Amau gwerth dedfrydau i ddiogelu'r cyhoedd
- Cyhoeddwyd
Dywed prif weithredwr y Bwrdd Parôl ei fod yn bryderus am effaith dedfrydau a oedd yn carcharu pobl er mwyn diogelu'r cyhoedd.
Fe ddaeth dedfrydau IPP i ben oddeutu degawd yn ôl ond mae 2,000 o bobl yn parhau yn y carchar.
Er eu bod wedi'u cynllunio ar gyfer troseddwyr rhyw a threisgar, dywed Martin Jones mai "pobl na sydd wedi cyflawni trosedd ddifrifol" sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf.
Dywed y Weinyddiaeth Gyfiawnder ei bod yn cynorthwyo carcharorion IPP i gael eu rhyddhau tra'n sicrhau diogelwch y cyhoedd.
'Gwastraffu bywydau pobl'
Yn wahanol i ddedfrydau eraill does dim amser penodol i hyd carchariad pobl sydd wedi'u dedfrydu er mwyn diogelu'r cyhoedd ac felly dyw carcharorion ddim yn gwybod pryd y byddant yn cael gadael.
Mae Mr Jones yn cydnabod mai dyletswydd y Bwrdd Parôl yw amddiffyn y cyhoedd ac er bod nifer y dedfrydau sy'n gwarchod y cyhoedd wedi gostwng 70% mewn blynyddoedd diweddar, dywed ei fod yn pryderu nad oes diwedd i ddedfryd IPP.
"Gall pobl fod yn y carchar am weddill eu bywyd os yw'r Bwrdd Parôl yn penderfynu nad ydynt yn ddigon diogel i'w rhyddhau.
"Sut mae dod allan o gylch lle mae iechyd meddwl rhywun wedi dirywio yn y carchar i gyrraedd man lle mae'n ddiogel i'w ryddhau? Mae bywydau pobl yn cael eu gwastraffu."
Mae Mr Jones yn awgrymu bod angen ystyried nifer o newidiadau gan gynnwys:
ailedrych ar ddedfryd troseddwyr sydd wedi'u carcharu am gyfnod byr;
edrych a oes angen i droseddwyr fod yn y carchar wedi cyfnod o ddwy flynedd, yn hytrach na 10;
asesu risg troseddwyr wedi cyfnod o 28 diwrnod.
Cafodd y dedfrydau eu cyflwyno yn 2005 gan ddod i ben saith mlynedd yn ddiweddarach - "arwydd o'u diffyg llwyddiant", medd Mr Jones.
Wyth wythnos wedi i'r dedfrydau ddod i rym cafodd Martin Tawton, 24 oed o Gaerdydd, ddedfryd IPP am ddwyn ar y stryd - roedd wedi dwyn ffôn symudol.
Cafodd ei garcharu am isafswm o dair blynedd a hanner ond fel y mae nifer o garcharorion IPP wedi canfod mae'n rhaid aros am gyfnodau hir i gwblhau cyrsiau hyfforddi cyn y bydd y Bwrdd Parôl yn ystyried unrhyw gais am adael y carchar.
Fe dreuliodd Martin 10 mlynedd o dan glo.
"Petai wedi cael ei ddedfrydu wyth wythnos yn gynharach, byddai wedi cael mynd adref amser maith yn ôl," medd ei fam Sue Hennessy.
"Byddai ei fywyd wedi dod at ei gilydd eto."
"Ond fe wnaeth y ddegawd yna ei newid," ychwanegodd.
"Mae peidio gwybod pryd y byddwch yn cael eich rhyddhau yn torri'ch calon. Does dim gobaith i chi.
"Chi'n gweld carcharorion eraill yn treulio cyfnodau dan glo am droseddau tebyg, weithiau yr un rhai ac maen nhw'n cael mynd adref - lle mae carcharorion IPP yn gorfod disgwyl am gyrsiau neu'n gorfod mynd i garchar arall i gwblhau cyrsiau."
Ers ei ryddhau yn 2015, mae Martin sydd bellach yn 40 oed, ar drwydded bywyd ac wedi ei alw'n ôl dair gwaith am fethu ag ufuddhau i'r amodau.
Ar hyn o bryd mae yng Ngharchar Caerdydd ac yn disgwyl cael mynd i Garchar y Parc ym Mhen-y-bont i gwblhau cwrs fel bod y Bwrdd Parôl yn ystyried ei ryddhau.
"Mae'r pethau y mae'n cael ei alw ôl yn eu cylch yn faterion y gellid delio â nhw yn y gymuned," medd Sue - yn eu plith aros gyda hi yn lle aros mewn hostel, arogli o alcohol a bod â beic yn ei feddiant.
