'Hyd at £30,000 i athrawon dan hyfforddiant os fydd Plaid Cymru mewn grym'

Dywed Plaid Cymru y byddai'n cynnig "cymhellion teg a chystadleuol i ddenu a chadw athrawon" yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru'n dweud y byddai'n cynnig hyd at £30,000 i athrawon newydd os taw nhw sy'n ennill etholiad nesaf y Senedd.
Yng nghynhadledd flynyddoedd y blaid yn Abertawe, mae disgwyl i'w llefarydd addysg Cefin Campbell ddweud y byddai llywodraeth dan arweiniad Plaid Cymru yn cynnig "cymhellion teg a chystadleuol i ddenu a chadw athrawon" yng Nghymru.
Dywed y blaid y byddai'n anelu at gynnig taliadau cyfatebol i rai Lloegr erbyn diwedd tymor y Senedd nesaf, a fydd yn dod i ben yn 2030, gan ganolbwyntio ar bynciau blaenoriaeth.
Fe fydd etholwyr yn pleidleisio ym mis Mai i ddewis eu cynrychiolwyr yn y Senedd newydd ehangach, gyda 90 o aelodau yn lle'r 60 presennol.
- Cyhoeddwyd28 Ionawr
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd24 Mai 2023
Yn ei araith fe fydd Mr Campbell, Aelod o'r Senedd yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, hefyd yn amlinellu cynllun y blaid i godi safonau.
Mae hwnnw'n cynnwys cynllun llythrennedd a rhifedd sy'n "gosod meincnodau cenedlaethol" a llyfrgell ymhob ysgol gynradd.
Mae'r blaid yn dweud y bydd yn mynd ati i gau'r bwlch gyda Lloegr yn raddol "i sicrhau nad yw athrawon dan hyfforddiant yng Nghymru dan anfantais ariannol am ddewis astudio a gweithio yma".
Y bwriad yw cynnig taliadau hyd at £30,000 yn achos pynciau blaenoriaeth yn ystod cyfnod hyfforddi cychwynnol athrawon, a fydd, medd y blaid, yn codi'n raddol er mwyn cyfateb â'r hyn sy'n cael ei gynnig dros y ffin.
Fe fydd yr arian yn cael ei roi ar y sail bod y sawl sy'n ei dderbyn yn gweithio yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl darfod eu cyfnod prawf.

Mae gan Blaid Cymru gynllun, medd Cefin Campbell, i gadw athrawon yng Nghymru ac i sicrhau bod disgyblion yn cyrraedd eu potensial llawn
Bydd Mr Campbell yn dweud wrth y gynhadledd: "Mae methiant Llafur i gael hyd yn oed y pethau sylfaenol yn iawn, mewn llythrennedd a rhifedd, yn golygu nad yw ein disgyblion yn cyflawni eu potensial.
"Ond mae gan Blaid Cymru gynllun. Byddwn yn sicrhau bod ein disgyblion yn dal i fyny ac yn cyrraedd eu potensial, a byddwn yn codi safonau addysgol ledled Cymru."
Mae disgwyl iddo rybuddio bod Cymru'n wynebu "argyfwng o ran recriwtio a chadw athrawon".
"Dyna pam rydw i'n falch o gyhoeddi y bydd llywodraeth Plaid Cymru yn buddsoddi yn nyfodol addysg Cymru trwy gynnig cymhellion teg a chystadleuol i ddenu a chadw'r athrawon y mae eu hangen ar ein hysgolion.
"Erbyn diwedd tymor nesaf y Senedd, bydd ein cynnig cymhelliant yn cyfateb i'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd yn Lloegr, gan sicrhau nad yw athrawon dan hyfforddiant yng Nghymru yn cael eu cosbi'n ariannol am ddewis astudio a gweithio yma."

Arweinydd y blaid, Rhun ap Iorwerth, yn annerch y gynhadledd ddydd Gwener
Ddydd Gwener yn ei araith yntau, fe apeliodd arweinydd y blaid, Rhun ap Iorwerth, ar etholwyr i gefnogi Plaid Cymru os ydyn nhw'n awyddus i atal Reform UK rhag dod i rym.
Dywedodd hefyd bod Plaid Cymru'n barod "i ddisodli" Llafur Cymru, gan roi addewid i gynnig gofal plant am ddim i rieni ar gyfer pob plentyn rhwng naw mis a phedair oed.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.