Cyfieithu AI yn peryglu 'rhan o gyfoeth ein hiaith'

Rhys Iorwerth
Disgrifiad o’r llun,

Rhaid derbyn bod iaith yn newid, meddai Rhys Iorwerth, ond rhybuddiodd bod mwy i gyfieithu na chywirdeb yn unig

  • Cyhoeddwyd

"Bydd rhan o gyfoeth ein hiaith ni'n cael ei golli", os fydd deallusrwydd artiffisial, neu AI, yn disodli cyfieithwyr yn llwyr, yn ôl y bardd a chyfieithydd Rhys Iorwerth.

Yn sgil cynnydd sylweddol yn y defnydd o AI, mae ymchwil a gafodd ei gomisiynu gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn awgrymu bod 34% o'r cyfieithwyr wnaeth ymateb yn bryderus am gynaliadwyedd y sector yn y dyfodol.

Mae pryderon amlwg ynghylch dyfodol y proffesiwn "er bod y mwyafrif o gyfieithwyr Cymraeg yn mynegi boddhad yn eu gwaith", meddai Teleri Haf, Prif Swyddog Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Er hynny mae Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg yn dweud ei fod yn "gefnogol" o'r defnydd o'r dechnoleg, am ei fod yn "cynnig dulliau newydd ac arloesol i wella'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu yng Nghymru".

Yn ôl yr ymchwil, yr amcangyfrif ydy bod hyd at tua 660 o gyfieithwyr Cymraeg yng Nghymru, a bod gwerth economaidd uniongyrchol y sector ar gyfer 2024–25 tua £7.8m.

Mae'r mwyafrif o gyfieithwyr yn byw yng Ngwynedd a Chaerdydd, yn ôl yr ymchwil, ac mae'r sector yn tueddu i fod yn brofiadol - gyda 74% o'r ymatebwyr dros 40 oed.

Ond mae hefyd yn dweud bod 45% o unigolion, 70% o gwmnïau a 59% o sefydliadau bellach yn defnyddio AI fel rhan o'u prosesau cyfieithu.

Er bod technoleg yn cynnig cyfleoedd i wella effeithlonrwydd, mae'n codi cwestiynau am safon a chywirdeb y gwaith a'r effaith ar swyddi cyfieithu traddodiadol, meddai'r gymdeithas.

'Colli mwy na bywoliaethau'

Dywedodd Rhys Iorwerth, sy'n gweithio yn y maes ers bron i ddegawd, bod AI eisoes yn gallu rhoi cyfieithiadau "go gywir" i'r Gymraeg.

Ond ychwanegodd: "Ar hyn o bryd, dydyn nhw ddim yn ddigon cyson gywir i rywun allu eu defnyddio mewn deunydd sy'n cael ei gyhoeddi.

"Ond, bosib nad ydan ni'n bell iawn o'r dydd hwnnw, o ran 'cywirdeb' o leia'."

Er hynny, dywedodd fod "mwy i gyfieithu da na dim ond cywirdeb".

"Mae'r cyfieithwyr gorau'n parchu teithi'r iaith - maen nhw'n greadigol, maen nhw'n deall eu cynulleidfa, ac maen nhw'n ymwybodol o naws testun," meddai.

"Fy mhryder gwirioneddol i ydi y bydd cwsmeriaid, y bydd y cyhoedd, yn colli golwg ar hynny gan y bydd cyfieithiadau systemau AI yn 'gwneud y tro'," meddai.

Ychwanegodd fod "rhaid i ni dderbyn bod iaith yn newid o hyd".

"Ond, os bydd AI yn disodli cyfieithwyr da o gig a gwaed yn llwyr, mi fydd 'na fwy na bywoliaethau'n cael ei golli.

"Mi fydd rhan o gyfoeth ein hiaith ni'n cael ei golli hefyd - dwi'n eithaf siŵr o hynny."

Teleri HafFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r niferoedd sy'n astudio Lefel A Cymraeg "wedi gostwng bron i 60% dros yr 20 mlynedd diwethaf", medd Teleri Haf

Yn ôl Teleri Haf, Prif Swyddog Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru: "Mae offer deallusrwydd artiffisial yn bwerus.

"Ond, mae'n rhaid cofio nad yw'n gallu disodli'r creadigrwydd, y farn a'r ddealltwriaeth ddiwylliannol y mae cyfieithwyr dynol yn eu cynnig," meddai.

Dywedodd fod goruchwyliaeth ddynol yn "hanfodol" ar gyfer cywirdeb.

"Mae'n bwysig meddwl am ddeallusrwydd artiffisial fel offeryn defnyddiol, nid bygythiad."

Dywedodd fod y gymdeithas yn "cadw llygaid dros y newidiadau hyn ac yn ymateb iddynt".

"Rydym eisoes wedi newid ein harholiad cyflawn ar gyfer mis Ebrill 2026, gan ddisodli un darn cyfieithu am ddarn prawf ddarllen a bydd gan yr ymgeiswyr hefyd yr hawl i droi at y we am gymorth."

Osian LlywelynFfynhonnell y llun, Comisiynydd y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Osian Llywelyn fod Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg "yn gefnogol i'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial"

Ond yn ôl Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, mae "maes deallusrwydd artiffisial yn un sy'n datblygu ar garlam ac yn siŵr o newid yn sylfaenol sut y byddwn ni'n cyfathrebu â'n gilydd ac a'r byd o'n cwmpas".

"Rydym yn gefnogol i'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial gan ei fod yn cynnig dulliau newydd ac arloesol i wella'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu yng Nghymru."

Yr hyn sy'n bwysig yw "gwneud hyn mewn ffordd sy'n parchu ac yn hyrwyddo ein hiaith a'n diwylliant", meddai Mr Llywelyn.

'Hollbwysig rheoleiddio'

Ychwanegodd Mr Llywelyn ei bod hi'n "hollbwysig" bod unrhyw ddatblygiadau technolegol yn cael eu rheoleiddio "mewn ffordd sy'n parhau i adlewyrchu anghenion defnyddwyr, gan sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chynnal a'i hyrwyddo yn y byd digidol".

"Dyna pam y gwnaethom gyhoeddi polisi yn gynharach eleni ar y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial gan sefydliadau sy'n dod o dan Safonau'r Gymraeg."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n deall y pryderon, ond nid oes unrhyw fwriad i gael gwared ar gyfieithwyr dynol proffesiynol.

"Mae ein gwaith i gefnogi datblygiad cyfieithu gyda chymorth cyfrifiadur wedi'i gynllunio i helpu cyfieithwyr proffesiynol i weithio'n gyflymach ac yn fwy effeithiol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.