Llys Apêl yn dileu euogfarnau achos picedu dadleuol
- Cyhoeddwyd

Terry Renshaw (ail o'r chwith) ac apelwyr eraill tu allan i'r Llys Apêl yn ystod gwrandawiad blaenorol
Mae 14 o weithwyr y sector adeiladu yng ngogledd Cymru yn y 1970au wedi ennill eu brwydr i adfer eu henw da, ar ôl cael eu dedfrydu am bicedu'n anghyfreithlon.
Roedden nhw'n rhan o grŵp sy'n cael eu nabod fel 24 Amwythig, gafodd eu cyhuddo yn dilyn streic genedlaethol gan weithwyr adeiladu yn galw am well cyflogau a diogelwch.
Mae'r Llys Apêl wedi dileu'r dyfarniadau, ar ôl i gyfreithwyr ddadlau bod yr heddlu wedi cael gwared ar dystiolaeth cyn yr achos gwreiddiol yn eu herbyn.
"Dwi mor emosiynol... dydw i ddim yn droseddwr mwyach," meddai un o'r grŵp, cyn-faer Y Fflint, Terry Renshaw oedd gweithio fel peintiwr a phapurwr pan gafodd ei arestio.
"Mae wedi bod yn 47 o flynyddoedd... Nes i ddim meddwl y bydda fo'n fy nharo fel hyn."
'Dim budd cael achos newydd'
Cafodd y gweithwyr eu herlyn a'u cosbi am droseddau'n cynnwys ymgynnull yn anghyfreithlon, cynllwynio i frawychu ac achosi affräe wrth bicedu tu allan i safleoedd adeiladu yn Yr Amwythig a Telford yn 1972.
Chafodd neb eu harestio ar y diwrnod ond fe gafodd y picedwyr eu harestio bum mis yn ddiweddarach.

Gwrthdystiad o blaid rhyddhau aelodau 14 Amwythig yn Llundain yn 1975
Wedi gwrandawiad a barodd am ddau ddiwrnod ym mis Chwefror daeth barnwyr y Llyn Apêl i'r casgliad bod yr euogfarnau'n anniogel ar y sail bod datganiadau tystion wedi eu dinistrio.
Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd yr Arglwydd Ustus Fulford bod y dyfarniad yn berthnasol i'r "tri achos llys a phob cyhuddiad y mae'r 14 o apelwyr wedi eu hwynebu".
Ychwanegodd: "Ni fyddai er budd y cyhoedd i orchymyn achos llys newydd."
Ysgrifennodd y byddai'r barnwr yn yr achos gwreiddiol wedi gallu rhoi "cyfarwyddiadau priodol" i'r rheithgor pe byddai'r amddiffyn wedi cael gwybod bod datganiadau ysgrifennwyd â llaw wedi eu dinistrio, a byddai'r mater wedi codi wrth holi tystion yn y llys.
"Nid oes gennym amheuaeth pe byddai hynny wedi digwydd, byddai'r broses llys wedi sicrhau tegwch i'r cyhuddedig," meddai.

Dan yr erw Eric Tomlinson, y cafodd yr actor Ricky Tomlinson (mewn siwt yng nghanol y llun) ei erlyn
Un o aelodau eraill y grŵp yw'r actor Ricky Tomlinson, seren cyfres The Royle Family, a gafodd ei garcharu am ddwy flynedd.
"Er bod hi'n gywir i ddileu'r euogfarnau yma, mae'n ddiwrnod truenus i gyfiawnder Prydeinig," meddai, gan gofio cyd-ddiffynyddion sydd wedi marw.
Mae'n mynnu bod "angen gofyn cwestiynau difrifol" am ran penaethiaid y diwydiant adeiladu a llywodraeth y dydd yn yr achos.
"Roedd hwn yn achos gwleidyddol, nid dim ond yn fy achos i a phicedwyr Amwythig - roedd undebau llafur yn eu crynswth ar brawf."