'Dylai'r cynllun seibiant i ofalwyr fod ar gael i bawb'
- Cyhoeddwyd
Bydd cynllun newydd yn ceisio cynyddu'r cyfleoedd i ofalwyr di-dâl yng Nghymru gael seibiant.
Yn ôl y gweinidog iechyd, mae Llywodraeth Cymru yn "ymwybodol iawn" bod y gofalwyr hyn "wedi bod o dan bwysau aruthrol" yn ystod y pandemig.
Dywedodd Eluned Morgan mai'r rheiny sy'n gofalu am rywun am 35 awr yr wythnos neu fwy ac sydd ar gyflog isel fydd yn gallu elwa.
Mae sefydliadau yn y maes wedi croesawu'r buddsoddiad, ond dywedodd un gofalwr o Geredigion ei bod hi'n credu "dylai pawb sy'n ofalwr gael rywfaint o'r arian".
Er mai'r llywodraeth sy'n cyllido'r rhaglen, sy'n costio £9m dros dair blynedd, sefydliad o'r trydydd sector fydd yn ei rhedeg.
"Y syniad yw bod pobl sydd wedi bod yn gofalu am bobl yn ddi-dâl yn cael cyfle i gael toriad," meddai Ms Morgan.
"Ry'n ni'n ymwybodol iawn eu bod wedi bod o dan bwysau aruthrol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
"Gofalwyr sy'n treulio 35 awr neu fwy [yn gofalu bob wythnos] gyda chyflogau isel fydd yn elwa o'r gronfa yma, ac mae hwn ar ben y cronfeydd eraill 'dan ni wedi bod yn rhoi i'r gofalwyr yma, gan gynnwys y £500 diweddar."
'Cyfle i 'neud y ngwallt a cwrdd â ffrindiau'
Mae Megan Jones Roberts, 70, o ardal Aberystwyth yn deall gwerth cyfnod o seibiant.
Mae ei gŵr, Pete Roberts, 74, yn byw â chyflwr Alzheimer ac mae hi'n gofalu amdano 24 awr y dydd.
"Dwi wedi bod yn berson eitha' cymdeithasol fy ffordd, wedi bod yn trefnu lot o gyngherddau yn lleol, codi arian yn lleol, mynd i'r capel - mae hwnnw'n bwysig iawn i fi," meddai.
"Ond erbyn hyn dwi methu gwneud y pethau yma achos dwi methu gadael Pete am gyfnod hir o gwbl, felly mae cael seibiant yn rhoi tamed bach o ryddid i fi gwrdd â ffrindiau, mynd i'r capel, cael siawns i gael fy ngwallt wedi ei wneud.
"Pethau mae pobl eraill yn cymryd yn ganiataol iawn, ond pethau sy'n mynd yn anodd iawn i fi i'w trefnu wrth 'mod i'n gofalu amdano fe 24 awr y dydd."
Er ei bod yn "falch" bod y llywodraeth yn lansio'u cynllun newydd, mae Mrs Jones Roberts yn meddwl y dylai fod ar gael i bawb, waeth beth fo'u hincwm.
"Dwi'n credu dylai pawb sy'n ofalwr gael rhywfaint o'r arian yma, ddylech chi ddim cael eich asesu ar faint o arian sydd gennych chi yn y banc," meddai.
Dywedodd y gweinidog iechyd bod penderfynu pwy sy'n gymwys yn "anodd".
"Ond dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysicach ein bod ni'n rhoi rhywbeth i rywun, yn hytrach na thamed bach bach i bob un, fydd ddim yn gwneud gwahaniaeth," meddai Eluned Morgan.
Ymhlith yr heriau pan mae'n dod at drefnu seibiant mae diffyg darpariaeth addas.
Dywedodd Mrs Jones Roberts bod nifer o'r cartrefi gofal yn ei hardal ddim wedi ailagor yn llawn yn sgil y pandemig, a bod cartref arall wedi dweud nad oedden nhw'n gallu ymdopi ag anghenion ei gŵr wedi iddo dreulio penwythnos saib yno.
Mwy o hyblygrwydd
Ceisio mynd i'r afael â hynny mae rhaglen Pontio'r Bwlch, sy'n cael ei redeg gan sefydliad NEWCIS yn y gogledd-ddwyrain.
Mae'n helpu i gydlynu gofalwyr a chyrff ac unigolion sy'n cynnig seibiant, ac mae'n enghraifft o'r hyn allai ddigwydd ar raddfa ehangach fel rhan o gynllun newydd y llywodraeth.
"Mae o'n gallu cael ei ddefnyddio yn greadigol, yn hyblyg… i gael teulu i mewn i helpu, i gael care workers i mewn i helpu," esbonia Alice Thelwell o NEWCIS.
Ac yn ôl Catrin Edwards o'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr, mae gofalwyr eisiau mwy o "reolaeth a hyblygrwydd" ynghylch eu seibiannau.
"Y ffordd draddodiadol… ydy eich bod yn bwcio lle dros nos, ac mae hynny'n gweithio'n iawn i nifer o bobl," meddai.
"Ond i rai eraill maen nhw eisiau'r hyblygrwydd i ddweud 'dwi am fynd am goffi gyda ffrind rhyw brynhawn' - a chi ddim wastad yn gallu bwcio hwnna fewn chwe wythnos o flaen llaw."
Ychwanegodd Ms Edwards ei bod yn "croesawu" cyhoeddiad y llywodraeth.
"Ry'n ni'n gwybod bod y ddarpariaeth ar gyfer seibiannau byr yn dameidiog cyn y pandemig, ac yn amlwg roedd nifer o ofalwyr yn ystod y pandemig a'r cyfnodau clo ddim wedi cael seibiant o gwbl," meddai.
"Felly mae'n beth da bod y llywodraeth wedi cydnabod y bylchau yna ac yn mynd ar y trywydd cywir i lenwi'r rheiny."
Cwestiynu pwy fydd yn gymwys
Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, llefarydd Plaid Cymru dros Gymunedau a Phobl Hŷn, fod "unrhyw gydnabyddiaeth o'u hymdrech gan Lywodraeth Cymru i'w groesawu'n fawr".
"Fodd bynnag," meddai, "mae rhai cwestiynau y mae angen eu hateb ynghylch pwy fydd yn gymwys i gael y cyllid hwn.
"Mae'r gweinidog iechyd wedi awgrymu y bydd ond ar gael i'r rhai sy'n gweithio fel gofalwr di-dâl am 35 awr yr wythnos neu fwy ac ar incwm isel.
"Gallai hyn eithrio pobl sydd â swydd ran-amser yn ogystal â'u gwaith gofal a gofalwyr hŷn sydd hefyd yn derbyn pensiwn.
"Mae angen inni weld y manylion llawn er mwyn sefydlu faint o ofalwyr di-dâl na fydd yn gymwys ar gyfer y gronfa hon."
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod lle i groesawu'r cyhoeddiad gan mai seibiant ydy un o'r pethau mae gofalwyr yn ei werthfawrogi fwyaf, ond bod y "£9m sydd wedi ei gyhoeddi, wedi ei rannu rhwng 400,000 o ofalwyr di-dâl Cymru, yn golygu tua £20 y pen", meddai'r AS Gareth Davies.
Mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi croesawu'r arian, a dywedodd Jane Dodds bod "angen gwneud mwy i gydnabod gwaith gofalwyr di-dâl a gwneud eu bywydau yn haws".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2020