Digwyddiadau Mas ar y Maes wedi 'denu atgasedd a sylwadau sarhaus'
- Cyhoeddwyd
Mae Mas ar y Maes, sy'n cynnal a hyrwyddo digwyddiadau LHDTC+ yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn dweud fod rhai o'r digwyddiadau eleni wedi "denu atgasedd a sylwadau sarhaus".
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr ŵyl fod "brwdfrydedd, egni a sylwadau cadarnhaol" mwyafrif y bobl fu'n mynychu'r digwyddiadau yn ystod yr wythnos wedi bod yn destun balchder mawr i'r trefnwyr.
Ond aeth ymlaen i ddweud ei bod yn "dorcalonnus" fod rhai digwyddiadau wedi denu sylwadau negyddol.
Ychwanegodd fod hynny yn "ein hatgoffa o bwysigrwydd bodolaeth Mas ar y Maes".
Mae digwyddiadau Mas ar y Maes wedi bod yn rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol ers Prifwyl Caerdydd yn 2018.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Diolch i'r cannoedd ohonoch sydd wedi heidio draw i ddigwyddiadau #MasArYMaes yn Eisteddfod Ceredigion eleni," meddai datganiad Mas ar y Maes, sydd wedi cael ei ail-drydar gan gyfrif yr Eisteddfod.
"Mae'ch brwdfrydedd, egni a'ch sylwadau cadarnhaol yn llenwi'r partneriaid a'r trefnwyr â balchder.
"Serch yr holl bositifrwydd, mae'n dorcalonnus bod rhai o'n digwyddiadau wedi denu atgasedd a sylwadau sarhaus.
"Mae'n holl bartneriaid, perfformwyr a chyfranwyr yn gwbl glir - nid oes croeso i gasineb ar faes yr Eisteddfod, na chwaith wrth ymateb i'n cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Mae targedu perfformwyr, rhai ohonynt sy'n bobl ifanc, yn llwyr annerbyniol.
"Er lleiafrif yw'r ymatebion negyddol, mae'n ein hatgoffa o bwysigrwydd bodolaeth Mas ar y Maes a'r frwydr o waredu casineb sydd yn parhau."
Ddydd Mercher fe wnaeth yr Eisteddfod rannu lluniau ar Twitter o sesiwn Amser Stori Drag yn y Pentref Plant.
Fe wnaeth y lluniau hynny ddenu sylwadau negyddol gan sawl person a oedd yn dweud fod y sesiwn yn anaddas i blant - sylwadau sydd bellach wedi'u cuddio gan yr Eisteddfod.
Diwrnod yn ddiweddarach, mewn ymateb i'r post gwreiddiol, dywedodd yr Eisteddfod ar Twitter: "Diolch i bawb sydd wedi cefnogi'r sesiwn hon.
"Rydyn ni'n ymroddedig i ddathlu amrywiaeth o bob math ar bob un o'n llwyfannau gan gynnwys y Pentref Plant."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn gynharach yn yr wythnos dywedodd Iestyn Wyn o Stonewall Cymru fod Cymry yn "licio meddwl" eu bod nhw'n gynhwysol tuag at bobl LHDTC+, ond bod "dal ffordd i fynd" i sicrhau bod pobl o fewn y gymuned yn gyfforddus yn mynegi eu hunain.
"Mae pethau'n gwella'n bendant, ond mae dal ffordd i fynd," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2022
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2022