'Dynes ddelia'r byd yn dod o Rosllannerchrugog'

- Cyhoeddwyd
Wyddoch am y ferch o bentref bach yn y gogledd-ddwyrain a enillodd Miss World?
Rosemarie Frankland o Rosllannerchrugog oedd y Brydeines gyntaf i ennill y pasiant harddwch enwog, a hynny yn 1961, a nawr mae sioe gerdd o'i bywyd nawr ar y gweill.
Brenhines Rhos
Cafodd Rosemarie ei geni yn Rhos yn 1943, a'i magu ar aelwyd Gymraeg gan ei nain tan oedd hi tua 10.
Dyna pryd y daeth chwaer Rosemarie nôl gartref, a chyhoeddi mai hi oedd ei mam enedigol mewn gwirionedd, gan symud y ferch fach i fyw yn Lancaster.
Yno y dechreuodd hi gystadlu – a chael llwyddiant – mewn pasiantau harddwch lleol, ar ôl i sgowt 'ei darganfod' tra'r oedd hi'n gweithio yn Marks and Spencer.
Er iddi golli yn y gystadleuaeth Miss England, daeth i'r brig yn Miss Wales 1961, ac yna Miss United Kingdom.
Daeth yn ail yn Miss Universe draw yn Florida ym mis Gorffennaf 1961, ond hi oedd yn fuddugol ym mhasiant Miss World yn Llundain yn y mis Tachwedd, a hithau ond yn 18 oed.

Gyda'r comedïwr Bob Hope a goronodd Rosemarie fel Miss World, a'r cystadleuwyr o China, Sbaen a Ffrainc a ddaeth yn 2ail, 3ydd a 4ydd
Stori'n 'swyno'
Un sydd â diddordeb mawr yn Rosemarie, yw'r actor a'r canwr o Rhos, Daniel Lloyd, a gafodd "ei swyno" pan soniodd ei fam flynyddoedd yn ôl fod "y ddynes ddela' yn y byd yn dod o Rosllannerchrugog".
Gymaint yw diddordeb Daniel yn stori y Miss World o'i bentref genedigol, fel ei fod wedi treulio blynyddoedd yn ymchwilio i'w bywyd hi ac wrthi'n datblygu sioe gerdd amdani.
"O'dd 'na rywbeth am ei thaith hi a'r stori trans-atlantic yna..." eglurodd ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru. "Ac fel person ifanc, efo dyheadau i fod yn actor, o'n i wastad yn meddwl am Rosemarie, a be' oedd y trywydd 'na, a byth yn cael clywed be' oedd diwedd ei stori hi."

Mae Daniel Lloyd eisiau rhannu stori'r frenhines harddwch gafodd ei geni yn ei bentref genedigol, Rosemarie Frankland
Yn ôl Daniel, newidiodd y fuddugoliaeth yma gwrs bywyd y ddynes ifanc. Â chwyldro ddiwylliannol yr 1960au ar ei hanterth, roedd Rosemarie nawr yn rwbio ysgwyddau gyda rhai o enwau mawr y cyfnod, fel Peter Cook, John Cleese, a hyd yn oed The Beatles.
Symudodd draw i America i drio gweithio fel model ac actores, gan gael rhannau bach mewn ambell i ffilm ganol yr 1960au, fel A Hard Day's Night.
Dechreuodd ar berthynas gyda'r comedïwr Bob Hope – oedd wedi cyflwyno coron Miss World iddi – gan symud i fyw ato ef a'i wraig yn eu cartref yn Los Angeles.
Yn 1970, priododd â Warren Entner, aelod o'r band The Grass Roots, a geni eu merch, Jessica yn 1976. Ond ysgarodd y cwpl yn 1981.

Rosemarie a Warren Entner ar ddiwrnod eu priodas ar 12 Hydref 1970
Rosemarie nôl ar y llwyfan
Yn anffodus, dysgodd Daniel fod diwedd trist i hanes Rosemarie, gyda honiadau am drafferthion cyffuriau ac alcohol.
Bu farw drwy hunanladdiad ar 2 Rhagfyr 2000 yn ddim ond 57 oed. Cafodd ei llwch eu claddu nôl adref yng Nghymru, ym mynwent Rhosllannerchrugog.

Rosemarie yn 1966
Ond mae Daniel yn teimlo bod ei stori yn un gwerth ei hadrodd, ac yn gobeithio y bydd yn dod yn fwy cyfarwydd i nifer, gan ei fod eisoes wedi cael sêl bendith ei merch, Jessica, i greu sioe lwyfan yn Theatr Clwyd yn adrodd hanes y frenhines harddwch o Rosllannerchrugog.
"Roedd pawb yn gwybod ei bod hi wedi ennill Miss World, ond doedd 'na'm llawer yn gwybod beth oedd y daith 'naeth arwain at hynny. Ac roedd 'na ddiweddglo rili trist i'w stori hi; o'dd hwnna ddim 'di bod yn rhan o'r stori ges i gan Mam, a hwnna ddim yn cael ei drafod.
"Mae 'na stori fan hyn, ac yn destun arbennig ar gyfer sioe gerdd.
"Dwi isho dathlu ei bywyd hi a g'neud cyfiawnder â'i stori hi. Ac fel rhywun o Rhos, pam ddim fi?"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd19 Mehefin
- Cyhoeddwyd5 Mai