Y ffotograffydd o Gasnewydd a dynnodd luniau eiconig o'r Beatles ac Audrey Hepburn

John Briggs, curadur Galeri Cwtsh (chwith) a William Cross (dde), hanesydd a chasglwr brwd o waith Angus McBean
- Cyhoeddwyd
Mae arddangosfa o luniau Angus McBean, un o ffotograffwyr mwyaf arwyddocaol yr 20fed ganrif, yn cael ei chynnal yng Ngaleri Cwtsh yng Nghasnewydd tan 12 Hydref.
Ymhlith y 66 o luniau sydd ar ddangos o gasgliad preifat yr hanesydd William Cross, mae lluniau y tynnodd McBean o rai o actorion enwocaf ei gyfnod - Audrey Hepburn, Richard Burton, Marlene Dietrich a Laurence Olivier.
Dyma'r tro cyntaf i luniau McBean gael eu harddangos yng Nghasnewydd, lle cafodd ei fagu a lle datblygodd ei gariad tuag at gelfyddyd y camera.
"Mae hon yn arddangosfa bwysig iawn," meddai John Briggs, curadur Galeri Cwtsh, yn wreiddiol o Minnesota.
"Dyma'r tro cyntaf i luniau McBean gael eu harddangos yng Nghasnewydd - dinas a oedd yn golygu llawer iddo."
'Codi ymwybyddiaeth'

Angus McBean
Meddai William Cross, sydd newydd gyhoeddi llyfr am waith McBean: "Rydyn ni'n trio codi ymwybyddiaeth am waith anhygoel McBean yn fan hyn.
"Mae ganddo ddilyniant, ond efallai yn fwy ymhlith aficionados hanes ffotograffiaeth, yn anffodus.
"Roedd yn Gymro balch, ac mi ddylai'r Cymry fod yn dathlu gwaith McBean a'i waddol fel un o'r ffotograffwyr pwysicaf erioed."
Pwy oedd Angus McBean?
Ganwyd McBean ar 8 Mehefin 1904 yn Nhrecelyn ger Casnewydd.
Roedd ei dad yn arolygydd yn y pyllau glo, ac o ganlyniad i'w waith fe symudodd y teulu o amgylch de Cymru yn ystod blynyddoedd cynnar McBean, cyn setlo yng Nghasnewydd.
Aeth McBean i Ysgol Ramadeg Trefynwy, ac yna fe astudiodd yng Ngholeg Technegol Casnewydd, lle fe daniwyd ei gariad tuag at ffotograffiaeth.
Gwerthodd McBean oriawr aur a etifeddodd gan ei dadcu er mwyn prynu ei gamera gyntaf yng Nghasnewydd.
Yn 15 oed, dechreuodd gymryd rhan mewn cynhyrchiadau theatr amatur yn y Lyceum Theatre yn Nhrefynwy, gan gynllunio setiau a chreu props a gwisgoedd.
Wrth edrych nôl ar ei yrfa, fe ddywedodd mai yn y theatr yn Nhrefynwy y taniwyd ei ddiddordeb yn y theatr a pherfformio.
Gadael Cymru am y West End

Angus McBean yn paratoi i dynnu llun yr actor Diana Churchill yn 1940, gan ddefnyddio un o'i setiau swrealaidd adnabyddus
Yn 1925, yn 21 oed, gadawodd McBean Gasnewydd a mynd i weithio yn siop adrannol Liberty's yn Llundain.
Er ni ddaeth McBean fyth yn ôl i fyw yng Nghymru, ni wnaeth erioed anghofio ei gefndir Cymreig.
Meddai William Cross: "Roedd McBean yn falch iawn o'i Gymreictod.
"Ac roedd yn ffrindiau gyda nifer o Gymry enwog alltud yn Llundain - Ivor Novello, Emlyn Williams a Binkie Beaumont."
Yn 1932, symudodd McBean i weithio yn theatrau'r West End yn creu pypedau a mygydau, ac yn dylunio setiau tra'n arbrofi gyda ffotograffiaeth yn ei amser sbâr.
Gwnaeth enw i'w hunan ym myd y theatr am ei fygydau trawiadol yn gyntaf, gan dynnu sylw y ffotograffydd enwog Hugh Cecil.
Cynigiodd Hugh Cecil swydd i Angus fel cynorthwyydd iddo yn ei stiwdio ffotograffiaeth. Yno, fe ddysgodd dynnu lluniau mewn arddull fodern ac ymhen dim fe agorodd McBean ei stiwdio ei hun mewn seler ar Belgrave Road yn Pimlico.

Lluniau hyrwyddo McBean ar gyfer sioeau cerdd Ivor Novello, Crest of the Wave a Careless Rapture
Ond yn 1936, fe ddaeth tro ar fyd i McBean pan gafodd ei gomisiynu i greu mygydau ar gyfer y ddrama The Happy Hypocrite gan yr actor Cymreig, Ivor Novello.
Ar ôl i Novello weld gwaith ffotograffiaeth unigryw McBean, cafodd gomisiwn ganddo i dynnu lluniau hyrwyddo ar gyfer ei ddramau.
Dyma oedd cychwyn gyrfa McBean fel ffotograffydd ar gyfer rhai o gynyrchiadau mwyaf adnabyddus y West End yn y 40au a'r 50au.
Yn ystod y cyfnod hwn, roedd yn arbrofi gydag arddull swrealaidd - yn hoff o greu setiau arallfydol fel cefnlen i'w luniau o actorion.
Bu'n tynnu lluniau trawiadol o sêr y theatr fel Laurence Olivier, Richard Burton, Vivien Leigh a'r Fonesig Edith Evans.
Tynnu lluniau eiconig o Audrey Hepburn

Llun Angus McBean o'r actor Audrey Hepburn ar gyfer hysbyseb sebon, cyn iddi ddod yn fyd-enwog
Yn 1942, arestiwyd Angus McBean am fod yn hoyw, oedd yn anghyfreithlon ar y pryd yn y Deyrnas Unedig. Cafodd ei ddedfrydu i bedwar mlynedd yn y carchar, ond fe gafodd ei ryddhau o'r carchar yn 1944.
Doedd McBean ddim yn siŵr os fyddai'n cael gweithio eto, ond yn fuan, cafodd ei wahodd yn ôl i'r theatr i dynnu lluniau ei hen gleientiaid i gyd.
Ar ddiwedd y 40au, fe dynnodd luniau eiconig o Audrey Hepburn, oedd yn enw anghyfarwydd ar y pryd - yn chwarae rhannau di-nod yn y theatr ac mewn ffilmiau.
Mae'n debyg mai lluniau McBean o Hepburn ar gyfer hysbysebion sebon ac eli haul a gyflwynodd y ddelwedd o Hepburn i'r byd a wnaeth iddi ddod yn seren a chael ei rhannau ffilm mawr cyntaf.
Tynnu lluniau cloriau albyms y Beatles

Dau o gloriau albyms y Beatles a dynnwyd gan Angus McBean
Daeth ail wynt i yrfa McBean ar ddiwedd y 50au pan gafodd ei gomisiynu gan label recordiau EMI i dynnu lluniau ar gyfer eu cloriau recordiau.
Roedd McBean yn gyfrifol am gloriau albyms i nifer fawr o artistiaid mwyaf y cyfnod, gan gynnwys Cliff Richard, Shirley Bassey, Spike Milligan a Paul Robeson.
Ond heb os, y cloriau fwyaf eiconig dynnodd McBean oedd ar gyfer albyms gan y Beatles, sef eu halbwm cyntaf Please Please Me (a ailddefnyddiwyd ar gyfer The Red Album) a'r albwm 1967-1970 (neu The Blue Album).
Ar gyfer y cloriau hyn, tynnodd McBean luniau o'r Fab Four yn edrych i lawr o falconi yn stiwdio recordio EMI yn Abbey Road - yn 1963 ar ddechrau eu gyrfa, ac yn 1969 ar ddiwedd eu gyrfa.
Yn y 70au, wnaeth ymddeol yn rhannol o fyd ffotograffiaeth. Er hynny, parhaodd i weithio i gylchgronau ffasiwn L'Officiel a French Vogue ac yn 1984 roedd yn actor yn y fideo i'r gân Red Guitar gan David Sylvian, cyn aelod y band enwog Japan.
Bu farw McBean yn 1990 yn ei gartref yn Ipswich yn 86 oed.
Gwaddol Angus McBean

Angus McBean yn 1979
Felly beth yw gwaddol Angus McBean, a pham ei fod yn ffigwr mor arwyddocaol yn hanes ffotograffiaeth?
Meddai John Briggs: "Roedd McBean yn arloeswr go iawn, ac fe newidiodd fyd ffotograffiaeth portrait am byth.
"Roedd ei luniau swrealaidd yn hollol chwyldroadol hefyd.
"Mae'n anodd credu roedd e'n creu'r lluniau yma i gyd mewn dark room heb unrhyw beth fel Photoshop neu unrhyw fath o dechnoleg sydd gyda ni nawr.
"Roedd McBean cymaint o flaen ei amser."
Mae arddangosfa 'Angus McBean: A Celebration' yn cael ei chynnal tan ddydd Sadwrn 12 Hydref yng Ngaleri Cwtsh, Casnewydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd10 Mai 2023