Morgan yn galw am gael gwared ar y terfyn budd-dal lles dau blentyn
Dywedodd Ms Morgan bod ei llywodraeth yn "gofidio'n enfawr am dlodi plant"
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan yn galw ar Brif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer i gael gwared ar y terfyn budd-dal lles dau blentyn.
Fe ddisgrifiodd Ms Morgan y polisi, a ddaeth i rym yn 2017, fel un "niweidiol i deuluoedd Cymru", gan ddweud bod ei llywodraeth yn "poeni'n fawr am dlodi plant yng Nghymru".
Wrth siarad ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Margam, dywedodd ei bod wedi cyfleu'r neges i Syr Keir yr wythnos ddiwethaf yn Llundain.
Fe ddaw ar ôl i weinidog addysg Llywodraeth y DU, Bridget Phillipson, ddweud bod y polisi hwn wedi gwthio rhai teuluoedd i dlodi a'u bod yn edrych ar y posibilrwydd o gael gwared arno.
Wrth ymateb, dywedodd Plaid Cymru "nad yw hyn yn ymwneud ag egwyddor, ond panig - wedi'i yrru gan arolygon barn, nid gwerthoedd".
Rhybuddiodd y Ceidwadwyr Cymreig y byddai cael gwared ar y cap "yn golygu cost ariannol - a fyddai'n cael ei dalu yn y pen draw gan drethdalwyr sy'n gweithio'n galed".
Mae'r cap dau blentyn, a gyflwynwyd gan y llywodraeth Geidwadol yn 2017, yn cyfyngu credyd treth plant a chredyd cynhwysol i'r ddau blentyn cyntaf yn y rhan fwyaf o aelwydydd.
Mae'n golygu na all teuluoedd hawlio tua £3,200 y flwyddyn am bob plentyn ychwanegol, meddai melin drafod y Resolution Foundation.
'Siarad yn blwmp ac yn blaen'
Dywedodd Ms Morgan ar y maes ei bod yn "gofidio'n enfawr am dlodi plant yng Nghymru", a bod ei llywodraeth "yn meddwl ei fod yn niweidiol i lawer o deuluoedd yng Nghymru".
Esboniodd ei bod yn gwneud yr alwad nawr gan y bydd Canghellor y Trysorlys Rachel Reeves yn cyflwyno ei Hadolygiad Gwariant 2025 i'r Senedd ar 11 Mehefin.
Ychwanegodd mai "nawr yw'r amser y mae'r penderfyniadau'n cael eu gwneud mewn perthynas â'r adolygiad gwariant.
"Mae yna lawer o faterion eraill sy'n cystadlu. Rydw i eisiau arian rheilffordd i Gymru hefyd. Rwy'n deall bod gan y Canghellor rai penderfyniadau anodd i'w gwneud.
"Ond mae angen i Lafur fod y blaid sy'n poeni am dlodi plant."
Dywedodd bod blaenoriaethau'r ddwy lywodraeth "ychydig yn wahanol" ond bod ganddi "berthynas dda iawn" gyda Syr Keir a gallai "siarad yn blwmp ac yn blaen" ag ef.
"Ond mae yna ddealltwriaeth fy mod i'n rhedeg llywodraeth fan hyn yng Nghymru, ac mae ef hefyd yn rhedeg llywodraeth.
"Weithiau, mae ein blaenoriaethau ychydig yn wahanol. Rwy'n gorfod siarad dros Gymru a dyna'r hyn rwy'n ei wneud.
"Mae'r adolygiad gwariant hwn yn allweddol, mae'n hollbwysig, ond ni fydd yr holl benderfyniadau, bob un o'r hyn rydyn ni moyn yn cael eu pennu yn yr adolygiad gwariant.
"Efallai bydd yn rhaid i ni aros hyd nes y bydd gyllideb yn yr hydref i gael rhai o'r pethau eraill yr oeddem yn galw amdanynt."
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd20 Mai
Fe wnaeth arweinwyr Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru alw am gael gwared ar y terfyn budd-dal lles dau blentyn yn ystod y ddadl deledu ar BBC Cymru cyn yr etholiad cyffredinol.
Ac wrth ymateb ddydd Mercher, dywedodd Sioned Williams AS, "mae hyn yn rhagrith syfrdanol gan Lafur".
"Y Nadolig diwethaf, gwnaeth Eluned Morgan wawdio Plaid Cymru am fynnu cael gwared ar y cap dau blentyn.
"Mor ddiweddar â mis Hydref diwethaf, pleidleisiodd ASau Llafur yn erbyn ein galwadau yn y Senedd i sefyll dros blant mewn tlodi a dod â'r cap creulon hwn i ben.
"Yn y cyfamser yn San Steffan, ni chefnogodd unrhyw AS Llafur Cymru ein hymdrechion i'w ddileu - ac fe wnaeth Keir Starmer wahardd ei ASau ei hun am bleidleisio i amddiffyn plant.
"Nawr, yn sydyn, mae Llafur yn newid eu tôn.
"Byddai rhywun yn cael ei faddau am feddwl nad yw hyn yn ymwneud ag egwyddor, ond panig - wedi'i yrru gan arolygon barn, nid gwerthoedd."
Ar 24 Gorffennaf 2024, cafodd saith AS Llafur eu gwahardd o'r blaid dros dro ar ôl pleidleisio yn erbyn y llywodraeth ar welliant i ddileu'r cap budd-dal dau blentyn.
Rhybuddiodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar, "y gwir amdani yw y byddai dileu'r cap budd-dal dau blentyn yn dod ar gost ariannol, a fyddai'n cael ei dalu yn y pen draw gan drethdalwyr sy'n gweithio'n galed".
"Er y dylai'r wladwriaeth bob amser gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed, rhaid pwyso a mesur unrhyw gostau ychwanegol yn erbyn egwyddor tegwch i'r trethdalwr," meddai.
"Addawodd Llafur y byddai cael dwy lywodraeth yn gweithio ar y naill ben a'r llall o'r M4 yn cyflawni dros Gymru, ond y cyfan rydyn ni wedi'i weld yw plaid mewn rhyfel â hi ei hun a phrif weinidog Cymru sydd yn amlwg heb unrhyw ddylanwad ar brif weinidog y DU."