Ryseitiau moctêls Nadoligaidd i ddathlu'r ŵyl

  • Cyhoeddwyd
Dewi Arfon JonesFfynhonnell y llun, Iolo Penri

Eisiau dathlu cyfnod y Nadolig ond ddim isho'r penmaenmawr y bore wedyn? Diod heb alcohol amdani...

Mae Dewi Arfon Jones o far Y Segontiwm yng Nghaernarfon wedi llunio rhestr o ryseitiau ei hoff moctêls, ac maen nhw'n ddigon hawdd i chi eu gwneud adref i'ch teulu a'ch ffrindiau!

Mocito-ho-ho (Mistletoe Mockito)

Os ydych chi awydd moctêl blasus ac adfywiol gyda'r holl drimins, yna allwch chi ddim mynd yn anghywir â'r rysáit syml hwn!

Ffynhonnell y llun, Dewi Arfon Jones

Cynhwysion

5 deilen mintys ffres

25ml o sudd lemwn

25ml o surop siwgr

125ml o ddŵr soda

Rhew mâl

Sleisen o leim ffres

Dull

  • Arllwyswch y sudd leim a'r surop siwgr i wydr tal ac yna cleisio'r dail mintys yn y cymysgedd surop/sudd i ryddhau'r olewau.

Ffynhonnell y llun, Dewi Arfon Jones
Disgrifiad o’r llun,

Rhaid rhyddhau'r blas o'r dail mintys

  • Sgŵp hael o rew wedi'i falu ac yna ei ychwanegu at ddŵr soda, ei gymysgu'n dda gyda gwelltyn neu lwy hir.

  • Addurnwch gyda sbrigyn o fintys a sleisen o leim. Mwynhewch!

Fizz Llugaeron Llawen (Crimbo Cranberry Fizz)

Mae'r moctêl llawn sbeis hwn yn siŵr o roi naws y Nadolig i chi!

Ffynhonnell y llun, Dewi Arfon Jones

Cynhwysion

1 llwy de o sinamon

1 llwy de o siwgr gronynnog

Sleisen o leim

15ml o sudd leim

100ml o gwrw sinsir

100ml o sudd llugaeron

Rhew mâl

Dull

  • Cymysgwch y sinamon a'r siwgr ar blât bach. Rhedwch y sleisen o leim ar ymyl y gwydr, yna rhowch y gwydr yn y gymysgedd.

Ffynhonnell y llun, Dewi Arfon Jones
  • Arllwyswch weddill y cynhwysion i'r gwydr ynghyd ag un neu ddau sgŵp o rew mâl a'i gymysgu'n dda.

  • Eisteddwch yn ôl a mwynhewch!

Lemonêd Rhewllyd (Frosty Lemonade)

Lemonêd cymylog clasurol neis a hawdd. Perffaith i olchi lawr eich cinio Nadolig!

Ffynhonnell y llun, Dewi Arfon Jones

Cynhwysion

Croen lemwn a siwgr gronynnog

Sleisen o lemwn

25ml o sudd lemwn

25ml o surop siwgr

125ml o ddŵr soda

Dull

  • Gratiwch ychydig o groen lemwn yn fân a chymysgwch â'r siwgr ar blât bach. Rhedwch y sleisen o lemwn ar draws ymyl y gwydr ac yna rhowch y gwydr yn y cymysgedd.

  • Arllwyswch y sudd lemwn, surop siwgr a'r iâ i mewn ac yna ychwanegu'r dŵr soda.

  • Cymysgwch yn dda a'i addurno gyda sleisen o lemwn yna mwynhewch!

Nadolig Di-alcohol Llawen!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig