'Y driniaeth i'm gwella o fod yn hoyw yn gamdriniaeth lwyr'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Frenhines wedi dweud y bydd Llywodraeth y DU yn ymrwymo i wahardd therapi sydd yn ceisio newid cyfeiriadaeth rywiol pobl.
Wrth iddi draddodi ei haraith yn Nhŷ'r Arglwyddi, nododd flaenoriaethau'r llywodraeth ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Roedd y rhan fwyaf o'r araith yn berthnasol i Loegr, ond dywed un Cymro ei fod yn croesawu'n fawr un ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i Gymru.
"Roedd y driniaeth a gefais yn Ysbyty Dinbych yn 1975 i'm gwella o fod yn hoyw yn gamdriniaeth lwyr," medd John Sam Jones, sy'n dod yn wreiddiol o'r Bermo ond bellach yn byw yn Effeld yn Yr Almaen.
Mae esgobion Yr Eglwys yng Nghymru hefyd wedi croesawu'r cyhoeddiad.
Mae nifer o bobl yn gwrthwynebu mesur o'r fath gan honni ei fod yn cyfyngu ar ryddid crefyddol ac yn atal gwaith bugeiliol.
I fudiad Stonewall, sy'n lobïo dros hawliau pobl LGBTQ+, mae'n gam hynod o bwysig. Bydd cyfnod ymgynghori ar y mater yn gyntaf.
'Ddim yn g'neud unrhyw synnwyr'
"Dwi'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod llywodraethau rownd y byd yn trafod hyn ac yn penderfynu ei bod yn anweddus i geisio newid cyfeiriadaeth rywiol rhywun - dydi o ddim yn gwneud unrhyw synnwyr ein bod yn ceisio newid rhywbeth sydd yn rhan annatod o bersonoliaeth rhywun," ychwanegodd John Sam Jones.
"Yn y saithdegau roedd y driniaeth a oedd yn bodoli ar y pryd yn fy nenu - roeddwn i'n ddeunaw oed, yn mynd i'r capel a'r Ysgol Sul ac wedi sylweddoli fy mod i yn hoyw.
"Roedd bod yn hoyw yn teimlo'n gwbl annerbyniol. I ddweud y gwir roedden wedi dechrau meddwl am hunanladdiad.
"Es i weld seiciatrydd a dywedodd os buaswn i'n mynd i mewn i Ysbyty Dinbych y byddwn yn cael triniaeth a fyddai'n newid fy nghyfeiriadaeth rywiol - ie yr electric shock aversion therapy.
"Yn ystod y driniaeth roedd rhywun yn dangos pornograffi hoyw i mi ac os oedd fy nghorff yn ymateb i'r stimulus yna roeddwn i'n cael sioc drydan drwy freichled fach ar fy mraich - roedd hyn yn mynd ymlaen am ryw awr bob dydd am wythnosau lawer. Roeddwn i hefyd yn cymryd cyffuriau antidepressant ac mi oedd fy mhen i'n ddryslyd dros ben.
"Ond rhywsut neu'i gilydd mi wnes i ddod i ddeall fod y driniaeth yn mynd yn erbyn rhywbeth oedd yn rhan naturiol ohonof i. Mi wnes i ddechrau teimlo fod y driniaeth yn gamdriniaeth."
Nid yw'r driniaeth drydanol yn cael ei defnyddio bellach ond mae rhai yn parhau i gynnig therapi ar ffurf cwnsela a siarad er mwyn ceisio argyhoeddi fod cyfunrywiaeth yn duedd "annaturiol a pheryglus".
Byddai'r ddeddf newydd yn ceisio rheoli triniaethau tebyg.
"Dwi ddim yn hollol sicr a fydd newid y gyfraith yn helpu'r unigolyn sydd yn stryglo yn uniongyrchol ond yn sicr mae ffurfio deddfwriaeth yn gam ymlaen," ychwanegodd John Sam Jones.
"Roedd y driniaeth a gefais i wedi cael ei gwrthbrofi ers blynyddoedd lawer yn Ewrop ac America. Mae nifer ohonom, a ninnau'n fregus, wedi ymddiried mewn pobl a oedd yn credu bod y driniaeth yn feddygol addas."
Ganol Ebrill eleni fe wnaeth y Cynulliad yn Stormont basio cynnig a fyddai'n gwahardd therapi sy'n ceisio newid cyfeiriadaeth rywiol pobl yng Ngogledd Iwerddon.
'Does dim lle iddo yn y byd cyfoes'
Ddydd Gwener, fe gyhoeddodd Yr Eglwys yng Nghymru ddatganiad yn croesawu gwahardd y therapi dadleuol.
Cafodd y datganiad ei arwyddo gan Esgob Bangor, Andy John; Esgob Llanelwy, Gregory Cameron; Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy; Esgob Llandaf, June Osborne; ac Esgob Mynwy, Cherry Vann.
Dywed yr esgobion: "Rydym yn credu bod rhywioldeb dynol yn rhodd gan Dduw i'w goleddu a'i anrhydeddu.
"Mae'n rhan gynhenid o bwy ydyn ni fel bodau dynol ac yn fynegiant o amrywiaeth ogoneddus creadigaeth Duw.
"Mae unrhyw beth sy'n ceisio awgrymu bod unrhyw beth, yn ei hanfod, yn anghywir neu'n bechadurus yn y sawl an-heterorywiol, neu sy'n ceisio gorfodi pobl i geisio newid eu rhywioldeb yn, credwn, anghywir.
"Mae'n gamdriniaeth ac yn achosi trawma, fel y gallai'r rheiny sydd wedi profi'r fath 'therapi' dystio.
"Ychwanegwn ein lleisiau at rai Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a swyddogion gofal iechyd proffesiynol eraill o ran cydnabod bod ymarfer therapi newid cyfeiriadaeth rywiol yn achosi niwed oes i'r rhai sy'n cael eu gorfodi i fynd drwyddo a does dim lle iddo yn y byd cyfoes."
Mae'r esgobion hefyd yn "erfyn" ar Senedd Cymru i gyflwyno "deddfwriaeth gadarn" pan ddaw'r amser iddyn nhw ystyried y mater a gwahardd y fath therapi a "gwarchod pobl LGBTQI+ yng Nghymru rhag yr ymarfer "niweidiol yma".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2021