Taith o 'drysorau hanesyddol' dinas Bangor

Disgrifiad,

Dinas Bangor o'r awyr

  • Cyhoeddwyd

Eleni mae dinas Bangor yn 1,500 oed gyda sawl digwyddiad i ddathlu'r garreg filltir.

Mae hanes Bangor yn un rhyfeddol, yma mae'r Stryd Fawr hiraf ym Mhrydain a hon oedd y ddinas gyntaf un yng Nghymru - a hynny wedi i Sant Deiniol ddod yma i sefydlu'r Gadeirlan.

Cyn hynny doedd hi ond yn bentref bach ar lan afon Adda, sydd heddiw yn llifo dan y ddaear ac allan o'r golwg.

Un sy'n ymddiddori ac wedi ymchwilio'n helaeth i'r pwnc ydi'r hanesydd a'r gŵr busnes Gari Wyn. Fe aeth ag Aled Hughes am dro o amgylch dinas Bangor.

Gari Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Gari Wyn oedd yn tywys Aled o amgylch Bangor

Y Gadeirlan

Cadeirlan BangorFfynhonnell y llun, AFP via Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llun o Gadeirlan Bangor yn 1840

Ystyr y gair Bangor yw cyfuniad o bolion a ffyn wedi eu cyfuno gyda changhennau i greu rhyw fath o glawdd. Roedd clawdd tebyg o amgylch y Gadeirlan wreiddiol, wnaeth rhoi enw i'r ddinas.

Yr Eglwys Gadeiriol yw canolbwynt y ddinas fel yr eglurodd Gari Wyn:

"Roedd y Normaniaid wedi llosgi'r lle i lawr, roedd yr Eglwys Gadeiriol wreiddiol wedi para yn ôl pob tebyg am bum canrif tan ddaeth y Normaniaid a rhyfela yn erbyn Gruffydd ap Cynan ac wedyn fe losgwyd y lle i'r llawr, wedyn fe ail godwyd y lle.

"Roedd yn sefyll wedyn tan y cyfnod y daeth Llywelyn Fawr ar ddechrau'r 12fed ganrif.

"Wedyn yng nghyfnod Llywelyn Fawr fe losgwyd y lle eto.

"Yng nghyfnod George Gilbert Scott - o bosib pensaer mwyaf yn hanes Lloegr - fo wnaeth ail wneud Abaty Westminster, a fo wnaeth ail wneud y Gadeirlan yma i be' ydy hi heddiw mewn steil Gothig, pan oedd yr adfywiad Gothig yn digwydd mewn pensaernïaeth.

"Fe gafodd o'i gomisiynu o amgylch 1870 gan lywodraeth Llundain i ail wneud tair Eglwys Gadeiriol sef fan yma, Tŷ Ddewi a Llanelwy."

Y Brifysgol ac addysg

Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Adeilad Prifysgol Bangor sydd wedi'i adeiladu ar Graig Aethwy

Mae Bangor yn aml yn cael ei galw'n Ddinas Dysg.

Mae rhai o gyfeiriadau cyntaf o addysg ym Mangor yn mynd nôl i'r 13eg ganrif.

"Sefydlwyd Urdd Fynachaidd y Brodyr Duon yma yn y 13eg ganrif ac fe esblygodd hynny i greu Ysgol Friars yn ardal Hirael," meddai Gari Wyn.

"Wedyn daeth y Glyniaid ac maen nhw yn chwarae rhan allweddol ym myd addysg Bangor.

"Nesa i adeilad y Brifysgol mae adeilad arall lliw brics coch, sy'n adeilad ysgol gerddorol y Brifysgol rŵan.

"Yn wreiddiol, ysgol sirol cyntaf i ferched yng Nghymru oedd hwnna oedd wedi'i sefydlu gan ddynes o'r enw Dilys Glynne, sy'n rhan bwysig o hanes addysg merched yng Nghymru.

"Wedyn daw'r Coleg ar y Bryn. Dechreuodd yr adeiladu yn 1907 a'i agor yn 1911.

"Parhad oedd o rywbeth oedd wedi dechrau digwydd yn 1884 ac fe ddechreuodd i gyd yng Ngwesty'r Penrhyn. Hefo dylanwad pobl fel Lloyd George a sawl aelod seneddol arall fel William Rathbone o Lerpwl a John Roberts, Aelod Seneddol Y Fflint i gael yr arian.

"Fe enillodd nhw'r frwydr rhwng 13 o drefi yng ngogledd Cymru i gael y Brifysgol ym Mangor. Fe gafodd y coleg ei adeiladu ar y graig oedd yn cael ei galw'n Grib Aethwy.

"Mae'r tŵr mae pawb yn gallu ei weld wrth edrych ar y Brifysgol yn un arbennig.

