Y peiriannydd RAF sy'n creu gwin yn ei amser rhydd
- Cyhoeddwyd
Casglu mwyar duon ac afalau sy’n cael eu cysylltu efo cynaeafu yn yr hydref yng Nghymru, ond gyda bron i 40 gwinllan yma bellach mae mwy nag erioed o gasglu gwin eleni.
Cymru Fyw fu’n holi rhai o fewn y diwydiant i glywed pam bod gwinoedd yn ffynnu – a'r realiti tu cefn i’r ddelfryd.
O drin awyrennau i'r winllan
Ar ôl treulio’r diwrnod yn gwneud yn siŵr bod awyrennau’r RAF yn hedfan yn ddiogel, byddai nifer yn estyn am lasiad o win i ymlacio - ond mynd i dorri gwair, tocio coed a chasglu grawnwin fydd un dyn yn ei wneud.
Mae Gavin Jones a’i wraig Elin, o Ynys Môn, ymysg cynhyrchwyr gwin newydd Cymru ac fel nifer maen nhw’n gwneud hynny yn eu hamser sbâr.
Peiriannydd awyrennau yn Y Fali ydi Gavin, mae Elin yn gweithio'n llawn amser hefyd ac maen nhw'n magu dau o blant.
“Mae o’n lot o waith - ein problem fwya' ni ydi amser,” meddai Gavin
“Mae 'na rywbeth bob nos, yn football neu rygbi neu geffylau.”
Fe ddechreuodd y cyfan chwe blynedd yn ôl pan oedd y ddau wedi mynd am y diwrnod i ffair cefn gwlad tra'n chwarae efo'r syniad o ddechrau busnes bach:
“Natho ni fynd i’r game fair, trio gwin yn fanna ac ar y ffordd adra dwi’n meddwl dyma ni’n jest meddwl ‘be' am i ni gael gwinllan?’
"Felly wnaethon ni blannu 50 adra (ar fferm y teulu).”
Fe gawson nhw gyngor ar beth i’w wneud gan berchennog Gwinllan Conwy oedd hefyd yn edrych ar ôl dros 2000 o goed ar dir yn Nwyran, Ynys Môn. Ar ôl “dysgu llwyth” ganddo, fe gawson nhw’r cyfle i gymryd gofal o’r winllan yn 2020 ac maen nhw nawr yn cynhyrchu gwin Gwynfyd Môn.
Angen datblygu teithiau
Eu gobaith ydi plannu gwinllan mwy ar eu tir nhw, gan arbed hanner awr ar deithio i'r safle.
“Y bwriad yn y pendraw ydi dibynnu arno fo lawn amser,” meddai Gavin wrth Cymru Fyw o’r winllan, lle’r oedd yn tocio coed cyn mynd ar shifft 2-10pm yn Y Fali.
“Y bwriad ydi gwneud tours, dyna fasa’n dod â’r pres i mewn, mae pobl yn talu i ddod ar y tour ac wedyn ti’n gwerthu gwin iddyn nhw.
"Ar hyn o bryd 'da ni’n gwerthu mewn marchnadoedd a sioeau ond mae hynny’n cymryd amser. Mae gwneud tour yn cymryd amser ond ti’n gwneud mwy o bres na sefyll tu ôl i fwrdd a gwerthu fel yna, efo rhai pobl yn ei drio fo, ac wedyn yn troi a cherdded i ffwrdd. Dyna pam 'da ni eisiau cael gwinllan adra i ni fedru datblygu’r busnes.”
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2021
'Doedd dim cefndir gyda ni'
Sefyllfa debyg sydd mewn gwinllan deuluol arall ger Aberaeron.
‘Teulu bach cyffredin’ ydi un Siw a Richard, heb unrhyw gefndir mewn gwin, busnes na ffermio pan brynon nhw Llaethliw yn 2008.
Yn debyg i Gavin ar Ynys Môn, gyrfa mewn hofrenyddion sydd gan Richard hefyd - ond yn eu hedfan nhw. Fe benderfynodd blannu’r winllan ar y tir wrth eu cartref tra’r roedd o allan yn gweithio gyda Shell yn Nigeria.
“Doedd dim cefndir gyda ni, dim gwybodaeth - ond edrych ar y we i wybod be’ ni angen gwybod am y flwyddyn cynta’,” meddai Siw.
Ers hynny mae’r busnes wedi datblygu a’u mab Jac wedi gwneud cwrs dwy flynedd ar redeg gwinllan, ac mae 15,000 o goed bellach yn creu gwinoedd Llaethlliw.
Mae’r lleoliad yn y lluniau yn edrych yn hyfryd, ond dim ond hanner y stori ydi hynny meddai Siw:
“Ydi ma’n neis pan mae’n braf a ni tu allan ond y dyddie diwetha’ fi wedi bod allan yn y gwynt a’r glaw yn pigo shoots i fyny ac wedi bod ers Mehefin - a ni’n mynd syth fewn i’r pigo. Fi’n gorfod meddwl rŵan pwy fi am ffonio, a fi’n teimlo mod i’n began - dibynnu ar deulu fydd rhywun.
“Pan ni’n dweud wrth bobl bod ganddo ni winllan maen nhw’n meddwl bod e’n idyllic - ond dyw e ddim. Ond mae 'na botensial ac mae angen bod yn bositif.”
Mae Siw yn nain a gyda dyletswyddau gwarchod ac mae Richard yn dal i weithio. Mae’r winllan yn gallu bod yn waith caled meddai, ac yn gostus mewn amser ac arian rhwng mynd â’r grawnwin i Telford i greu’r gwin, talu am y poteli, cludo, labelu, gwerthu ac ati.
“Ni angen gwneud bwyd yma, dyna sy’n dod â phobl i mewn - pobl sy’n cerdded yr arfordir neu ddod am wyliau i Aberaeron ac yn meddwl ‘be' wnawn ni heddi?’.
“A phobl leol - sa’m lot yn gwybod bod ni 'ma'. Ond i wneud 'ny mae angen buddsoddi.”
Mae hanes gwin yng Nghymru yn mynd yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid, ac roedd mynaich hefyd yn trin gwinllannau. Yng Nghastell Coch, ger Caerdydd, cynhyrchwyd y gwin modern cyntaf ym Mhrydain a hynny rhwng canol oes Fictoria a'r Rhyfel Byd Cyntaf. Fe gafodd gwinllan hynaf Cymru - Glyndŵr - ei sefydlu ger Y Bont Faen ar ddiwedd yr 1970au.
Ond beth am y dyfodol?
Prisiau am ddod lawr?
Mae Dylan Rowlands, o siop win Dylanwad Da yn Nolgellau, yn dweud ei fod wedi gweld datblygiad mawr yn y pum mlynedd diwethaf yn niferoedd a safon y gwinoedd Cymreig.
Dywed bod nifer cynyddol yn sylweddoli bod modd gwneud elw o gynhyrchu gwin yng Nghymru diolch i fathau penodol o rawnwin fel Solaris a Rondo sy’n gallu aeddfedu yn yr hinsawdd.
Meddai: “Mae pum acer o dir am roi sawl mil o boteli, ond faint o ŵyn fyddai rhywun yn ei gael ar yr un pum acer? Ond mae 'na ansicrwydd - mae'n bosib cael chwarter yn llai o win un flwyddyn o’i gymharu efo blwyddyn arall.”
Ac er bod mwy o winllannau erbyn heddiw, tydi bron i 40 ddim yn ffigwr uchel meddai, sy'n gallu cael ei adlewyrchu mewn pris potel.
“Yn bersonol dwi’n meddwl bod prisiau yng Nghymru yn mynd i ddod lawr. Mae tua 1000 gwinllan yn Lloegr - ac mae eu prisiau nhw yn rhatach am y 'run fath o stwff.”
Ennill gwobrau rhyngwladol
Mae’n bwysig cadw’r safon meddai perchennog gwinllan Velfrey yn Sir Benfro a chadeirydd Cymdeithas Gwinllannau Cymru.
Gyda newid hinsawdd yn debygol o arwain at fwy o gynhyrchu gwin yng Nghymru, mae 'na dal le i ddatblygu meddai Andy Mounsey, ond fyddai o yn bersonol ddim o blaid cael gormod o grantiau fyddai’n arwain at bobl yn dechrau cynhyrchu gwin.
Meddai: “Yng Nghymru mae’r holl winllafoedd yn cael eu rhoi i mewn gan bobl sy’n angerddol am y peth a dim fel rhyw ‘wna i hyn hefyd’ am arian.
“Felly mae ’na fwy o amrywiaeth yng Nghymru ac mae pobl yn barod i arbrofi - fel creu gwin organig, gwin biodymnamig, a defnyddio grawnwin newydd.
“Tydi gwin Cymru ddim yn quirky - mae ganddo enw yn rhyngwladol ac wedi ennill gwobrau i brofi hynny."
Mewn diwydiant sy’n dal i ddatblygu mewn gwlad lle mae’n dal yn sialens i redeg busnes gwin, Siw Evans o Winllan Llaethliw sy'n crynhoi:
“Fydda i’n gofyn weithiau, ydyn ni’n ddwl neu’n ddewr gyda’r winllan?
“Fi’n meddwl fydd newid mawr o fewn pump i 10 mlynedd, fydd mwy o bobl yn clywed amdanon ni ac am win Cymru a fi’n siŵr fydd gwahaniaeth mawr. Falle mewn pum mlynedd fyddwn ni’n dweud wnaethon ni’r peth iawn.”