Tamaid o Iwerddon: Crúibíní

  • Cyhoeddwyd
Ryland Teifi a'i ferchedFfynhonnell y llun, Ryland Teifi
Disgrifiad o’r llun,

Ryland gyda dwy o'i ferched, Myfi a Cifa, yn eu coch a gwyrdd ar ddiwrnod gêm rai blynyddoedd yn ôl

Pwy bynnag fydd yn fuddugol yn y gêm rhwng Iwerddon a Chymru ddydd Sadwrn, bydd dagrau o lawenydd a dagrau o alar yng nghartref Ryland Teifi a'i deulu.

Yn wreiddiol o Ffostrasol, mae'r actor a'r canwr wedi ymgartrefu yn An Rinn yn ne ddwyrain Iwerddon gyda'i wraig, sy'n Wyddeles, a'u tair merch a gafodd eu geni yng Nghymru ond eu magu ar yr Ynys Werdd.

Ai rhywbeth Gwyddelig fydd ar y fwydlen wrth wylio tybed?

"Slawer dydd, mi fyddai Crubeens (Crúibíní mewn Gwyddeleg) yn boblogaidd yn enwedig mewn tafarndai," eglurai Ryland.

"Cyn i greision ddod yn boblogaidd gyda peint, doedd dim byd yn maeddu Crubeens neu Pig's Trotters. Rhywbeth tebyg i pork scratchings am wn i, ond yn lot fwy naturiol. Traed y mochyn druan a rhai yn dweud am ryw reswm fod y traed blaen yn felysach na'r rhai ôl.

"Dyma fwyd delfrydol ar gyfer gêm rygbi yn enwedig wrth wylio mewn tafarn. Nid y bwyd mwya' iach ond nid dyna'r nôd ar ddiwrnod rhyngwladol!

"'Wy'n cofio fy ngwraig Róisín yn sôn fod ei thad weithiau yn dod â rhai gartre ar ôl noson o ganu mewn tafarn a ry' chi'n gweld sôn amdanynt mewn caneuon gwerin fel The Galway Races, cân boblogaidd gan The Clancy Brothers;

And a big crubeen for threepence

To be pickin' while you're able

"Swnio'n ddelfrydol ar gyfer gêm Iwerddon a Chymru."

Gobeithio fydd hi ddim yn draed moch ar y crysau cochion, wir...

Ffynhonnell y llun, JackF

Crúibíní

Comhábhair

6 chrúibín

Oinniún mór amháin

Cairéad mór amháin

Duilleog labhrais

5 nó 6 chraobhóg peirsile

Craobhóg mhór tíme

Roinnt piobarchaor

Dóthain uisce chun an fheoil a chlúdach go maith

NÍL SALANN AG TEASTÁIL

Treoracha

  • Cuir na comhábhair ar fad le chéile i bpota mór agus clúdaigh le huisce fuar iad

  • Déan an t-uisce a fhiuchadh agus bearr an cúr salach den bharr

  • Coinnigh ort á fhiuchadh go réidh ar feadh 2 nó 3 huaire go dtí go mbeidh an fheoil bog

  • Is féidir leat na crúibíní a ithe agus iad te nó fuar, in éineacht le beagáinín mustaird más mian leat

Crúibíní

(Rysáit gan Darina Allen)

Cynhwysion

6 troed mochyn

1 nionyn mawr

1 moronen fawr

1 deilen llawryf (bay)

5 neu 6 coesyn persli

Sbrigyn o teim

Ychydig o rawn pupur (peppercorns)

Digon o ddŵr oer i'w gorchuddio

DIM HALEN

Dull

  • Rhowch yr holl gynhwysion mewn sosban fawr a'u gorchuddio â digon o ddŵr oer

  • Dewch â'r dŵr i'r berw a chodi'r saim

  • Berwch yn araf am 2-3 awr neu nes fod y cig yn feddal a brau

  • Gallwch eu bwyta yn gynnes neu'n oer, gydag ychydig o fwstard os hoffech chi.

Hefyd o ddiddordeb: