Beth yn union yw mate?

  • Cyhoeddwyd
bbc

Os ydych yn 'nabod rhywun o Dde America, neu'n ymwybodol o ddiwylliant gwledydd deheuol y cyfandir mae siawns eich bod yn gyfarwydd a mate.

Mae'n agwedd bwysig o hunaniaeth y gwledydd hyn yn ogystal â bod yn ddiod i dorri syched.

Hanes mate

Diod traddodiadol sy'n cael ei yfed yn yr Ariannin, Paragwâi, Wrwgwái ac yn rhai darnau o Bolifia, yw mate.

Mae'n debyg mai pobl brodorol y Guaranì a'r Tupí oedd yn ei yfed yn wreiddiol. Fe ddaeth yr arferiad yn Yr Ariannin gyda mewnfudwyr dros y canrifoedd. Erbyn heddiw, mate yw diod cenedlaethol Yr Ariannin.

Disgrifiad,

Dau fideo archif o'r Wladfa ym Mhatagonia yn y 1960au

Er fod yr arferiad o yfed te Cymreig yn bwysig i'r gymuned Gymraeg yn y Wladfa (mae yna 'dai te' ym mhobman yno) mae yfed mate yn ran fawr o'u diwylliant hefyd, gan mai Archentwyr ydynt.

Mae mate'n hynod boblogaidd gyda chwaraewyr pêl-droed o'r Ariannin ac Wrwgwái, gyda Lionel Messi a Luis Suárez ymysg y defnyddwyr mwyaf selog.

Disgrifiad o’r llun,

Lionel Messi'n dathlu buddugoliaeth Yr Ariannin yng Nghwpan y Byd 2022 gan yfed mate yn y gwely

Sut mae paratoi mate?

Yr enw ar y llestr yw mate. Ynddo rydych yn rhoi 'yierba' sef y te wedi ei wneud gyda dail celyn wedi eu sychu. Mae dŵr poeth yn cael ei arllwys ar ben y te a'i adael i fwydo am ychydig. Wedyn rydych yn rhoi'r 'bombilla' metel i fewn i'r diod a'i ddefnyddio fel gwelltyn i sugno'r diod.

Mae blas chwerw i'r diod, gyda llawer yn ei ddisgrifio fel blas glaswellt.

Mae Santi Meza yn dod o'r Gaiman yn nhalaith Chubut, Patagonia, ac mae bellach yn byw yn Nhrelew, sy'n dref tua maint Wrecsam.

Cymry sydd ar ochr teulu tad Santi (Evans), ac mae draw yng Nghymru ar y funud ar ysgoloriaeth. Rhannodd Santi ei wybodaeth o mate gyda Hollie, sy'n gweithio i BBC Cymru Fyw.

Disgrifiad,

Santi Meza o Drelew yn dysgu Hollie o Cymru Fyw am mate

Mae yna ddefod arbennig chymdeithasol yn perthyn i'r arferiad o yfed mate. Mae'r person sy'n paratoi'r diod yn ei basio mlaen i'r person agosaf iddynt, mae rhaid gorffen y cwpan a'i basio mlaen i'r person nesaf yn y cylch. Mae fwy o ddŵr yn cael ei dollti fewn ar gyfer pob person sydd am ei yfed.

Felly, os ydych am fynd i Dde America rhyw ddydd, neu os ydych yn 'nabod rhywun o' wledydd deheuol y cyfandir, gwnewch yn siŵr bod eich cwpan mate yn barod i rannu diod, neu chynnig croeso cynnes.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig