Therapi newid cyfeiriadaeth rywiol yn 'hunllef' plismona
- Cyhoeddwyd
Fe allai cynnwys yr erthygl yma beri gofid i rai.
Mae dyn a dderbyniodd driniaeth yn yr 1970au er mwyn ei atal rhag bod yn hoyw wedi croesawu gwaharddiad ar therapi sy'n ceisio newid cyfeiriadaeth rywiol pobl, ond yn dweud y bydd yn "hunllef" i'w blismona.
Cafodd John Sam Jones, 67, ei fagu mewn cartref Cristnogol yng ngogledd Cymru mewn cyfnod pan oedd pobl hoyw yn cael eu hystyried yn wael yn feddyliol gan nifer.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau i wahardd therapïau sy'n ceisio newid cyfeiriadaeth rywiol pobl (conversion therapy) yng Nghymru a Lloegr fel rhan o gyfraith newydd.
Bydd yn cyhoeddi rhagor o fanylion am sut y bydd y gwaharddiad yn amddiffyn y rheiny sydd mewn perygl maes o law, er bod nifer o grwpiau crefyddol wedi amddiffyn y triniaethau.
'O'n i'n meddwl bo' fi'n wallgo'
Yn ôl Mr Jones, roedd agweddau tuag at fod yn hoyw yn negyddol iawn wrth iddo gael ei fagu yn y 60au, er iddo gael ei wneud yn gyfreithlon yn 1967.
"Roedd pobl hoyw yn cael eu carcharu, gyda phobl yn dweud eu bod nhw'n berygl i blant," meddai Mr Jones.
"Erbyn o'n i'n 18 oed, o'n i wedi derbyn y sylwadau negyddol i gyd. O'n i'n meddwl bo' fi'n wallgo', yn wael ac yn drist."
Roedd Mr Jones wedi dechrau meddwl am ladd ei hun.
Pan ofynnodd am gymorth, fe wnaeth seiciatrydd awgrymu ei fod yn gallu "trin" ei rywioldeb gan ddefnyddio therapi oedd yn cynnwys sioc drydanol - electric shock aversion therapy.
"Nes i gytuno i'r driniaeth oherwydd o'n i'n ofni bod yn fi fy hun. O'n i ddim eisiau bod yn hoyw," meddai.
Fel rhan o'i driniaeth, roedd pornograffi hoyw yn cael ei ddangos iddo tra roedd wedi'i gysylltu ag electrodau.
Pe bai'n cael codiad, byddai'n cael sioc drydanol.
Fel rhan o'r driniaeth, roedd Mr Jones wedyn yn cael "gwobr", sef gwylio pornograffi rhwng dyn a menyw.
Dywedodd nad oedd eisiau cael rhyw o gwbl ar ôl y driniaeth yn yr ysbyty yn Ninbych, sydd bellach wedi cau.
"Doedd dim llawer o urddas yno, ond ges i fy annog i feddwl bod hon yn driniaeth ddilys ac y dylwn gymryd rhan ynddi cystal ag y gallwn i," meddai.
"Y syniad oedd y byddwn yn cysylltu'r sioc negyddol gyda'r pornograffi hoyw, a'r rhyddid rhag sioc gyda phornograffi heterorywiol."
'Ôl-fflachiau o'r therapi'
Cafodd John y driniaeth am awr, yn ddyddiol, am nifer o wythnosau. Dywedodd y cafodd ei ryddhau rhag y driniaeth yn y pendraw am ei fod yn ffugio ei ymateb.
Ar ôl gadael yr ysbyty, fe wnaeth Mr Jones geisio lladd ei hun oherwydd bod y driniaeth wedi methu, ac felly bu'n rhaid iddo ddychwelyd yno.
Yr eildro, fe gafodd ei lonyddu yn feddygol gyda chyffuriau yn hytrach na chael y therapi.
"Am flynyddoedd, o'n i'n cael ôl-fflachiau o'r therapi pan yn cyffroi'n rhywiol," meddai Mr Jones.
Am ddegawd, tan iddo droi'n 28 oed, bu'n dioddef symptomau tebyg i anhwylder straen wedi trawma (PTSD), ac ni lwyddodd i gael perthynas rywiol iach.
Ond fe newidiodd pethau wrth iddo symud i Galiffornia i astudio yn 1984.
"Rhoddais fy holl egni i mewn i astudiaethau academaidd, a thra yno cefais y cyfle i gael therapi a oedd yn 'hoyw-bositif', a oedd yn caniatáu i mi ddad-ddysgu llawer o'r negyddiaeth yr oeddwn wedi'i ddysgu neu ei amsugno fel plentyn, ac roeddwn yn gallu adennill ymdeimlad o fy hun," meddai.
"Heb y therapi yn America, dwi ddim yn siŵr lle fyddwn i wedi diweddu."
'Sut mae plismona sgyrsiau tawel?'
Mae Mr Jones bellach yn byw yn yr Almaen gyda Jupp, ei ŵr ers 37 o flynyddoedd, ac yn dweud fod gwahardd y driniaeth "ofnadwy" yn hollbwysig.
Mae ganddo bryderon y bydd hi'n anodd atal therapïau siarad sy'n bwriadu "gweddïo'r hoyw i ffwrdd" am eu bod yn digwydd mewn "ystafelloedd tawel sy'n aml yn gysylltiedig â chrefydd a ffydd".
"Sut mae plismona sgyrsiau tawel sy'n ceisio ysgogi newid mewn cartrefi teuluol a sefydliadau crefyddol? Mi fyddai hynny'n hunllef," meddai.
Mae Mr Jones wedi cael diagnosis o ganser y prostad yn ddiweddar - cyflwr sydd wedi ei orfodi i fyfyrio ar y ffaith nad yw erioed wedi derbyn ymddiheuriad am ei driniaeth.
"Byddai ymddiheuriad yn bwerus i'r rhai sydd wedi byw gyda goblygiadau seicolegol y therapi," meddai.
Nid yw'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru na Lloegr wedi ymateb i gais BBC Cymru am sylw neu i gynnig ymddiheuriad.
Mae grwpiau iechyd meddwl wedi rhybuddio fod unrhyw fath o therapi sy'n ceisio newid cyfeiriadaeth rywiol pobl yn "anfoesol ac yn niweidiol".
Mae Alia Ramna, menyw drawsryweddol 22 oed o Gaerdydd, hefyd wedi derbyn therapi oedd yn ceisio newid ei chyfeiriadaeth rywiol.
"O'n i'n gwybod mod i'n wahanol ac fe ddigwyddodd hynny dros gyfnod o amser, ond roedd pethau wedi newid pan o'n i'n 16 oed ac o'n i methu cydffurfio.
"Nes i sylweddoli os nad o'n i'n rhannu fy stori, fyddwn i'n marw achos o'n i methu gweld fy hun fel dyn rhagor.
"Doedd dim opsiwn arall, naill ai trawsnewid neu farw."
Yn ôl Ms Ramna, pan wnaeth ei theulu ddarganfod, gorfodwyd iddi adrodd penillion crefyddol er mwyn "gweddio'r hoyw i ffwrdd".
"Mae'r ffaith fod y therapi yma yn digwydd yn 2023 yn ofnadwy - mae dal yn digwydd mewn cartrefi pobl a thu ol i ddrysau caeedig."
Yn ôl Ms Ramna, mae angen llefydd diogel i bobl traws, a ffyrdd diffwdan i bobl ofyn am gymorth.
Dywedodd Andrea Williams, prif weithredwr Christian Concern, y byddai'r gwaharddiad "yn troseddoli sgyrsiau cydsyniol gyda'r rhai sydd wir eisiau cymorth a chefnogaeth".
Mae Christian Concern yn paratoi camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw ddeddfwriaeth yn y maes.
Mae'r Gynghrair Efengylaidd, sy'n cynrychioli 3,500 o eglwysi, yn dadlau y gallai gwaharddiad beryglu rhyddid crefyddol.
Dywedodd Cyngor Mwslimaidd Cymru fod ganddyn nhw amheuon dwfn, ac y gallai'r gwaharddiad danseilio rhyddid crefyddol.
Ychwanegodd llefarydd: "Mae amddiffyn lleiafrifoedd rhag triniaeth niweidiol a difrïol yn nod teilwng, fodd bynnag mae deddfwriaeth yn arf di-fin ac yn aml yn arwain at ganlyniadau anfwriadol."
Dywedodd Llywodraeth y DU y byddai'n cyhoeddi bil drafft i wahardd therapïau trosi.
Ychwanegodd lefarydd: "Mae gan yr heddlu brofiad o ddelio â throseddau mewn lleoliadau preifat, a byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion ynglŷn â sut y bydd y gwaharddiad yn amddiffyn y rhai sydd mewn perygl maes o law."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2021
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2023