Ashley Williams yn glir o gyhuddiad 'ymddygiad amhriodol'

  • Cyhoeddwyd
Mae Ashley Williams bellach yn gweithio fel sylwebydd i BBC SportFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ashley Williams bellach yn gweithio fel pyndit i BBC Sport

Mae cyn-gapten Cymru, Ashley Williams yn glir o gyhuddiad o ymddygiad amhriodol yn dilyn digwyddiad mewn gêm ieuenctid.

Cafodd cyn-amddiffynnwr Abertawe ei gyhuddo o herio hyfforddwr tîm arall yn ystod gêm dan-12 ym Manceinion yr oedd ei fab yn chwarae ynddi.

Ond fe ddaeth comisiwn disgyblu Cymdeithas Bêl-droed Lloegr i'r casgliad nad oedd y cyhuddiad wedi ei brofi.

Dywedodd y gymdeithas y bydd y rhesymau dros y penderfyniad yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Mae Williams, 38, wedi ennill 86 o gapiau dros Gymru ac wedi chwarae i glybiau fel Everton a Stoke.

Roedd yn gapten ar dîm Cymru yn nhwrnament Euro 2016.

Pynciau cysylltiedig