Sefydlu Eisteddfod leol ar gyfer pobl LHDTC+?
- Cyhoeddwyd
Fe fyddai sefydlu Eisteddfod leol ar gyfer pobl hoyw, lesbiaidd, deurywiol, traws a chwîar, yn dangos bod "dim angen colli" eich hunaniaeth Gymraeg os ydych yn rhan o'r gymuned LHDTC+, yn ôl un sy'n gobeithio cystadlu.
Os bydd digon o ddiddordeb, y bwriad yw cynnal yr Eisteddfod, y cyntaf o'i math, yn yr haf eleni yng Nghaerdydd, gyda'r gobaith o symud o gwmpas y wlad yn y dyfodol.
Fe fyddai'r Eisteddfod yn ddatblygiad ar arlwy Mas ar y Maes, gŵyl i ddathlu'r gymuned LHDTC+ a gafodd ei sefydlu fel rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol rhai blynyddoedd yn ôl.
Mae'r trefnwyr wedi bod yn cynnal ymgynghoriad ar gynnal Eisteddfod swyddogol i gystadleuwyr LHDTC+ er mwyn cyflwyno tystiolaeth o ddiddordeb mewn Eisteddfod o'r fath.
"Ces i cyfarfod gyda'r Eisteddfod Genedlaethol a naeth nhw gynnig sefydlu Eisteddfod Mas Ar y Maes i bobl LHDTC+, ond cyn 'neud 'ny, cyn i ni 'neud 'na'n swyddogol, mae'n rhaid i ni dangos bod rhyw fath o diddordeb yn gwneud 'ny," meddai Daniel Bowen, o siop lyfrau LHDTC+ yng Nghaerdydd, Paned o Gê.
"Dwi 'di sefydlu Google Form, dwi 'di dosbarthu fo a just nawr mae angen i bobl lenwi fo mewn i ddangos i'r byd mae yna awydd i wneud digwyddiad o'r math 'ma."
Mae'r ymgynghoriad bellach wedi cau ac mae'r ymateb wedi bod yn "galonogol" yn ôl Daniel Bowen.
'Eisteddfod i bawb'
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol a Chymdeithas Eisteddfodau Cymru yn gefnogol o'r syniad ac yn ôl Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, mi fydd yn Eisteddfod "i bawb".
"Mi fydd e'n dilyn patrwm Eisteddfodau bach, felly mi fydd gynnoch chi restr destunau, mi fydd 'na gyfleoedd a dwi'n siŵr y byddan nhw'n edrych am rywbeth gwahanol i'w gyflwyno," meddai Betsan Moses.
"Mi fydd e'n gynhwysol hefyd, bydd cyfle i bawb. Mi fydd e'n rhywbeth sy'n ychwanegiad, yn gyfle i bobl i gymryd rhan."
"Dwi'n credu bod hwn yn ddatblygiad hyfryd oherwydd mae'n rhoi cyfle i Eisteddfod fach Mas ar y Maes ddigwydd ac yna mae pobl falle yn gallu gweld hwn ac ystyried 'o dwi'n licio hwn, dwi eisiau bod ar y siwrne' 'ma.' Falle fe ddown nhw i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Mae'n Eisteddfod gwbl gynhwysol. Mas ar y Maes fydd yn creu'r rhaglen... mae pob Eisteddfod lle mae Eisteddfodau Cymru yn eu creu, yn agored i bawb, ac mae hynny'n bwysig.
"Yn yr un modd, mae gweithgareddau Mas ar y Maes yn agored i bawb yn yr Eisteddfod [Genedlaethol]."
'Pwysig i bawb sy'n siarad Cymraeg weld eu hunain'
Mae Crash Wigley, sy'n arwain côr Cantorion Traws Caerdydd, yn croesawu'r camau at greu Eisteddfod arbennig i bobl LHDTC+.
"Nathon ni berfformio yn Mas ar y Maes pan oedd yr Eisteddfod yng Nghaerdydd ychydig o flynyddoedd yn ôl," meddai.
"Roedd pobl yn joio mas draw. Mae wedi bod yn peth lovely i rannu gyda'r côr achos mae'n gôr di-Gymraeg y rhan fwyaf, felly i gyflwyno caneuon Cymraeg iddyn nhw a helpu pobl i ddysgu nhw, cyflwyno cerddoriaeth newydd, mae wedi bod yn bleser."
"Mae'n anfon y neges bod dim angen colli rhan hynna o'ch hunaniaeth achos bod ti'n LHDT, 'da chi ddim angen gadael Cymraeg chi ar stepen y drws, so dwi'n meddwl bod hwnna wedi bod yn bwysig iawn o ran codi gwelededd pobl LHDT sy'n siarad Cymraeg.
"Mae'r Eisteddfod yn ddigwyddiad pwysig iawn, achos bod o'n dathlu diwylliant Cymraeg, ac mae'n bwysig wedyn i bawb sy'n siarad Cymraeg i allu gweld nhw eu hunain yn cael eu cynrychioli yn y dathliad yna."
"Mae'n cyflwyno diwylliant Cymraeg i gynulleidfa ehangach o bobl LHDT sy'n gallu joio cymryd rhan yn festivities yr Eisteddfod yn eu cymunedau nhw."
Yn ôl Crash Wigley, mae'r côr yn awyddus i gystadlu yn yr Eisteddfod - rhywbeth dydyn nhw erioed wedi ystyried gwneud o'r blaen.
"Roedd pobl wedi joio cymryd rhan yn yr Eisteddfod cymaint y tro diwethaf, pan oedd o yng Nghaerdydd, felly roedd pobl yn awyddus iawn i gael go. Dydyn ni heb gystadlu mewn unrhyw beth o'r blaen felly bydd hwnna'n brofiad newydd i ni!"
'Mae'n bwysig iawn'
Yn siop y Queer Emporium yng nghanol Caerdydd, roedd 'na groeso hefyd.
"Dwi'n meddwl bod e'n syniad da iawn achos mae'n bwysig i gael y gymuned at ei gilydd," meddai Jack Hayward.
"Efallai wnai drio [cystadlu] ond sa i'n siŵr os byddai'n ddigon da!"
Mae Jack Coles yn dod o Fryste ac yn dysgu Cymraeg.
"Byddai cael rhywbeth lle gallaf gymysgu fy nghymuned a dysgu Cymraeg - byddai hynny'n wych i fi fel dysgwr.
"Mae'n bwysig iawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2022
- Cyhoeddwyd8 Awst 2022