'Dyn laddwyd â bwa croes wedi colli ei arian i gyd'

  • Cyhoeddwyd
Gerald CorriganFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Gerald Corrigan o'i anafiadau mewn ysbyty yn Stoke ym mis Mai 2019

Roedd y pensiynwr o Ynys Môn a gafodd ei saethu'n farw â bwa croes wedi "rhoi ei arian i gyd i bob pwrpas" i ddyn twyllodrus, clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mercher.

Clywodd y llys bod Richard Wyn Lewis, 50 oed, wedi mynd ag oddeutu £200,000 oddi ar Gerald Corrigan a'i bartner Marie Bailey - arian yr oedd yn honni a oedd yn gyfraniad tuag at ddatblygu eiddo a phrynu ceffylau.

Clywodd y rheithgor bod Mr Corrigan, 74 oed ac yn byw mewn ardal anghysbell ar Ynys Môn, wedi ei lofruddio yn 2019.

Ar ran yr erlyniad dywedodd Peter Roach QC: "Mae Wyn Lewis yn ddyn sy'n twyllo ac yn ystod y cyfnod a nodir yn y ditiad hwn fe wnaeth e dwyllo nifer o bobl gwahanol wrth iddyn nhw roi amrywiol symiau o arian iddo - weithiau miloedd.

"Gydol yr amser roedd pobl yn colli arian a Mr Lewis yn ei gadw yn anonest."

Dywedodd Mr Roach bod Mr Lewis wedi dweud wrth Mr Corrigan a Ms Bailey y byddai'n eu helpu i ddatblygu a gwerthu eu cartref 'ymddangosiadol', Gof Du, ac y byddai modd iddynt werthu darn o dir 35 erw am £2 miliwn.

'Ffugio'r cyfan'

Dywedodd wrth y rheithgor: "Rwy'n dweud datblygiad ymddangosiadol a gwerthiant ymddangosiadol gan nad oedd y fath ddatblygiad na gwerthiant yn bodoli - roedd Wyn Lewis wedi ffugio'r cyfan."

Clywodd y llys bod Lewis wedi dweud wrth Mr Corrigan bod yna brynwr posib, John Halsall, ac y byddai swyddog cynllunio wedi ymddeol o'r enw David yn ei helpu i gael cais cynllunio.

Dywedodd Mr Roach bod Mr Corrigan yn credu bod y gwerthiant ar fin cael ei gadarnhau cyn ei farwolaeth - ond doedd yna ddim ceisiadau cynllunio a doedd 'Mr Halsall' ddim yn bodoli.

Ychwanegodd Mr Roach: "Roedd y cyfan yn dwyll o'r cychwyn cyntaf ac wedi costio miloedd lawer o bunnau i Gerry Corrigan a Marie Bailey - arian parod yr oeddynt wedi ei roi i Wyn Lewis.

Wrth iddi gael ei chyfweld gan yr heddlu roedd Ms Bailey yn amcangyfrif bod y cwpl wedi rhoi oddeutu £200,000 o bunnau mewn arian parod i Mr Lewis rhwng 2015 a 2019.

Dywedodd Mr Roach: "Dywedodd nad oedd ganddi hi a Gerry Corrigan unrhyw arian ar ôl erbyn y diwedd."

Clywodd y llys bod Mr Corrigan wedi rhoi £200 i Lewis ddeuddydd cyn ei lofruddiaeth ac wedi dweud wrtho: "Does yna ddim rhagor o arian."

Dywedodd bod Mr Lewis wedi cymryd arian hefyd gan y cwpl am geffylau "nad oedd yn bodoli" a ffioedd stablau.

'Dwyn car'

Clywodd y rheithgor bod Ms Bailey, 66, wedi talu Lewis am fynd â'i char i gael ei drwsio ond ei fod wedi ei werthu am £5,000 gan ddweud ei fod wedi'i ddifrodi a bod angen ei waredu.

"Nid yn unig y gwnaeth Wyn Lewis ddwyn car Marie Bailey ond fe gododd arian arni am wneud hynny," ychwanegodd Mr Roach.

Yn 2018 fe wnaeth Ms Bailey drosglwyddo £50,000 i gyfrif partner Lewis, Siwan Maclean, i brynu cyn ysgol Llanddona ar Ynys Môn. Clywodd y llys bod Lewis wedi dweud wrthi y gallai ei gwerthu am elw i gwmni adeiladu.

Ond dywedodd Mr Roach na fu'r adeilad erioed ar werth i'r cyhoedd.

Yn ystod yr achos ddydd Mercher dywedwyd wrth y rheithgor nad oedd llofruddiaeth Mr Corrigan ddim i'w wneud â'r achos presennol - ond bod yr honiadau o dwyll wedi dod i'r amlwg wrth i Ms Bailey gael ei holi gan yr heddlu am y saethu.

Mae Wyn Lewis, o Lanfair-yn-Neubwll, Caergybi, yn gwadu wyth cyhuddiad o dwyll.

Mae ei bartner Siwan Maclean, 51 o'r un cyfeiriad, yn gwadu cytuno i guddio tarddiad arian a gafwyd yn anghyfreithlon

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig