Y ferch naw oed sy' wedi dysgu Cymraeg mewn chwe mis

Ffion yn ennill medal yn yr EisteddfodFfynhonnell y llun, Llun cyfranydd
Disgrifiad o’r llun,

Ffion yn ennill medal yn yr Eisteddfod yn y categori llefaru i ddysgwyr

  • Cyhoeddwyd

"Dwi'n caru'r iaith Gymraeg a dwi'n meddwl mae'n beth da i siarad Cymraeg achos dwi'n byw mewn Cymru a dwi'n caru siarad Cymraeg. Mae jest yn hwyl."

Ar ôl dysgu Cymraeg am chwe mis, roedd Ffion o Gaerdydd yn rhugl yn yr iaith ac mi lwyddodd i ennill y drydedd wobr yng nghystadleuaeth llefaru i ddysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd 2025.

Ac, yn ôl y disgybl naw mlwydd oed, mae'r diolch am ei llwyddiant i'r staff yn uned drochi Ysgol Melin Gruffydd ac hefyd ei ffrindiau am siarad Cymraeg gyda hi.

Ers ei agor yn 2010, mae rhyw 520 wedi mynychu Uned Drochi Iaith Caerdydd gan gynnwys Ffion a gychwynnodd yno ym mis Tachwedd 2024.

Doedd hi ddim wedi siarad Cymraeg o'r blaen a doedd neb yn siarad Cymraeg gartref ond dechreuodd fynychu'r uned bedwar diwrnod yr wythnos, gyda diwrnod ychwanegol yn Ysgol Melin Gruffydd.

Erbyn mis Ionawr 2025, roedd hi'n paratoi ar gyfer ei chystadleuaeth Eisteddfod gyntaf erioed yn adrodd Mewn Siop Anifeiliaid Anwes gan y bardd Myrddin ap Dafydd.

Ffion gyda rhai o'r athrawon sy' wedi dysgu Cymraeg iddi yn yr EisteddfodFfynhonnell y llun, Llun cyfranydd
Disgrifiad o’r llun,

Ffion gyda rhai o'r athrawon sy' wedi dysgu Cymraeg iddi yn yr Eisteddfod

Meddai am ei llwyddiant yn yr ŵyl ym Mharc Margam: ""Roedd yr Eisteddfod yn un o brofiadau gorau fy mywyd ac o'n i'n teimlo'n hapus iawn a falch.

"Ar fy niwrnod cyntaf yn yr Uned Drochi doedd gen i ddim syniad beth oedd unrhyw un o'r athrawon yn ei ddweud! Nawr dwi'n cyfieithu llyfrau darllen cyfan i fy nheulu."

Mae ei rhieni wedi cychwyn dysgu'r iaith erbyn hyn gyda help Ffion a Duolingo ac mae hi hefyd yn helpu dysgwyr eraill yn yr ysgol, meddai: "Dwi eisiau helpu pobl sydd ddim yn hyderus iawn.

"Mae'n rili dda bod fi wedi siarad Cymraeg a dwi gyda llawer o ffrindiau sydd wedi bod yn siarad Cymraeg eu holl bywydau nhw. Ond mae'n brofiad newydd i fi a dwi'n caru siarad Cymraeg."

Disgrifiad,

Yr 'hwyl' o ddysgu Cymraeg mewn chwe mis

O ran Ffion, yr help mwyaf iddi gael oedd yn yr uned drochi: "Dwi'n meddwl achos mae pobl yn siarad Cymraeg i chi, ddim Saesneg, chi'n mynd mewn i'r arfer o gael pobl yn siarad Cymraeg i chi, wedyn chi eisiau trio achos maen nhw'n siarad Cymraeg.

"Oedd e'n hwyl. Dwi'n caru'r uned drochi a ni wedi gwneud llawer o bethau hwylus."

Ffion gyda'i hathrawes Beth EllisFfynhonnell y llun, Llun cyfranydd
Disgrifiad o’r llun,

Ffion gyda'i hathrawes Beth Ellis

Yn ôl un o'i hathrawon yn yr uned drochi, Beth Ellis: "Rwy' mor falch o Ffion. Mae'r plant i gyd yn dod ato ni heb ddim Cymraeg fel arfer.

"Mae dysgu Cymraeg mewn cyn lleied o amser yn her i bawb. Mae'n dod a deigryn i'n llygaid ni i weld y plant yn llwyddo ac yn cael cymaint o foddhad yn yr iaith a'r profiadau maen nhw'n cael hefyd trwy siarad yn Gymraeg.

"Yn amlwg, mae Ffion wedi troi'n rhugl yn y Gymraeg. Mae yn gynllun dwys ac mae pob gair yn cael ei siarad yn y Gymraeg."

Ac yn ôl Beth, mae cefnogi'r teulu yr un mor bwysig a chefnogi'r plentyn: "Mae'r Uned yn gymdeithas hyfryd, ni fel teulu bach, ac mae'n daith i bawb ac yn gallu bod yn brofiad eithaf dwys.

"Felly, ni'n credu bod e'n bwysig bod ganddo ni berthynas dda gyda'r rhieni fel bod ni'n deall y plant, a bod ni'n gwneud yn siŵr bod y plant yn hapus ac yn ddiogel gyda ni yn yr Uned.

"Mae'r ymchwil yn dangos pa mor bwysig yw e a pa mor fuddiol yw e i gael ieithoedd ychwanegol. Ac mae yr holl bethau ychwanegol mae plant Cymru'n cael trwy gael addysg Cymraeg mor fuddiol fel gyda Ffion yn cael cyfle i fod yn rhan o'r eisteddfod. Ac jest cael hwyl a sbri, a wedyn mwynhau yn eu llwyddiant."

Mae'r Uned yn dysgu plant o flwyddyn un hyd at flwyddyn naw ac mae 90% o'r plant sy'n mynd yno yn trosglwyddo i addysg Gymraeg.

Meddai Beth: "Mae gennym blant o dros y byd i gyd. Mae lot o ymfudwyr neu geiswyr lloches yn dod i'r wlad a byddan nhw'n hoffi i'w plant gael y cyfle i gael addysg yn y Gymraeg. Ac mae hynny'n hyfryd i weld y cyfleoedd mae'r plant yn cael unwaith maen nhw'n gallu cymdeithasu a siarad yn y Gymraeg.

"Ac mae'n gallu bod yn her, achos efallai bod y plant ddim yn gallu siarad Saesneg. Mae hynny'n dod yn naturiol, maen nhw'n dysgu Saesneg o'r byd o'u cwmpas, o'r teledu, o fod yn y gymdeithas.

"Ond mae'n hyfryd wedyn gweld nhw'n cael y cyfle i fod yn rhan o Gymru, heb anghofio ble maen nhw wedi dod o neu eu gwreiddiau nhw, ond yn gallu siarad a chael yr ymdeimlad o beth yw e i fod yn Gymry Cymraeg."

Ffion o GaerdyddFfynhonnell y llun, Llun cyfranydd

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb