Tamaid o Ffrainc: Crêpes
- Cyhoeddwyd
Ooh la la! Tro Ffrainc yw hi i wynebu'r crysau cochion y penwythnos yma.
Gyda bwyd Ffrengig ymhlith y gorau yn y byd, mae digon o opsiynau am beth i'w fwyta wrth wylio'r gêm, ond dim ond un dewis amlwg sydd i deulu Bethan Fournet yng Nghaerdydd, eglura:
"Crêpes ydi un o hoff fwyd y teulu, yn enwedig y plant, gyda siocled a banana neu caws a ham ar ben y rhestr.
"Mae Nic yn wreiddiol o dde Ffrainc ac yn hoff iawn o goginio pan nad yw'n cefnogi Ffrainc yn y rygbi."
Felly ai 'C'mon Cymru!' neu 'Allez les Bleus!' fydd hi yn eu cartref pan fydd y gêm ymlaen ar y teledu ddydd Sul? Rhaid cadw'r ddysgl yn wastad wrth gwrs...
"Bydd Manon ac Alys yn gorfod gwisgo lliwiau'r ddwy wlad ar ddiwrnod y gêm er mwyn cadw pawb yn hapus!"
A beth bynnag fydd y canlyniad, os oes gennych chi grempog o'ch blaen, oes ots?!
Bon appétit!
Crêpes
Cynhwysion
250g blawd
4 ŵy
500ml llaeth
Pinsied o halen
2 lwy fwrdd siwgr
50g menyn wedi toddi
Dull
Rhowch y blawd mewn powlen gyda'r halen a siwgr
Gwnewch 'ffynnon' yn y canol a thywallt yr wyau i mewn iddo
Dechreuwch gymysgu'n ofalus. Pan fydd y gymysgedd yn dechrau mynd yn drwchus, ychwanegwch laeth bob yn dipyn
Pan mae'r llaeth i gyd wedi ei gymysgu i mewn, dylai'r cytew (batter) fod eithaf dyfrllyd (os yw'n rhy drwchus, ychwanegwch laeth). Yna ychwanegwch y menyn wedi toddi (oer) a chymysgu'n dda
Coginiwch y crêpes mewn padell boeth (gydag ychydig o olew os nad yw'n un non-stick). Rhowch letwadiad (ladle) o'r cytew i'r badell, gan ei droi o gwmpas er mwyn gorchuddio'r holl arwyneb
Gosodwch y badell ar y gwres, a phan mae ymylon y crempog yn troi'n frown, mae'n amser i'w droi
Coginiwch am ryw funud ar yr ochr yma, yna mae'r crempog yn barod
Ailadroddwch nes i chi ddefnyddio'r holl gymysgedd (neu eich bod chi'n llawn!)
Hefyd o ddiddordeb: