'Wedi wynebu fy siâr o wahaniaethu a stereoteipio'
- Cyhoeddwyd
Mae elusen yn rhybuddio bod "rhwystrau diwylliannol" yn cael effaith wirioneddol ar bobl LGBTQ+ sydd hefyd yn anabl.
Yn ôl y ffigurau diweddaraf mae tua 5.6% o bobl yng Nghymru yn nodi eu hunain fel di-heterorywiol.
Ond gyda ffigyrau ParaPride yn dangos fod 40% o bobl LGBTQ+ yn y DU hefyd yn nodi eu hunain fel anabl, mae galwadau am fwy o gymorth.
Dywedodd un o sylfaenwyr yr elusen fod '"pobl dal yn anghyfforddus iawn."
'Roedd tyfu i fyny yn anodd weithiau'
Fe anwyd Paul Davies o Dreherbert, Rhondda Cynon Taf, heb law chwith.
Ond dywedodd nad oedd yn sylweddoli pa mor ddifrifol oedd gwahaniaethu rhywiol cyn dod yn Mr Hoyw Cymru a Mr Gay Universe.
Wedi bod eisiau bod yn berfformiwr erioed, ac yn gyn Red Coat yng ngwersylloedd Butlins, gweithiodd fel artist drag a chyflwynydd teledu ochr yn ochr ag ymgyrchu dros anabledd a hawliau LGBTQ+.
Y Mr Gay Universe cyntaf i fod ag anabledd corfforol, dywedodd fod sawl un wedi dweud wrtho na allai ddilyn ei freuddwydion.
"Roedd tyfu i fyny yn anodd weithiau, a dwi wedi wynebu fy siâr o wahaniaethu a stereoteipio," meddai Paul, sy'n 38 oed.
"Un eiliad sydd wedi aros gyda mi oedd athrawes yn dweud wrthyf y byddai fy anabledd yn fy atal rhag cyflawni fy mywyd a'n uchelgeisiau gyrfaol.
"I mi, rydw i'n berson hyderus iawn nawr ond doeddwn i ddim bob amser felly a byddai cael cymorth arbenigol wedi bod o gymorth mawr i mi pan oeddwn i'n dechrau arni."
'Oeddwn yn lwcus iawn'
Tra'i fod wedi derbyn cefnogaeth ei deulu, yn ôl Paul nid oedd rhai pobl eraill yr un mor ffodus.
O ganlyniad mae wedi galw am yr angen i rymuso pobl ifanc a sicrhau nad ydynt yn cael eu hanghofio.
Ychwanegodd y gall rhaglenni fel ReAct, sy'n cynnig cymorth i'r di-waith derbyn sgiliau newydd, fod yn un ffordd o wneud gwahaniaeth.
"Oeddwn yn lwcus iawn, roedd gena'i deulu sy'n edrych ar fy ôl i, right behind me all the way," dywedodd.
"Yn anffodus mae pobl mas yna sydd ddim yn edrych ar bethe yr un ffordd a nhw ac ddim yn gwybod fod pobl anabl yn gallu gwneud pethe.
"Pan fi'n teimlo lawr y'fi yn edrych nol ar fy mhlentyndod a'r cymuned a'r pobl o nghwmpas i a'r journey fi di gael, I have done it, I can do it dwi'n credu yn fy hunain a'r pobl o fy nghwmpas.
"Peidiwch a becso am bobl arall, ni'n neud hynny ormod weithie', ni'n becso am bawb arall ond ddim ein hunain.
"Credwch yn eich hunain.
"Mae pawb di cael taster o fod yn anabl drwy fod yn isolated a peidio gweld pobl, ond mae pobl anabl a phobl hoyw a heb anabledd, dal yn isolated.
"Ni di dysgu fod rhaid i ni barchu'n gilydd a dyna sy'n bwysig."
Ychwanegodd tra'i fod yn hysbys fod pobl ag anableddau yn wynebu mwy o rwystrau yn y gweithle, bod pobl LGBTQ+ hefyd yn cael trafferth, yn enwedig gyda phobl LGBTQ+ yn fwy tebygol o ddioddef o broblemau iechyd meddwl ac o bosibl yn gorfod cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith.
Meddai: "Gall buddsoddi mewn mwy o hyfforddiant LGBTQ+ helpu i gael gwared ar y stigmas a'r rhwystrau mae unigolion yn wynebu a helpu i wella y gweithle i fod yn fwy agored.
"Mae gennym ni i gyd ran i'w chwarae mewn bywyd a thrwy helpu ein gilydd, gallwn ni gyd symud ymlaen gyda'n gilydd."
'Anableddau yn aml yn cael eu gadael allan o'r sgyrsiau hyn'
Yn ôl Daniel Lul - a gollodd ei ddwy goes yn 40 oed yn dilyn llid yr ymennydd - mae llawer o'r stigma sy'n disgyn ar bobl LGBTQ+ sydd hefyd yn anabl yn dod o bobl sy'n meddwl nad ydyn nhw'n teimlo nac yn gweithredu yn yr un ffordd â phawb arall.
"Mae LGBTQ+ yn derm ymbarél ond gall anabledd olygu cymaint o wahanol bethau, felly i lawer o bobl sy'n uniaethu fel y ddau gall fod yn anodd," meddai.
Dywedodd fod "angen amlwg" am elusen fel ParaPride oherwydd hyd yn oed mewn mannau sy'n gorfforol gynhwysol, mae "rhwystrau diwylliannol" o hyd sy'n golygu bod pobl yn cael eu trin yn wahanol, a all gael effaith ar eu hunan-barch a'u dilyniant mewn bywyd.
Wedi cyd-sefydlu'r elusen, dywedodd roedd yn ei chael hi'n arbennig o anodd addasu ar ôl iddo gael ei dorri i ffwrdd o gymdeithas a dod o hyd i'w le yn y gymuned LGBTQ+.
"Mae rhyw yn hoff bwnc ymhlith y gymdeithas LGBTQ+ ond mae anableddau yn aml yn cael eu gadael allan o'r sgyrsiau hyn," meddai.
"Mae pobl dal yn anghyfforddus iawn ac mae hi bron yn haws meddwl am bobl anabl fel anrhywiol hefyd."
Dywedodd bod angen mwy o gymorth i'r byd addysg a chael trafodaethau am bobl LGBTQ+ ond hefyd bod angen addysgu pobl yn y gymuned sut i gefnogi ei gilydd.
Ychwanegodd er na fydd agweddau'n newid dros nos, bydd cael y sgyrsiau yn mynd yr holl ffordd i "wneud i ni deimlo fel ein bod yn cael ein cynnwys".
"Mae pobl yn anabl ond oherwydd y rhwystrau sy'n cael eu cyflwyno gan gymdeithas, ac mae'n wirioneddol bwysig i gyfleu'r neges honno," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2022