Ysgrifennu nofel gyntaf tra'n derbyn triniaeth canser

Nerys BowenFfynhonnell y llun, Nerys Bowen
  • Cyhoeddwyd

Dim ond yn 2009 y dechreuodd Nerys Bowen o'r Rhondda ddysgu Cymraeg... ac mae hi newydd gwblhau PhD a gorffen ei nofel Gymraeg gyntaf.

Ond ochr-yn-ochr â hyn, mae hi wedi bod yn yr ysbyty ers misoedd am bod ganddi ganser.

Byw rhwng dau fyd

Mae nofel Nerys yn dilyn Catrin sydd, fel ei hawdur, yn ferch o'r Rhondda sydd wedi dysgu Cymraeg. Ac mae'r prif gymeriad yn teimlo ei bod rhwng dau fyd, braidd – byd y Cymry Cymraeg, a byd y dysgwyr Cymraeg – teimlad sy'n gyfarwydd iawn i Nerys, meddai.

"Mae hi'n ceisio gweithio mas sut i fyw rhwng y ddau fyd yma. Fel fi, mae hi wedi cael profiadau o feddwl ydw i'n ddigon o Gymraes? Neu ydw i'n defnyddio gormod o Saesneg pan dwi'n siarad Cymraeg â'r person yma? I ble dwi'n ffitio mewn? I ble dwi'n perthyn?"

Fel unig aelod ei theulu sydd yn siarad Cymraeg, mae Nerys yn hen gyfarwydd â'r teimlad yma o ddeuoliaeth yn ei bywyd, meddai.

"Weithiau mae'n anodd peidio teimlo ar y tu fas. Wrth gwrs, i fi, dechreuodd popeth yn yr iaith Gymraeg tua 2009. Unrhywbeth cyn 2009, dydi pethau ddim yn bodoli i fi, dydw i ddim yn gwybod am raglenni teledu neu ganeuon... Dwi erioed wedi gweld C'mon Midffîld, ddim yn gwybod dim byd amdano fe, y cymeriadau, yr hiwmor!

"Dwi'n teimlo ar y tu fas weithiau – bai neb yw hwn, jest do'n i ddim yno yn yr 80au/90au yn siarad Cymraeg."

Cefnogaeth i barhau

Wrth siarad ar raglen Aled Hughes ar BBC Cymru Fyw, soniodd pa mor hanfodol mae'r cyfryngau wedi bod iddi wrth iddi ddysgu Cymraeg, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo.

"Does neb arall yn fy nhŷ i yn siarad Cymraeg, a'r radio a'r teledu oedd fy unig gysylltiad â'r Gymraeg. Jest i allu troi'r radio 'mlaen bob bore a chlywed dy lais a chlywed y cyflwynwyr eraill; roedd e mor bwysig i fi jest i gadw'r Gymraeg yn fy mywyd."

Aled Hughes, Siôn Tomos Owen a Nerys Bowen
Disgrifiad o’r llun,

Aled Hughes, Siôn Tomos Owen a Nerys yn rhoi pawen lawen pan ddaeth rhaglen Aled i recordio yn Porth y Rhondda yn 2018

Mae ei dyled hi'n fawr i Hannah Sams o Brifysgol Abertawe, meddai, am ei hannog i orffen ei doethuriaeth, meddai, hyd yn oed pan doedd hi ddim yn credu ei hun y byddai hi'n medru cwblhau'r dasg.

"Mae Hannah wedi ysgogi fi rili dros y misoedd diwetha, jest gofyn 'oes modd i fi gael e-bost?', neu 'oes modd i ti yrru llythyr?' – jest fesul tipyn.

"O'n i'n dweud 'mae'n rhy hwyr nawr, dwi methu gorffen hyn nawr, gad fe fod'. Ond gyda'i help hi, ges i alwad ffôn un bore ganddi yn dweud 'Bore da, Dr Bowen' – ges i sioc enfawr, yn meddwl, beth sy'n digwydd nawr?!

"Ond ie, dwi wedi cwblhau'r PhD!"

Seremoni'r Cadeirio yn 'emosiynol'

Ond wrth gwrs, er y cynnwrf o ddod yn Dr a chwblhau ei nofel gyntaf, mae hi wedi bod yn anodd i Nerys yn ddiweddar, wrth iddi dderbyn triniaeth canser.

Roedd hi'n rhy sâl i fynd draw i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni, ac felly yn gwylio'r cwbl o'i gwely yn Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd.

Roedd seremoni'r Cadeirio yn emosiynol iawn iddi, eglurodd, gan mai'r enillydd, Tudur Hallam - sydd hefyd yn sâl gyda chanser - oedd un o'i goruchwyliwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe.

Tudur HallamFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Mewn seremoni emosiynol, cafodd Tudur Hallam ei gadeirio am gerdd oedd yn trafod ei ddiagnosis o ganser

"Dwi'n gwybod ei fod e yn sâl iawn, felly ro'n i'n emosiynol iawn yn gwylio'r seremoni ar y teledu yn yr ysbyty. Ond roedd teulu gyda fi a'r nyrsys â dim clem am yr Eisteddfod, dim clem am y Gadair, a dim clem pam o'n i'n emosiynol.

"Ro'n i'n ceisio gwylio'r seremoni, ac hefyd esbonio yn Saesneg wrth y bobl yn y stafell gyda fi, beth oedd seremoni'r Cadeirio, beth oedd yr Eisteddfod. Roedd yn brofiad emosiynol iawn a rhyfedd iawn!"

StoriFawr.doc

Mae hi dal i fod yn gyfnod anodd iawn i Nerys wrth i'w arhosiad yn yr ysbyty barhau, ond mae'n canolbwyntio ar y pethau positif yn ei bywyd.

"Mae wedi bod yn gwpl o fisoedd rhyfedd iawn; pasio'r PhD, bod yn yr ysbyty yn sâl iawn, cyhoeddi nofel...! Ges i gyfarfod gyda'r cyhoeddwyr yn yr ysbyty, wrth ymyl y gwely, oedd yn brofiad od, ond cyffrous hefyd.

Nerys BowenFfynhonnell y llun, Nerys Bowen
Disgrifiad o’r llun,

Nerys yn darllen ar lwyfan Academi Hywel Teifi yng ngŵyl Tafwyl 2018

"Lot o ups and downs, ond dwi'n ceisio canolbwyntio ar bethau positif ac edrych ymlaen at y nofel yn dod mas.

"Does dim teitl eto - tan ychydig wythnosau nôl StoriFawr.doc oedd enw'r ddogfen ar fy laptop! - ond fe ddaw.

"A dwi 'di deud wrth [y teulu] bod ganddyn nhw ddigon o amser i brynu llyfr neu lawrlwytho Duolingo i ddysgu Cymraeg i ddarllen y nofel!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.