Lansio cyfieithiad yn ystod Gŵyl Daniel Owen
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfieithiad Saesneg o Straeon y Pentan gan Daniel Owen yn cael ei lansio fel rhan o Ŵyl Daniel Owen.
Cyhoeddwyd Straeon y Pentan yn wreiddiol ym 1895 a bwriad yr awdur oedd iddynt gael eu darllen o flaen y tân yn ystod nosweithiau hir.
Cyfieithwyd y casgliad o 19 o straeon byrion a phortreadau o gymeriadau gan Adam Pearce, a golygwyd y llyfr gan yr Athro Derec Llwyd Morgan.
Bydd y cyfieithiad yn cael ei gyhoeddi gan Brown Cow Publishing mewn partneriaeth gyda'r Lolfa, fel rhan o Gyfres Nodedig Daniel Owen.
Dywedodd John Mainwaring, o'r cyhoeddwyr Brown Cow: "Gydag amser ac adnoddau yn gyfyngedig, dewiswyd Fireside Tales, un o'r byrraf o blith pum prif waith Daniel Owen, i'w gyfieithu eleni.
"Mae Adam Pearce a Derec Llwyd Morgan ill dau wedi gweithio yn arbennig o galed i ddwyn popeth at ei gilydd.
"Ni allaf ond tybio eu bod nhw'n cael yr un pleser o waith Daniel Owen ag y caf i, ac rwy'n siŵr y cytunant â mi wrth ddweud cymaint o fraint oedd cael gweithio ar y testun a chyflwyno'r copi hwn i'r byd."
Ymysg digwyddiadau eraill yr ŵyl, sydd yn cael ei gynnal rhwng Hydref 16 a Hydref 22, bydd darlith, trafodaeth a theithiau.
Bydd hefyd digwyddiadau cerddorol, sesiwn 'Daniel Owen yn yr archifau' a diwrnod o weithgarwch celfyddydol.