"Roedd e wedi cael y beic o sgip a'i fwriad oedd ei drwsio fel ei fod yn gallu dod i fy ngweld i - ond roedd yna amheuon ei fod wedi dwyn y beic. Petai rhywun wedi gofyn iddo byddai wedi gallu egluro ond bu'n rhaid iddo ddychwelyd oherwydd hynna."
Mae dros 1,848 o bobl yn y carchar o ganlyniad i ddedfrydau IPP - 95% wedi treulio cyfnodau hwy na'r isafswm cyfnod a nodwyd gan y barnwr.
O'r rhain mae 200 wedi'u dedfrydu i lai na dwy flynedd ond wedi treulio 10 mlynedd neu hwy yn y carchar.
Roedd yna un enghraifft lle roedd person wedi'i ddedfrydu am isafswm o 28 diwrnod.
"Mae'n anghredadwy bod rhywun yn cael ei garcharu am 28 diwrnod ac yna o bosib yn treulio gweddill ei fywyd dan glo ar drugaredd y Bwrdd Parôl," medd Martin Jones.
"Yn fy nghyfnod i fel prif weithredwr y Bwrdd Parôl mae miloedd sydd wedi cael dedfryd IPP wedi arwain bywyd diogel ar ôl cael eu rhyddhau a ddim wedi cyflawni trosedd bellach - mae'r gyfradd o droseddu difrifol, yn gyffredinol, yn llai na 1%.
Dyw Martin Jones ddim yn amau nad yw'r dedfrydau yn addas i rai troseddwyr sy'n beryg i'r cyhoedd - pobl fel mam BabyP, Tracey Connelly a'r paedoffil Vanessa George ac mae eraill wedi cyflawni troseddau difrifol ers eu rhyddhau ond "mae nhw yn y lleiafrif", meddai.
"Ddeg mlynedd ers diddymu'r ddedfryd, mae angen edrych ar yr hyn y mae wedi ei chyflawni ac y mae gweld pobl yn gorfod aros am gyfnodau maith yn y carchar yn bryderus," ychwanegodd.
"Mae nifer angen help gyda'u hiechyd meddwl ac mae'n rhaid i'r system gyfiawnder ddelio gyda hynny yn well ond fy mhrif bryder i yw colli gobaith. Mae llawer o gyfleon yn y carchar i wneud dewisiadau gwael - petaech yn y carchar am droseddu o ganlyniad bod yn gaeth i gyffuriau a bod y broblem honno yn para ddeg mlynedd yn ddiweddarach mae'n anodd iawn i ni fel Bwrdd Parôl benderfynu a yw'n ddiogel eich rhyddhau. Mae'n gylch dieflig.
"Dwi'n gweld y broses o gael eich galw'n ôl o dan ddedfryd IPP yn broblem - mae 1,300 bellach yn y ddalfa o ganlyniad i hyn ond yn gyffredinol mae 70% o achosion sy'n cael eu hadolygu gan y Bwrdd Parôl yn cael eu rhyddhau eto.
"Mae'n bosib i rywun sydd wedi cael dedfryd IPP geisio dod â'u trwydded i ben wedi iddyn nhw fod 10 mlynedd yn rhydd yn y gymuned ond mae hynna yn gyfnod hir.
"Un ateb fyddai gostwng y cyfnod tra'n diogelu y cyhoedd - efallai byddai modd gostwng y cyfnod i ddwy neu bum mlynedd."
Dywed llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod nifer carcharorion IPP wedi gostwng yng Nghymru o ddau draean ers 2012 - a bod y nifer wedi gostwng 13% ers y llynedd.
"Ry'n yn parhau i helpu y rhai sy'n y ddalfa i gael eu rhyddhau ond gan fod barnwr wedi penderfynu eu bod o risg uchel i'r cyhoedd mae mesurau ychwanegol wedi'u cyflwyno i sicrhau eu bod yn gadael carchar yn ddiogel," ychwanegodd.
Mwy o wybodaeth am ddedfryd IPP
Mae'n ddedfryd isafswm o amser yn y carchar a rhaid i'r carcharor ddangos i'r Bwrdd Parôl nad yw bellach yn fygythiad i'r cyhoedd cyn cael ei ryddhau.
Cafodd ei chyflwyno gan y Blaid Lafur yn 2005 ac mae'n targedu troseddwyr rhyw a rhai hynod dreisgar.
Yn wreiddiol roedd gweinidogion yn credu y byddai'n effeithio ar 900 o droseddwyr ond ar ei hanterth roedd hi'n effeithio ar 6,000 o garcharorion.
Cafodd y ddedfryd ei diddymu yn 2012 gan yr Ysgrifennydd Cyfiawnder ar y pryd, Ken Clarke.
Roedd e o'r farn ei bod hi'n amhosib i garcharorion brofi nad oedden nhw bellach yn risg - ac yn ei eiriau ef roedd y ddedfryd yn "staen" ar y System Cyfiawnder Troseddol.