"Mae pedwar cerflun ar y tŵr, mae Owain Gwynedd yn wynebu lawr at safle ei feddrod yn yr Eglwys Gadeiriol, mae Owain Glyndŵr yna, Llywelyn Fawr a Dewi Sant.

"Fe gostiodd £115,000 i gyd ac mae llyfrgell Shankland yn un arbennig yno sydd i gyd yn creu'r Ddinas Dysg."

Bron ugain mlynedd cyn sefydlu Prifysgol Bangor, roedd y Coleg Normal yn bodoli sy'n allweddol mewn hyfforddi athrawon y cyfnod i roi addysg i blant Cymru.

Dylanwad y teuluoedd bonedd

George Douglas Pennant (Chwith) o Stâd y Penrhyn a George William Duff Assheton-Smith Stâd y FaenolFfynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

George Douglas Pennant (chwith) o Stad y Penrhyn a George William Duff Assheton-Smith o Stad y Faenol

Diwydiant arall a chwaraeodd ran allweddol yn natblygiad y ddinas oedd y chwareli cyfagos a'r ddau deulu bonedd oedd yn berchen arnyn nhw.

"Rydan ni'n sôn am deuluoedd Stad y Faenol a Stad y Penrhyn," meddai Gari.

"Er ein bod ni'n tueddu i edrych arnyn nhw mewn hanes fel rhyw fath o bobl ddrwg, mae'n rhaid i ni hefyd gofio am gyfraniadau eithaf pwysig wnaethon nhw ei wneud, yn enwedig teulu'r Penrhyn a George Sholto Pennant a roddodd arian tuag at yr Eglwys Gadeiriol.

"Fe gostiodd hi £30,000 i adnewyddu'r Gadeirlan a'r Arglwydd Penrhyn roddodd £10,000 o'r ffigwr yna."

Roedd y deunyddiau o'r chwareli wrth gwrs yn bwysig o ran y gwaith adeiladu, ond hefyd y tir ble adeiladwyd y Brifysgol yn berchen i'r teuluoedd bonedd.

Roedd cael Prifysgol ym Mangor hefyd yn rhoi gobaith i'r gweithwyr a phlant o'r dosbarth gweithiol y gallai nhw gael addysg o'r radd flaenaf yno, rhywbeth nad oedd ar gael iddyn nhw cyn adeiladu'r Brifysgol.

Ffordd yr A5

Pont MenaiFfynhonnell y llun, Wikipdia
Disgrifiad o’r llun,

Fe gwblhawyd y gwaith o adeiladu'r A5 pan agorwyd Pont Menai yn 1826

"Allwn ni ddim gorbwysleisio pa mor bwysig ydi hanes yr A5, yn rhedeg yr holl ffordd o Gaergybi i Lundain a'n bywydau ni fel Cymry yn cael ei drawsnewid drwy'r cyswllt yna hefo Senedd Llundain," meddai Gari.

"Dyna pam fod y Gwyddelod yn gweld ei eisiau. Ar ôl Deddf Uno Iwerddon roedd pobl fel Henry Parnell eisiau gweld ffordd haws i ddod i Lundain.

"Roedd o fel plot gwleidyddol Prydeinig, dyna i raddau ydi Pont Borth, Tŵr Marcwis, Pont Betws y Coed, pethau sy'n coffau Prydeindod."

Fe gwblhawyd y gwaith o adeiladu'r A5 pan agorwyd Pont Menai yn swyddogol ar 30 Ionawr, 1826. Bydd y Bont yma'n dathlu 200 mlwyddiant mewn ychydig fisoedd hefyd.

BBC Bangor

BBC Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Adeilad y BBC ym Mangor yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Mae BBC Bangor yn 90 oed eleni. Bellach mae wedi ei leoli ym Mryn Meirion, ond roedd y safle gwreiddiol yn fan allweddol i'r BBC i ddarlledu yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Wedi i BBC Bangor agor yn 1935, symudodd y gorfforaeth ei adran adloniant ysgafn yno yn 1940 i osgoi bomiau'r Ail Ryfel Byd gan ddarlledu un o sioeau mwyaf poblogaidd y cyfnod ITMA (It's That Man Again).

"Fe ddefnyddiwyd hen neuadd y Penrhyn am gyfnod i wneud rhaglenni fel Noson Lawen pan oedd hynny yn dechrau am y tro cyntaf," meddai Gari.

"Roedd o'n cael ei ddefnyddio rhwng 1940-1971 ac yn bwysig yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac mae'n rhan enfawr o hanes y BBC ym Mangor."

BangorFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llun o ddinas Bangor yn 1900

Pynciau cysylltiedig