Dyn mewn llys dros farwolaeth seiclwr yn Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn lleol 26 oed wedi ymddangos gerbron ynadon ar gyhuddiad o achosi marwolaeth seiclwr yn Ynys Môn y llynedd.
Bu farw Robert Holmes, oedd yn 36 oed a hefyd yn byw yn lleol, wedi gwrthdrawiad ar yr A5025 ym Mhentraeth fis Ebrill diwethaf.
Mae Gareth Morgan o Bentraeth, oedd yn gyrru VW Golf, wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Iau, fe gafodd y diffynnydd fechnïaeth ddiamod nes ei ymddangosiad llys nesaf yn Llys y Goron Caernarfon ar 1 Mehefin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2020