'Cefnogaeth iawn gan ofalwyr yn g'neud byd o wahaniaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae 45,000 o bobl yng Nghymru yn byw â dementia, ac ar wythnos ymwybyddiaeth y cyflwr mae sylw penodol yn cael ei roi i deulu, ffrindiau a chymdogion sy'n gofalu'n ddi-dâl am anwyliaid.
Mewn ymchwil diweddar gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yng Nghymru fe ddywedodd bron i hanner (48.8%) o ofalwyr pobl sy'n byw â dementia bod eu hiechyd wedi gwaethygu yn ystod y pandemig.
Mae'r gwaith ymchwil yn argymell bod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud mwy i adnabod a nodi gofalwyr di-dâl er mwyn iddynt gael mynediad at wasanaethau cymorth pwrpasol.
Yr ofnau yw nad yw nifer o ofalwyr yn cael y gefnogaeth briodol, a bod hynny yn gallu arwain at sefyllfa argyfyngus.
Mae cefnogaeth briodol yn gwneud byd o wahaniaeth, fel yr eglura teulu John Roberts, perchennog busnes lorïau yn Llan Ffestiniog.
Fe gafodd ddiagnosis o ddementia ddwy flynedd yn ôl pan yn 85 oed. Mae nawr yn derbyn gofal diwedd oes.
"Mae hyn yn sioc," meddai ei ferch Nia. "I feddwl ei fod o yn berson sy' wedi gweithio yn galed a 'neud bob dim nes yn 85 ac yn dreifio loris, a rŵan… dim byd.
"Mae'n dibynnu arno ni am bob dim - ellith o 'neud dim drosto fo ei hun ma' arnai ofn.
"Mae ei fywyd o yn hollol wahanol rŵan. 'Dan ni yn deulu agos - mae gen i chwaer a brawd - a rhwng y tri ohonon ni a'r wyrion a'r wyresau 'dan ni yn gofalu am dad.
"'Dan ni yn teimlo ei bod hi'n iawn i ni edrych ar ei ôl o, fath â mae o 'di edrych ar ein holau ni. 'Dan ni yn prowd iawn ein bod ni yn cael g'neud ffasiwn beth ond mae yn dorcalonnus go iawn."
Ychwanegodd Nia: "Mae gyda ni carers efo dad rŵan sy'n dod bore, cinio, te ac yn nos er mwyn i ni fynd adre yn gynt. Ma' hyn yn help mawr.
"'Dan ni yn g'neud ein gorau ac yn eistedd gydag o i gael panad, mynd â fo am dro bach, mynd i Port am hufen iâ.
"'Dan ni'n siarad am ddyn independent sy 'di gweithio yn galed a chyflogi lot fawr o bobl - roedd o'n dreifio bob awr o'r dydd a nos. Mae o wedi gweithio o leia' 18 awr y dydd.
"Ma' dad yn dad rhan fwya' o'r amser ond... dad ni 'di o."
'Fel aur'
Mae Siân ei chwaer yn dweud fod gofalwyr wedi bod yn help enfawr.
"Mae'r carers yn wych," meddai. "Yn ystod y dydd, wedyn yn y nos tua unwaith yr wythnos ma' Marie Curie yn dod mewn i aros hefo dad a ma' nhw hefyd yn wych.
"Ma' nhw fyny efo fi drwy'r nos am bod dad ddim yn siŵr prun ai yw hi yn ddydd neu nos. Mae o yn ffonio fi am un bore yn meddwl bod hi'n bnawn ac yn amser cinio.
"Am fod Marie Curie efo fo dwi yn gallu cael noson o gwsg. Ma'n nhw yn arbennig… fel aur."
Un sydd wedi bod yn helpu a chynghori'r teulu yw Ffion Davies, cydlynydd dementia Sir Fôn a Gwynedd. Mae hi'n gweithio o ganolfan dementia yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn y gogledd.
"'Da ni yng nghanol y gogledd ac yn cefnogi pobl sy' newydd gael eu diagnosio reit ar hyd y daith, a hefyd eu gofalwyr," meddai.
"Mae cyfnod y pandemig wedi bod yn anodd iawn gyda routines gwahanol a ma' y rheolau i beidio cymdeithasu wedi bod yn anodd i bawb, ond yn enwedig i rywun â dementia."
'Angen help ar y ddau'
Gwenno Davies yw arweinydd prosiect dementia ymddiriedolaeth gofalwyr y gogledd.
"'Da ni yn rhoi gwybodaeth am y salwch. Mae llawer o bobl sy yn cael diagnosis dementia yn ei gael yn gynnar ac felly yn gallu dal mynd i'r gwaith ag ati, ond ma' angen i'r teulu i gyd wybod sut mae addasu," meddai.
"'Da ni eisiau i bobl fyw fel y gallan nhw ac addasu i be sy'n digwydd. Dydy llawer o bobl ddim yn sylweddoli eu bod nhw yn ofalwyr, a dydy rhai ddim isio cael eu hadnabod fel gofalwyr.
"Ond mae angen help ar y ddau - yr un sy â'r diagnosis a'r gofalwr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2020