Ashley Williams i herio cyhuddiad o 'ymddygiad amhriodol'

  • Cyhoeddwyd
Ashley WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Ashley Williams 86 cap dros Gymru, ac roedd yn gapten ar y tîm yn Euro 2016

Mae cyn-gapten Cymru, Ashley Williams yn bwriadu herio cyhuddiad o ymddygiad amhriodol gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr yn dilyn digwyddiad mewn gêm ieuenctid.

Cafodd cyn-amddiffynnwr Abertawe ei gyhuddo o herio hyfforddwr tîm arall yn ystod gêm dan-12 ym Manceinion yr oedd ei fab yn chwarae ynddi.

Mae bellach wedi ei gyhuddo gan Gymdeithas Bêl-droed Sir Manceinion dan reol sy'n ymwneud ag ymddygiad ymosodol neu fygythiol.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Mr Williams, 38, mai ef ddioddefodd yr ymosodiad.

Mae'n debyg fod Mr Williams wedi gwneud cais am wrandawiad preifat ble bydd yn cyflwyno ei amddiffyniad.

Dywedodd ei lefarydd wrth y Daily Mail: "Cafodd Ashley ei ymosod arno ac roedd yn amddiffyn ei hun.

"Mae gennym ni 45 o dystion - gan gynnwys pobl sy'n rhan o'r ddau dîm oedd ar fin defnyddio'r cae - fydd yn cefnogi ein fersiwn ni o'r hyn ddigwyddodd, a byddwn yn amddiffyn Ashley yn gadarn."

Pynciau cysylltiedig