Elfyn Evans yn gorffen yn ail yn Rali Sweden

  • Cyhoeddwyd
Car Elfyn EvansFfynhonnell y llun, Massimo Bettiol
Disgrifiad o’r llun,

Fe orffennodd Evans 29 eiliad y tu ôl i Esapekka Lappi o'r Ffindir

Fe lwyddodd Elfyn Evans i gau'r bwlch ar frig Pencampwriaeth Ralïo y Byd 2024 wrth i'r Cymro gipio'r ail safle wedi cymal olaf rali Sweden ddydd Sul.

Roedd Evans yn drydydd cyn dechrau'r cymal olaf, ond ar ôl i'r Ffrancwr Adrien Fourmaux gael gwrthdrawiad yn yr Eira, fe lwyddodd Evans i godi i'r ail safle gan ychwanegu pwyntiau hollbwysig at ei gyfanswm yn y gystadleuaeth.

Esapekka Lappi o'r Ffindir oedd fuddugol gyda mantais o 29 eiliad, tra bod Fourmaux wedi gorffen yn drydydd.

Dywedodd Evans: "Gollais i'r cyfan ar y corneli olaf yn yr arena, ond dwi'n meddwl y gallwn ni fod yn fodlon gyda'r canlyniad yma, yn enwedig wrth ystyried yr hyn ddigwyddodd dydd Gwener".

Mae'r canlyniad yn golygu bod Evans yn ail yn y bencampwriaeth (WRC) wedi dwy rali, triphwynt y tu ôl i Thierry Neuville o Wlad Belg - a orffennodd yn bedwerydd yn Sweden.

Pynciau cysylltiedig