Teyrnged teulu i 'ferch oedd yn gwneud i bawb deimlo'n well'

Bu farw Olivia-Grace Huxter a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Pen-rhys ddydd Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae teulu merch, 8 oed, a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Pen-rhys yng Nglynrhedynog wedi rhoi teyrnged iddi.
Bu farw Olivia-Grace Huxter a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Pen-rhys yn sydyn ddydd Mercher.
"Olivia-Grace oedd ein babi gwyrthiol perffaith," meddai ei theulu.
"Yr hyn oedd mor arbennig amdani oedd ei gallu anhygoel i wneud i unrhyw un deimlo'n well - boed yn deulu, yn ffrind, neu'n ddieithryn ar y stryd neu mewn archfarchnad.
"Roedd hi wrth ei bodd yn dawnsio a chanu - gallai fod yn dawnsio i ganu gwlad un diwrnod a'r diwrnod wedyn byddai hi'n dawnsio i Stormzy."
Ychwanegodd y teulu ei bod wedi cael llawdriniaeth fawr ar ei chalon a niwmonia ac nad oedd meddygon ar un adeg yn credu y byddai'n goroesi hynny ond "roedd hi'n benderfynol ac yn ddewr".
"Doedd dim modd peidio â gwenu pan oedd hi o gwmpas. Os oeddech chi'n cael diwrnod drwg, Olivia-Grace oedd yr un yr oeddech chi angen ei gweld, hi oedd yr hud a allai drwsio unrhyw beth. Hi oedd canolbwynt ein teulu."

Roedd Olivia-Grace wrth ei bodd gyda'r Nadolig
Nadolig oedd hoff adeg Olivia-Grace o'r flwyddyn, meddai ei theulu.
"Byddai'n canu'r gân Rudolf the Red Nosed Reindeer gydol y flwyddyn a byddai dathliadau'r Nadolig yn dechrau yn ei hystafell ym mis Awst.
"Roedd hi wrth ei bodd gyda hud y Nadolig ond i ni hi oedd hud y Nadolig."
Ychwanegodd y teulu ei bod wrth ei bodd yn yr ysgol ac na allen nhw ddiolch digon am y cariad a ddangoswyd iddi.
"Ry'n ni hefyd am ddiolch i'r parafeddygon, yr heddlu a staff yr ysbyty a wnaeth ofalu am ein merch fach ac a roddodd y cyfle i ni ffarwelio â hi.
"Cer i ddawnsio gyda'r angylion."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl