Defnydd bach o wasanaethau Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Wedi i Meri Huws gael ei phenodi yn Gomisiynydd Iaith cyntaf Cymru mae BBC Cymru wedi holi cwmnïau yng Nghymru am y defnydd o wasanaethau Cymraeg.
Fe fydd gan y Comisiynydd nifer fawr iawn o ddyletswyddau.
O gynnal ymchwiliadau i unrhyw faes o ddiddordeb i'r Gymraeg i gynghori'r llywodraeth ar bolisi iaith ac edrych ar bolisïau'r llywodraeth a'r effaith ar yr iaith.
Yn ogystal, gallai orfodi rhai cwmnïau preifat i gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg.
Ond mae cwmniau yn dweud nad oes 'na alw am wasanaethau yn y Gymraeg neu mai bach iawn o bobl sy'n eu defnyddio.
Fe wnaeth BBC Cymru holi HSBC, Nwy Prydain, Dŵr Cymru, BT, Tesco a NatWest.
Er nad yw'n ganlyniad gwyddonol, mae'n rhoi syniad o'r sefyllfa.
Yn ôl HSBC mae ganddyn nhw tua 600,000 o gwsmeriaid yng Nghymru ac ar ddiwrnod arferol ym mis Medi tua 1,700 o bobl ddewisodd yr opsiwn Cymraeg yn y peiriant twll yn y wal.
Mae HSBC hefyd wedi cadarnhau mai un ymhob 1,000 o'u cwsmeriaid sy'n gofyn am eu gwybodaeth bancio trwy'r Gymraeg, 1.1% o'u cwsmeriaid.
Dywedodd Rhys Jones, Rheolwr Materion Corfforaethol Nwy Prydain, mai bach iawn o ddefnydd sydd 'na o'u gwasanaethau Cymraeg.
Cysondeb
Maen nhw'n derbyn tua 400 o alwadau ffôn y mis i'w llinell Gymraeg, tua 16 o alwadau'r dydd.
"Llai na 0.5% o'r cysylltiad yr ydym yn ei gael gan ein cwsmeriaid sy'n dod gan rai yn Gymraeg ac yn gofyn am y gwasanaeth drwy'r Gymraeg.
"Mae Nwy Prydain wedi hysbysebu yn y gorffennol i gael mwy yn defnyddio ein gwasanaethau yn y Gymraeg ond mae'r nifer wedi aros yn gyson."
Dywedodd mai'r her i'r Comisiynydd fydd ceisio cael mwy o bobl i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael.
Dywedodd Dŵr Cymru mai tua 3% o'u holl alwadau yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf oedd i'w llinell ffôn Gymraeg.
Caiff tua 5,500 o bobl eu bil dŵr yn uniaith Gymraeg sef 0.5% o'u holl gwsmeriaid.
Doedd BT ddim yn fodlon rhyddhau'r union ffigyrau dim ond dweud fod y defnydd o'u gwasanaethau Cymraeg yn wael.
A dywedodd Tesco a Nat West nad ydyn nhw'n cadw ffigyrau penodol am y defnydd yn y twll yn y wal neu wrth dalu eich hun.