Byw'n hapus yng Nghaernarfon

Iwan Rhys yn edrych dros dref CaernarfonFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
  • Cyhoeddwyd

Yn ddiweddar fe wnaeth The Guardian gyfeirio at Caernarfon fel y trydydd lle hapusaf i fyw yn y DU.

Felly beth sy'n gwneud y dref yn lle mor arbennig? Fe ofynnodd Cymru Fyw i'r bardd Iwan Rhys egluro...

O fy nesg gartref, yn ardal Twtil yng Nghaernarfon, dim ond troi fy mhen fymryn i'r dde sydd ei angen a gallaf weld rhywfaint o'r castell a dwy ddraig goch yn cyhwfan o'r tyrrau uchaf, stribedyn o ddŵr y Fenai, a stribedyn llai o dwyni Traeth Melynog ym Môn y tu hwnt. O bwyso ar ongl anniogel (neu godi a chamu) i fy dde gallaf hefyd weld mynyddoedd yr Eifl yn ymestyn am Lŷn. Mae'n olygfa hardd sydd wastad yn codi calon pan fydd dogfen faith i'w chribo ar y sgrin o 'mlaen.

Rwy'n byw'n hapus yng Nghaernarfon. Yn wir, yn ôl erthygl ddiweddar yn y Guardian, dyma'r trydydd lle hapusaf ym Mhrydain i fyw. Er i awduron yr erthygl restru amryw ffactorau a setiau data maen nhw'n dweud iddyn nhw eu defnyddio i lunio'r rhestr o 25 lle (sydd hefyd yn cynnwys Aberystwyth, gyda llaw), ar ddiwedd y dydd mae'n rhaid derbyn bod agweddau goddrychol, os nad mympwyol, ynghlwm wrth lunio rhestr o'r fath. Wedi'r cyfan, does neb wedi byw yn holl drefi Prydain i allu barnu.

Manon ac Iwan yn priodi yng NghaernarfonFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Manon ac Iwan yn priodi yng Nghaernarfon

Ond 'dyw'r ffaith bod Caernarfon mor uchel yn rhestr y Guardian ddim yn destun syndod i mi. Yn fy neugain a 'chydig o flynyddoedd, rwy wedi byw mewn pentref, tair tref a thair dinas, felly efallai fy mod i mewn sefyllfa dda i gymharu effaith hyd a lled lle ar fy hapusrwydd. Un o'r prif ffactorau sy'n fy nharo i yn hyn o beth yw pa mor gyfleus yw cyrraedd y pethau rwy eu heisiau'n ddyddiol neu'n wythnosol. Dyma ni'n taro ar gysyniad diddorol y 'ddinas 15 munud'.

'Torth, pacyn o jips a pheint'

O fewn munud ar droed o fy nrws ffrynt, gallaf brynu llaeth a thorth, pacyn o jips, a pheint o gwrw. O fewn deng munud o gerdded, caf ddewis o blith tair archfarchnad, mwy o dafarndai na fyddai'n synhwyrol ar un crôl, a dwsin o fwytai a chaffis. Felly hefyd siop lyfrau a chigydd, ambell i siop ddillad a digon o siopau barbwr i wneud i rywun amau cynllun busnes ambell un.

Gall fy llysblant gerdded i'r ysgol uwchradd, y ganolfan hamdden a sawl parc chwarae, a gall fy ngwraig a mi fynd am jog ar lannau'r Fenai, boed dan awyr las neu drwy'r gwynt a'r glaw, neu ddilyn llwybr afon Seiont, y rheilffordd fach neu'r lôn feics i gael cysgod canopi'r coed. Caf fwynhau perfformiad byw neu sglaffio popcorn o flaen sgrin fawr yn Galeri, ac rwy'n chwarae darts mewn cynghrair o 10 o dimau lle mae pob gêm 'oddi cartref', unwaith eto, o fewn pellter cerdded. A gallaf wneud hyn oll yn fy mamiaith, er nad yn nhafodiaith fy mam.

Os af am dro i Ben Twtil, dafliad carreg o'r tŷ, yn ogystal â gweld y castell a'r dref islaw, caf olygfa odidog o'r Fenai a chwarter Môn, yr Eifl a thalp da o Eryri, sef golygfa debyg i'r hyn y byddai Owain Glyndŵr wedi'i gweld ar ddiwedd ei frwydr yn yr union fan ym 1401 cyn iddo daro i Siop Cae am jymbo sosej a Vimto.

Fe es i briodas cyfaill yn Ninas Mecsico yn ddiweddar. Metropolis fywiog, swnllyd a difyr iawn. I gael newidiaeth, fe wnes i hefyd dreulio ychydig ddiwrnodau yn Oaxaca, dinas lawer llai yn ne'r wlad.

Y peth cyntaf wnaeth fy nharo wrth gyrraedd y fan honno oedd y gallwn i weld y bryniau'n amgylchynu'r ddinas, gan roi ymdeimlad o hyd a lled y lle. Doeddwn i heb weld y gorwel ers diwrnodau, sylweddolais, ac roeddwn i'n fwy cartrefol yn syth. Peth da yw ymestyn gorwelion, ond efallai bod angen i rywun fod yn hapus â'i orwelion ei hun er mwyn gallu gwerthfawrogi hynny.

Iwan a'i gyd-ddartiwr, StanFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Iwan a'i gyd-ddartiwr, Stan, ar ddiwrnod yr Ŵyl Fwyd

Yn ôl yng Nghaernarfon, o gymharu â threfi o faint tebyg sy'n go bell o ddinasoedd mawr, mae nifer ac amrywiaeth y caffis a'r bwytai yn syndod o dda. Un o'r rhesymau pennaf am hyn, dybiwn i, yw'r ffaith ei bod hi'n dref dwristaidd.

Er bod yma rai Cymry sy'n diawlio'r castell oherwydd ei gyswllt â choron Lloegr, does dim dwywaith ei fod, ar y cyd â'r môr a'r mynyddoedd gerllaw, yn denu cannoedd o filoedd o dwristiaid i'r dref bob blwyddyn. Ynghyd â'r Gymraeg a'r Saesneg, wrth grwydro strydoedd y dref yn yr haf fe glywch chi lu o ieithoedd Ewrop a thu hwnt, sy'n hwb i'r galon yn ogystal ag i goffrau busnesau bach.

Tref Caernarfon

Soniais am allu gweld darnau o'r castell a'r Fenai a Thraeth Melynog o fy nesg gartref. Wnes i ddim sôn y gallaf hefyd weld, yn amlycach, bont gerdded goncrit, adeilad brwtalaidd BT a maes parcio aml-lawr staff y cyngor. Pethau digon hyll ar ryw olwg. Ond eto, mae Caernarfon yn dref go iawn, nid yn faes chwarae i dwristiaid yn unig.

Mae'r gymuned, neu'n wir y cymunedau sydd yma, yn rhan fawr o'r hyn sy'n gwneud y dref yn lle hapus i fyw. Pan symudais yma bron i bymtheg mlynedd yn ôl, un o'r pethau cyntaf wnes i oedd ymuno â Chôr Dre.

Wel, dyna oedd ffordd wych i wneud ffrindiau oes a chael hwyl! Rhwng canu yn y côr am dros ddegawd a chwarae yn y gynghrair darts leol am bum mlynedd, prin y gallaf fynd am dro drwy'r dre heb gwrdd â llond dwrn o gydnabod. Codi llaw ar soprano ar y Maes, sgwrs ag aelod o dîm y Legion yn Boots. Mae'r dref yn filltir sgwâr i mi bellach, ac rwy'n perthyn yma.

Hapus mynd nôl i Dre

Ydw, rwy weithiau'n gweld eisiau rhai agweddau ar ddinas fawr, a'r pethau nad ydyn nhw i'w cael yng Nghaernarfon. Dyna pam af i Fanceinion a Llundain bob hyn a hyn, ar drên uniongyrchol o Fangor, i gael fy ffics o farrau gwin da, croissants ffres, dewis ehangach o ddillad, a sushi efallai. Ond ar ôl mwynhau tridiau o'r prysurdeb hwnnw, na allwn ei fforddio rownd y flwyddyn beth bynnag, rwy'n ddigon hapus i gael dod yn ôl at fy oci fy hun ymhlith wynebau cyfarwydd y Twthill Vaults.