Pum munud gyda... Gethin ap Dafydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r hydref wedi glanio unwaith yn rhagor sy'n golygu cryn dipyn o waith i un gŵr o Faenclochog. Gethin ap Dafydd sy'n tyfu, casglu a gwasgu afalau o'i berllan ei hun ac o berllannau eraill ar draws y wlad.
Aeth Cymru Fyw i Sir Benfro i gael sgwrs gyda Gethin.
Mae'n brysur arnat ti ar hyn o bryd rhwng rhedeg y cwmni a gweithio yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd. Sut wyt ti'n dod i ben â hi?
Dwi yn teimlo mod i'n rhedeg o gwmpas fel dyn gwyllt ar hyn o bryd. Dwi'n gweithio fel peiriannydd clinigol sef edrych ar ôl peiriannau electroneg sy'n cysylltu â'r cleifion. Dwi ddim yn gweld golau dydd yn aml iawn yn ystod oriau gwaith oherwydd dwi lawr yn y seler!
Unwaith dwi'n gadael yr ysbyty dwi'n neidio yn y fan er mwyn casglu afalau, naill ai o gwmpas Sir Benfro neu lawr yn Sir Fynwy.
Mi wnes i adeiladu sied a phrynu gwasgwr newydd ond mi fydd y seidr yn cael ei botelu gan gwmni arall. Mae Julie'r wraig a'r merched yn helpu yn y berllan pan mae'n braf, ond dim os yw hi'n bwrw - dim ond fi a'r ci fydd wrthi wedyn. Dwi'n torri'r ffrwyth a'u gwasgu nhw fy hunan.
O ble ddaeth yr awydd i greu seidr?
Daeth y diddordeb drwy'r afal i ddechrau. Mae fy rhieni wastad wedi bod yn arddwyr felly ges i fy magu ar ffrwythau. Pan ro'n i'n wyth oed dwi'n cofio bwyta afal a gweld yr hadau. Mi es i ati i blannu'r hadau mewn pot ac erbyn hyn mae'r goeden afalau yna'n tyfu yn fy mherllan.
Bob blwyddyn ro'n ni'n mynd fel teulu i ŵyl peiriannau stêm yn Dorset. Mae'r rhan yna o'r wlad yn enwog am seidr. Dwi'n cofio gwylio mrawd yn straffaglu adre' gyda'r nos ar ôl bod yn yfed y scrumpy lleol! Yna pan ro'n i'n ddigon hen ges i flas arni hefyd.
Es i ati i gasglu afalau o berllannoedd tref Llanbed, ble ges i fy magu, ond roedd yr afalau mor galed fe dorrodd y peiriant gwneud sudd! Dorrais i fy mys a dwi'n tybio bod y sudd wedi mynd yn syth i fy ngwaed felly mae'r afal yn rhedeg trwy ngwythiennau i erbyn hyn.
Pa fath o afalau rwyt ti'n eu tyfu ac yn defnyddio ar gyfer dy seidr?
Dwi'n hoffi defnyddio afalau o Sir Fynyw a rhai Cymreig fel Pig Aderyn, Pren Glas a Pen Caled. Mae'r tri math yma'n dod o Landudoch ac yn ôl y profion a wnaed arnynt dyw eu DNA nhw ddim i'w gweld yn unman arall yn y byd.
Mi blanais i berllan ar dir ffrind ger Mathri rhai blynyddoedd yn ôl. Mae'r berllan yn bwysig iawn i ni fel teulu oherwydd fe wnes i a Julie briodi yno. Mae'n cynnwys mwy o rai Cymreig ac yn eu plith mae Afal Enlli o'r gogledd, Pig Yr Wydd a Tin Yr Wydd. Maen nhw wedi cael yr enwau hynny oherwydd elfennau arbennig. Gyda Phig Yr Wydd mae'r goes rhwng yr afal a'r gangen yn edrych fel pig. Mae'r un peth yn wir gyda Phig Aderyn. Ga'th Tin Yr Wydd ei enw oherwydd bod gwaelod y ffrwyth yn edrych fel tin gwydd!
Mae angen cofio nad afalau bwyta yw afalau seidr oherwydd maen nhw'n rhy sur.
Pam 'nes ti ddewis yr enwau ar y diodydd?
Enwau ar hen feiciau yw 'Penny-farthing,' 'Boneshaker' a 'Vintage'. Ro'n i arfer reidio beic Penny-farthing pan ro'n i'n blentyn; mae'n gysylltiad gyda hen beiriannau a'r ŵyl lawr yn Dorset.
Y rheswm dwi 'di sillafu seidr fel cyder yw oherwydd mai dyma'r hen ffordd Saesneg. Yn wreiddiol byddai seidr o'r wasgfa cyntaf yn cael ei sillafu gyda'r 'y'. Pan oedd yr hen bobl yn ychwanegu dŵr a'r pylp sych ar gyfer yr ail wasgfa mi fydden nhw'n defnyddio'r 'i.' Dyma'r seidr byddai'r gweithwyr yn ei yfed ar y ffermydd oherwydd roedd e'n wanach.
A oes yna draddodiad o greu seidr yng Nghymru?
Y Normaniaid ddaeth â seidr draw i Loegr yn ystod y ddeuddegfed ganrif. Yn y bedwaredd ganrif ar ddeg daeth yr hylif i ddwyrain Cymru.
Roedd gwneud seidr yn bwysig yng nghalendr ffermwyr Sir Fynwy a Maesyfed. Y gred yw mai'r mynyddoedd rwystrodd y traddodiad o dyfu coed afalau seidr rhag lledu draw i'r gorllewin. Mae yna hanes creu seidr mewn ambell i blas yng ngorllewin Cymru ar gyfer y meistri'n unig.
Beth rwyt ti wedi ei ddysgu o'r fenter a beth yw dy gyngor di i unrhywun arall sy'n awyddus i fentro i'r maes?
Dwi wedi dysgu llwyth o bethau a dwi dal i ddysgu! Yn benodol dwi wedi dysgu ychydig am elfennau cemegol a biolegol wrth greu seidr. Dwi angen profi'r sudd ar gyfer lefelau siwgr, asid ac alcohol. Dysgais i sut i fynd ati i blannu perllan ac edrych ar ôl y coed, sgiliau DIY fel plymio, weldio, gwaith trydanol, gwaith papur ar gyfer y dyn treth, spreadsheets, anfonebu a hyfforddiant ar sut i flasu seidr gan wybod beth sy'n dda a beth sydd ddim.
Y cyngor orau sydd gen i yw i fod yn amyneddgar ac i ddyfalbarhau. Er bod y gwaith yn gallu bod yn anodd ar adegau mae'n bwysig cael hoe fach nawr ac yn y man ac i beidio trial 'neud popeth dy hunan. A joia! Os nad wyt ti'n joio yna beth yw'r pwynt?
Beth yw dy gynlluniau ar gyfer y dyfodol?
Yn y tymor byr mi fydda i'n brysur tan Nadolig yn creu a dosbarthu'r seidr i siopau a thafarndai lleol. Dwi ddim yn gallu mentro ymhellach na Sir Benfro a de Ceredigion ar hyn o bryd - does gen i ddim digon o amser rhwng rhedeg y busnes a gweithio yn yr ysbyty.
Mi fydden i wrth fy modd yn cynnal bywoliaeth o'r seidr, cael bod allan yn y caeau gyda'r coed a'r ffrwythau. Pwy na fyddai'n hoffi cael eu talu am wneud ei hobi? Rhyw ddiwrnod efallai...
Hefyd o ddiddordeb: