ym Mharc Margam hefyd? Gallwch fynd i weld y Castell, gymryd taith ar y trên bach neu fynd am dro o amgylch y gerddi.

Parc MargamFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Gŵyl Triban

Bydd yr hwyl yn cario ymlaen ar ôl i'r cystadlu orffen ar ddiwedd yr wythnos, gyda pherfformiadau byw yn Yr Adlen a bar i'r rhai hŷn.

Noson er cof am Dewi Pws Morris sydd nos Wener, gydag artistiaid fel Mei Gwynedd a Taran yn canu rhai o'i ganeuon gwych.

Huw Chiswell, Bronwen Lewis a ffrindiau fydd yn adlonni nos Sadwrn. Cyfle gwych i ymlacio ar ôl wythnos brysur o fwynhau!

Huw Chiswell a Bronwen LewisFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Huw Chiswell a Bronwen Lewis ysgrifennodd gân groeso yr Eisteddfod

  • Gwylio

Os ydych chi ddim yn mynd i Barc Margam, gallwch wylio'r holl gystadlu yn fyw ar S4C Clic neu ar ap Eisteddfod yr Urdd, a dal uchafbwyntiau bob nos ar S4C.

Plant yn mwynhauFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Geirfa

canllaw / guide

hanfodol / essential

eleni / this year

peidiwch â phoeni / don't worry

cyngor / advice

goroesi / to survive

arwyddion / signs

meysydd parcio / car parks

rhag ofn / in case

cofiwch / remember

cae / field

pafiliynau / pavilions

unawdau / solos

cystadlu / to compete

pebyll / tents

canlyniadau / results

buddugol / victorious

cael cam / wronged

pob lwc / good luck

mwynhewch / enjoy

prif seremonïau / main ceremonies

sgiliau syrcas / circus skills

gweithdy / workshop

animeiddio / animation

gwyddonol / scientific

aelodau / members

LHDTC+ / LGBTQ+

sesiynau / sessions

arian poced / pocket money

gwario / spend

stondinau / stalls

diddanu / to entertain

Maes / name of the Eisteddfod field

crwydro / to wander

perfformiadau / performances

er cof / in remembrance

adlonni / to entertain

ymlacio / to relax

uchafbwyntiau / highlights