Arestio bachgen 17 oed ar ôl i ddynes farw yn dilyn tân mewn tŷ

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân mewn eiddo ar Ffordd Henllys yn St Dials am 20:40 nos Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 17 oed wedi cael ei arestio ar ôl i ddynes farw yn dilyn tân mewn tŷ yng Nghwmbrân.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân mewn eiddo ar Ffordd Henllys yn St Dials am 20:40 nos Sadwrn.
Bu farw dynes 75 oed yn y fan a'r lle ac mae bachgen 17 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd, meddai Heddlu Gwent.
Mae'r bachgen yn parhau yn y ddalfa, ychwanegodd y llu.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Laura Bartley: "Gallwn gadarnhau bod menyw 75 oed wedi marw yn lleoliad y tân.
"Mae ei theulu wedi cael gwybod a byddant yn cael eu cefnogi gan swyddogion â hyfforddiant arbennig.
"Rydym yn deall y gall adroddiadau o'r fath hon fod yn bryderus, ond nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad hwn.
"Efallai y bydd trigolion yn gweld mwy o swyddogion yn yr ardal na'r arfer tra bod ymholiadau'n cael eu cynnal."
Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.