Rhyddhau rheithgor yn achos twyll Richard Wyn Lewis

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug y bydd yr achos yn cael ei ohiro tan Ionawr 2022

Mae'r rheithgor wedi ei ryddhau o'i ddyletswyddau yn achos dyn sydd wedi ei gyhuddo o dwyllo Gerald Corrigan, gafodd ei lofruddio â bwa croes ar Ynys Môn yn Ebrill 2019.

Mae Richard Wyn Lewis, 50, wedi ei gyhuddo o dwyllo Mr Corrigan o £200,000.

Fe wnaeth yr achos o dwyll Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddechrau'r wythnos diwethaf ond mae nawr wedi ei ohirio tan 10 Ionawr 2022.

Cafodd y rheithgor ei ryddhau o'i ddyletswyddau ddydd Llun oherwydd rhesymau iechyd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Daeth honiadau am dwyll i'r golwg yn dilyn ymchwiliad yr heddlu i lofruddiaeth Gerald Corrigan, 74 oed, gyda bwa croes ym mis Ebrill 2019

Mae Mr Lewis o Lanfair-yn-Neubwll, Caergybi yn gwadu wyth cyhuddiad o dwyll.

Mae ei bartner Siwan Maclean, 51, o'r un cyfeiriad, yn gwadu cyhuddiad o gytuno i guddio tarddiad arian a gafwyd yn anghyfreithlon.

Cafodd y cwpl eu cyhuddo a'r ôl i'r heddlu gynnal ymchwiliad i dwyll yn dilyn marwolaeth Mr Corrigan, 74 oed.

Pynciau cysylltiedig