Cyflwynydd yn ddieuog o gam-drin bachgen yn yr 80au
- Cyhoeddwyd
Mae cyflwynydd radio o Abertawe wedi ei gael yn ddieuog o gam-drin rhywiol yn erbyn bachgen "naïf" 40 mlynedd yn ôl.
Roedd Kevin Johns, 60 oed ac o ardal Gorseinon, yn gwadu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus ar y bachgen, oedd yn 14 oed ar y pryd.
Penderfynodd rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon ei fod yn ddieuog yn achos y ddau gyhuddiad.
Dywedodd y Barnwr Judge Timothy Petts wrth Mr Johns ei fod yn gadael y llys "heb farc ar ei enw da".
Fe wnaeth Mr Johns ddiolch i aelodau'r rheithgor sawl tro wrth iddyn nhw fynd heibio i adael y llys.
Yn ystod yr achos roedd wedi disgrifio'r diwrnod y cafodd ei arestio fel diwrnod gwaethaf ei fywyd.
Roedd wastad wedi mynnu bod y dioddefwr wedi camgymryd mai ef oedd y troseddwr.
Fe ddechreuodd y rheithgor ystyried y dystiolaeth ddydd Iau, a dywedodd y barnwr wrthyn nhw ddydd Gwener y byddai'n derbyn dyfarniad y mwyafrif.
Bu Mr Johns yn cyflwyno sioe frecwast ar orsaf Sain Abertawe am 25 mlynedd.
Bu hefyd yn cynnal neu gyflwyno nifer o achlysuron ar gyfer elusennau yn y ddinas ac yng Nghlwb Pêl-droed Abertawe.
Clywodd y llys iddo dderbyn anrhydedd yr MBE, iddo berfformio mewn pantomeim yn Theatr y Grand yn y ddinas ac iddo weithio i'r BBC.
'Codi cyfog'
Darllenodd cyfreithiwr Mr Johns, Matthew Murphy ddatganiad ar ei ran tu allan i'r llys.
Dywedodd bod natur yr honiadau wedi "codi cyfog" ar Mr Johns, oedd yn sefyll wrth ei ymyl ynghyd â'i wraig, Rosemary.
"Maen nhw'n mynd yn groes i bopeth y mae wedi sefyll drosto erioed. Mae'n ddiolchgar ei fod heddiw, o'r diwedd, wedi ei glirio'n gyfan gwbl.
"Afraid dweud bod yr achos yma... wedi cael effaith drychinebus ar fywyd Mr Johns, a'i yrfa yn arbennig. Gyrfa yr oedd Mr Johns yn ei drysori, ac yn cael ei werthfawrogi gan gymuned de Cymru yn ei grynswth. Mae hynny oll wedi ei golli, i bob pwrpas, oherwydd yr achos yma.
"Byddwn yn gwneud sylw pellach yn y man, mewn perthynas â'r ymchwiliad ond bydd hynny'n digwydd unwaith y caf ragor o gyfarwyddiadau gan fy nghleient."
Ychwanegodd bod Mr Johns a'i deulu nawr angen amser i ddod i delerau â'r achos ac ystyried y cam nesaf, ac yn diolch i bawb a roddodd gefnogaeth "oedd wedi ei gadw i fynd drwy'r dyddiau tywyll yma".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2021