Prifysgol Caerdydd i gynnig cyrsiau cerdd ac ieithoedd modern wedi'r cyfan

Bydd yr adrannau gerddoriaeth ac ieithoedd modern yn rhan o'r Ysgol y Dyniaethau Byd-eang
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu parhau i gynnig cyrsiau cerddoriaeth ac ieithoedd modern.
Roedd y sefydliad wedi cyhoeddi ym mis Ionawr eu bod yn bwriadu torri cannoedd o swyddi, ac yn ystyried cael gwared ar rai adrannau yn llwyr - gan gynnwys yr adran gerddoriaeth, nyrsio, ac ieithoedd modern a chyfieithu.
Ond mewn datganiad ddydd Mawrth maen nhw wedi cyhoeddi cynlluniau i gadw'r adrannau cerddoriaeth ac ieithoedd modern ar agor.
Roedd y brifysgol wedi gwneud tro pedol ar y cwrs nyrsio yn barod, gyda nifer y swyddi sydd angen torri wedi gostwng o 400 i 138.
Nid yw'n glir beth fydd y cyhoeddiad diweddaraf yn ei olygu o ran niferoedd swyddi.
Bydd y cynnig yn cael ei ystyried gan gyngor y brifysgol ar 17 Mehefin.
- Cyhoeddwyd15 Mai
Fel rhan o gynlluniau i "ddiogelu dyfodol hirdymor" y sefydliad, fe wnaeth Prifysgol Caerdydd gyhoeddi cynigion i gau rhai pynciau ac adrannau yn llwyr, ac uno adrannau eraill.
Roedd y cynigion gwreiddiol yn nodi y byddai pynciau Hanes yr Henfyd, Ieithoedd Modern a Chyfieithu, Cerddoriaeth, Nyrsio a Chrefydd a Diwinyddiaeth yn dod i ben, ac y byddai Cymraeg, Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, ac elfennau sy'n weddill o Hanes Archaeoleg a Chrefydd ac Ieithoedd Modern yn cael eu huno i greu Ysgol y Dyniaethau Byd-eang.
Fe wnaeth y cynnig i gau'r adran gerddoriaeth sbarduno protestiadau gan fyfyrwyr a cherddorion.
Cafodd y mater ei grybwyll mewn llythyr agored gan nifer o sêr byd enwog sy'n gwrthwynebu toriadau i addysg gerddorol - gan gynnwys Ed Sheeran, Stormzy a Syr Elton John.

Fe fydd pynciau Hanes yr Henfyd, Crefydd a Diwinyddiaeth yn dal i ddod i ben, meddai'r Athro Wendy Larner
Mewn neges at aelodau staff brynhawn Mawrth, dywedodd y dirwpry brif ganghellor, yr Athro Wendy Larner fod Bwrdd Gweithredol y brifysgol wedi cymeradwyo cynnig newydd ar gyfer dyfodol Ysgol y Dyniaethau Byd-eang.
"Gallwn gadarnhau, os yw'r cyngor yn rhoi sêl bendith i'r cynlluniau, y byddwn yn parhau i gynnig ymchwil ac addysg ieithoedd modern a cherddoriaeth yng Nghaerdydd," meddai.
"Fe fyddai'n rhaid addasu strwythur yr adrannau a lleihau nifer y staff a byddai'r cyrsiau yn rhan o Ysgol y Dyniaethau Byd-eang."
Ysgol y Dyniaethau Byd-eang - beth yw'r cynlluniau?
Parhau i gynnig cyrsiau cerddoriaeth israddedig ac ôl-raddedig, ond gyda thargedau mynediad a chynnwys newydd;
Parhau i gynnig cyrsiau ieithoedd modern ond i niferoedd llai, gan ganolbwyntio yn bennaf ar Ffrangeg, Sbaeneg, Mandarin a Japanaeg;
Ceisio ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer cyrsiau cyfieithu;
Parhau i gynnig rhaglenni Ieithoedd i Bawb, gyda'r ieithoedd sydd yn cael eu cynnig yn ddibynnol ar y galw ymhlith myfyrwyr;
Datblygu detholiad o raglenni newydd i geisio cyflawni uchelgais yr ysgol newydd.
Er y tro pedol rhannol, fe fydd pynciau Hanes yr Henfyd, Crefydd a Diwinyddiaeth yn dod i ben.
Dywedodd y brifysgol eu bod yn "deall y bydd yn newyddion siomedig iawn i academyddion sydd mor ymroddedig i'r pynciau hyn".
Maen nhw hefyd yn nodi eu bod am barhau i gynnig y cyrsiau yn 2025-26 ac yn bwriadu parhau i addysgu pob myfyriwr sy'n dechrau astudio un o'r pynciau hyn ym mis Medi, a hynny tan ddiwedd eu cyrsiau.
Bydd y brifysgol yn rhannu mwy o wybodaeth am y cynlluniau mewn cyfarfod staff ar 3 Mehefin.
Effaith ar staff yn 'anioddefol'
Dywedodd llefarydd ar ran undeb y Prifysgolion a'r Colegau (UCU) eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad, ond bod eu pryderon yn parhau.
"Mae'n dda gweld bod Bwrdd Gweithredol y brifysgol - yn sgil pwysau gan ein haelodau a'r ymgyrch i arbed swyddi - wedi cytuno i gefnu ar eu cynlluniau gwreiddiol i gael gwared â'r adrannau nyrsio, gerddoriaeth ac ieithoedd modern.
"Ond, mae'n annerbyniol fod dros 400 o bobl yn dal i wynebu'r posibilrwydd o golli eu swyddi.
"Mae'r effaith gorfforol a feddyliol ar nifer o'n haelodau yn annioddefol.
"Byddwn yn parhau i roi pwysau ar arweinwyr y brifysgol i weithio gyda ni er mwyn arbed y swyddi hynny a pharhau i addysgu ag ymchwilio ym meysydd Hanes yr Henfyd, Ieithoedd, Crefydd a Diwinyddiaeth."
Ychwanegodd y llefarydd eu bod yn barod i gynnal trafodaethau gyda'r brifysgol, ond rhag ofn nad oes modd datrys yr anghydfod, maen nhw'n dal i drafod y posibilrwydd o weithredu diwydiannol gyda'u haelodau.