Ynys-wen: Heddlu'n apelio am luniau camerâu ceir
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth merch 16 oed yn Nhreorci wedi gwneud apêl i yrwyr am luniau camerâu 'dashcam'.
Fe wnaeth Heddlu De Cymru gau Stryd Baglan yn ardal Ynys-wen, Treorci, brynhawn Gwener yn dilyn adroddiadau bod person wedi'i drywanu.
Bu farw Wenjing Xu yn dilyn digwyddiad ym mwyty prydau parod y Blue Sky.
Mae Heddlu De Cymru wedi gofyn i yrwyr a aeth heibio'r safle rhwng 11:50 a 12:15 amser cinio ddydd Gwener am unrhyw luniau dashcam.
Dywedodd y Ditectif Brif-Arolygydd Mark Lewis: "Rydym yn gwybod bod y digwyddiad wedi digwydd ar amser prysur o'r dydd pan fyddai llawer o geir wedi gyrru heibio eiddo'r Blue Sky sydd yn ganolbwynt i'n hymchwiliadau, ac mae'n debygol y byddai gan lawer o'r bobl hynny luniau dashcam a allai'n helpu ni."
Teyrngedau i'r ferch ifanc
Mae dau ddyn gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad yn parhau i fod yn yr ysbyty, ac mewn cyflwr sefydlog ar ôl dioddef anafiadau difrifol.
Mae swyddogion heddlu yn rhoi cymorth i deulu Wenjing Xu.
Mae nifer o bobl wedi gadael blodau a negeseuon fel teyrnged i'r ferch ifanc ger y safle.
Dywedodd Kevin Williams, sy'n byw yn y tŷ drws nesaf ond un i'r bwyty, eu bod yn deulu dymunol, ac mai Wenjing Xu oedd yn cymryd archebion wrth y til yno.
"Mae'n sioc llwyr," meddai.
"Pan mae digwyddiadau trasig fel hyn yn digwydd mae'r gymuned hon yn closio at ei gilydd.
"Mae hon yn drasiedi a fyddech chi byth yn disgwyl y byddai'n digwydd ar stepen eich drws."
Ychwanegodd y Ditectif Brif-Arolygydd Mark Lewis: "Mae hwn yn gyfnod anodd iawn a thrawmatig i deulu Wenjing.
"Rydym yn ymwybodol bod sibrydion a dyfalu yn mynd ymlaen ar-lein a gofynnwn i bobl fod yn barchus ac i beidio hybu'r sefyllfa."
Rhybuddiodd bod yr heddlu'n monitro'r gwefannau cymdeithasol, ac y byddan nhw'n erlyn unrhyw un sy'n cyflawni trosedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2021