Rhyddhau rheithgor yn achos llofruddiaeth honedig
- Cyhoeddwyd

Bu farw Dean Skillin wedi digwyddiad y tu allan i Westy'r Waverley, Bangor
Mae rheithgor a glywodd achos bocsiwr brwd sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio dyn ag un dwrn wedi cael eu rhyddhau.
Roedd achos llys Brandon Sillence, 24 o Fangor, wedi cychwyn ddydd Llun yn Llys y Goron Caernarfon.
Mae Mr Sillence yn gwadu llofruddiaeth ond cyfaddefodd ddynladdiad Dean Skillin, 20 oed o Gaernarfon, ar 19 Medi y tu allan i Westy Waverley ym Mangor.
Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands nad oedd y penderfyniad i ryddhau'r rheithgor yn "fai ar neb".
Roedd Mr Sillence hefyd wedi cyfaddef iddo achosi niwed corfforol gwirioneddol i gefnder Mr Skillin, Taylor Lock, yn yr un digwyddiad.