YesCymru: Pleidlais o ddiffyg hyder yn y pwyllgor
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o gynrychiolwyr YesCymru wedi galw am gyfarfod cyffredinol neilltuol yn ogystal â phleidlais o ddiffyg hyder yn y pwyllgor canolog, medd datganiad gan grwpiau'r mudiad.
Daw'r alwad yn dilyn "pryder cynyddol ymhlith grwpiau rhanbarthol ac aelodaeth ehangach y mudiad am y trywydd y bu'r pwyllgor canolog yn arwain YesCymru yn ddiweddar".
Cafodd cyfarfod o bwyllgor cenedlaethol YesCymru ei gynnal ddydd Sadwrn, 31 Gorffennaf, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r pwyllgor canolog yn ogystal â chynrychiolwyr o grwpiau rhanbarthol cyfansoddedig.
Mae aelodaeth y mudiad annibyniaeth wedi cynyddu oddeutu 15,000 dros y 18 mis diwethaf, ond dywedodd Sarah Rees, cadeirydd dros dro YesCymru, bod angen newidiadau strwythurol ar y corff.
Dywedodd ar raglen Politics Wales y BBC fis diwethaf: "Rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n dibynnu gormod ar wirfoddolwyr, a dyna lle mae'n rhaid i ni newid," meddai.
"Felly'r hyn rydyn ni'n ei wneud yw siarad â'n holl aelodaeth iddyn nhw arwain y ffordd o ran sut rydyn ni'n symud yr aelodaeth ymlaen, a sut rydyn ni'n gwneud y newidiadau y mae'n rhaid i ni eu gwneud i adlewyrchu maint y sefydliad erbyn hyn."
'Cyfle cyffrous i ail-osod'
Cafodd yr alwad am gyfarfod cyffredinol neilltuol ei dderbyn gan y pwyllgor canolog, ac fe bleidleisiodd y grwpiau dros y bleidlais o ddiffyg hyder yn y pwyllgor canolog presennol.
Bydd YesCymru yn cynnal cyfarfod cyffredinol neilltuol yn yr wythnosau nesaf i ethol pwyllgor canolog newydd, gan geisio denu ystod eang o ymgeiswyr i adlewyrchu amrywiaeth eang o aelodau'r mudiad.
Bydd mesurau trylwyr yn cael eu cyflwyno i sicrhau fod cymaint ag sydd yn bosibl o'r 18,500 o aelodau yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y pleidleisio.
Dywedodd YesCymru: "Ystyriwn y dyfodol agos fel cyfle cyffrous i ail-osod ac i ganolbwyntio unwaith eto ar neges ganolog YesCymru, sef annibyniaeth i Gymru.
"Mae YesCymru yn edrych ymlaen i'r bennod nesaf yn ei hanes, ac i adeiladu ymhellach ar y don enfawr o gefnogaeth sydd wedi adeiladu yn y blynyddoedd diweddar, ac i atseinio yr alwad i sefydlu Cymru fel gwlad annibynnol a chynhwysol i'w thrigolion i gyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2021