Lluniau: Bywyd gwyllt yr hydref yng Nghaerdydd a'r Fro

Llwynog yng nghanol y nos yn crwydro caeau Mynydd y Garth ger Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Nid dim ond yng nghefn gwlad Cymru mae bywyd gwyllt yn ffynnu, ond yn ei dinasoedd a'i hardaloedd trefol hefyd.
 thymor yr hydref wedi'n cyrraedd mae Cymru Fyw wedi gofyn i'r ffotograffydd Gildas Griffiths o'r Barri i ddogfennu bywyd gwyllt Caerdydd a'r Fro wrth iddo fynd am dro.
Ydy hi'n teimlo'n hydrefol yn eich ardal chi hefyd?
Anfonwch eich lluniau draw at cymrufyw@bbc.co.uk

Bilidowcar Afon Taf ger Radyr wrthi'n chwlio am bysgodyn neu lysywen

Llygoden fawr yn twrio llwybrau Taf ar gyrion Radyr

Bwncath yn hedfan ym Mharc Gwledig Porthceri, Bro Morgannwg

Ddim yn aml mae ffotograffydd yn cael cyfle i dynnu llun o lwynog coch yng nghanol dydd ar gyrion Mynydd y Garth ac yn mwynhau haul yr hydref

Clochdar y cerrig yng ngolau'r hydref, ar y ffordd i'r Barri, Bro Morgannwg

Gwenynen ar lafant gwyllt ar lwybr i Borthceri, Bro Morgannwg

Crëyr glas yn hela pryd yng nghamlas Yr Eglwys Newydd

Glas y dorlan yn ysgwyd pysgod cyn llyncu yn gyfan ar lannau Afon Taf yn Radyr

Ji-binc yn glanio yng ngolau'r hydref ar lwybr Taf ger Castell Caerdydd

Llwynog yn paratoi i hela wrth i'r haul fachlud ar ôl cysgu wrth ymyl camlas Yr Eglwys Newydd

Robin goch yn canu ym Mharc Porthceri, Bro Morgannwg

Tylluan frech mewn coedwig ar gyrion Caerdydd

Telor y cnau ar Lwybr Taf yn agos i gamlas Yr Eglwys Newydd

Glas y dorlan yn gwibio heibio Y Rhath. Llun anodd iawn i'w dynnu gan ei fod yn hedfan ar gyflymder o tua 30 milltir yr awr

Bwncath ifanc yn gorffwys ar ôl hela yng nghoedwig Yr Eglwys Newydd
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol, neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl