'Argyfwng tai Cymru'n dwysáu' yn ôl elusen dai flaenllaw

Iwan Trefor Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prif Weithredwr cymdeithas dai Adra, Iwan Trefor Jones, yn dweud bod angen mwy o arian arnyn nhw

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru yng nghanol "argyfwng tai sy'n dwysáu", yn ôl elusen dai flaenllaw.

Yn ôl y Sefydliad Siartredig Tai, mae angen gwario llawer mwy o arian ar adeiladu cartrefi i bobl.

Mae gweinidogion wedi gosod targed o 20,000 o gartrefi i'w hadeiladu yn ystod tymor y Senedd hon.

Dywedon nhw eu bod wedi buddsoddi mwy na £2 biliwn mewn tai cymdeithasol ers 2021 a bod sicrhau bod gan bawb gartref gweddus yn flaenoriaeth.

Ym mhentref Dinas ychydig filltiroedd y tu allan i Gaernarfon, mae cymdeithas dai Adra yn codi 30 o gartrefi newydd.

Bydd rhai yn eiddo fforddiadwy a bydd eraill ar gyfer tai cymdeithasol.

Mae Adra'n gofalu am tua 7,000 o gartrefi yn yr ardal.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Iwan Trefor Jones, fod arian gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i adeiladu cartrefi fel y rhain wedi bod yn hanfodol.

"Mae'r Grant Tai Cymdeithasol yn ffynhonnell bwysig iawn o gyllid i ni gyflawni cynlluniau fel hyn," meddai gan esbonio bod y grant wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae "tua £450 miliwn erbyn hyn, ond ma' angen mwy arnon ni o hyd," ychwanegodd.

Tai yn cael eu hadeiladu yn Dinas
Disgrifiad o’r llun,

Mae 30 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu yn Dinas ger Caernarfon ar hyn o bryd

Mae gan Lywodraeth Cymru darged o adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon.

Ond, mae ffigyrau gan Shelter Cymru, a gafodd eu cyhoeddi ym mis Ebrill, yn dangos bod bron i bum gwaith y ffigwr hwnnw - 94,000 o aelwydydd - yn aros am gartref.

Dywedodd Shelter Cymru fod hynny'n cynrychioli hyd at 177,000 o bobl, gyda hyd at 55,000 ohonyn nhw'n blant.

Yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddrafft o'r hyn y maen nhw am ei wario'r flwyddyn nesaf.

'Dy'n ni ddim yn adeiladu'n ddigon cyflym'

Dywedodd un elusen flaenllaw, y Sefydliad Siartredig Tai, fod angen gwario llawer mwy i fynd i'r afael â'r hyn y maen nhw'n ei alw'n "argyfwng tai sy'n dyfnhau".

Yn ôl Matt Dicks o'r sefydliad, dylai fod gan bawb yr hawl i gartref digonol.

"Dy'n ni ddim yn adeiladu'n ddigon cyflym nac ar y raddfa sydd ei angen," meddai.

"Does gennym ni ddim y strwythur ar gyfer y system dai sydd ei angen er mwyn cwrdd â'r hawl sylfaenol honno o ddarparu cartref i bawb."

Ychwanegodd y dylen nhw drafod y broses o brynu eiddo am y tro cyntaf hefyd.

"Mae'r cyfan wedi'i gydgysylltu. 'Dy'n ni ddim yn edrych ar y system dai fel un system - mae angen i ni ddechrau gwneud hynny."

Matt Dicks
Disgrifiad o’r llun,

Dydy Matt Dicks o'r Sefydliad Siartredig Tai ddim yn credu bod tai yn cael eu hadeiladu yn ddigon cyflym

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar dai, Joel James AS: "Mae Llywodraeth Lafur Cymru'n parhau i fethu eu targed o 20,000 o dai fforddiadwy oherwydd bod gormod o gynlluniau datblygu lleol allan o ddyddiad.

"Mae'r methiant cyson hwn bellach wedi golygu bod y sefyllfa dai sydd ar gael yng Nghymru yn argyfyngus, gan adael llawer o bobl yn methu â dod o hyd i dai y gallan nhw eu fforddio."

Dywedodd eu bod yn cydnabod yr angen am dai mwy fforddiadwy a bod angen i'r farchnad gael "gweledigaeth hirdymor ar gyfer datblygu tai".

Cynnig y Ceidwadwyr yw "cael deddfwriaeth sy'n gweithio i gynghorau ac adeiladwyr tai a chael gwared ar y dreth stamp".

'Teuluoedd yn gaeth i fflatiau bach'

Yn ôl llefarydd tai Plaid Cymru, Sian Gwenllian AS mae'r broblem yn tyfu ar draws Cymru.

"Mae pobl yn byw mewn fflatiau sydd ddim yn addas ar gyfer eu hanghenion," meddai.

"Rydyn ni'n gweld teuluoedd a allai fod â phlentyn ag anghenion arbennig yn gaeth i fflat bach heb le i'r teulu hwnnw ddefnyddio y tu allan.

"Mae'r rhenti'n codi'n sydyn felly mae pobl yn ei chael hi'n anodd talu - mae'n eithaf amlwg bod gennym ni argyfwng tai."

Ychwanegodd nad yw'r "argyfwng tai wedi cael ei gymryd o ddifrif ddigon ers 26 mlynedd".

Ifor Jones (chwith), Leah Jones (canol) a Bethan Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ifan (chwith), Leah (canol) a Bethan o Gaernarfon wedi bod yn trafod y problemau sy'n eu hwynebu nhw

Yng Nghaernarfon, rhan o etholaeth Sian Gwenllian, roedd gan bobl ddigon i'w ddweud ar y mater.

Dywedodd Leah Jones o Gaernarfon: "Rwy'n credu bod problemau gyda'r sector preifat hefyd, gyda landlordiaid yn codi rhenti uchel iawn na all pobl eu fforddio.

"Rwy'n credu ei fod yn broblem gymdeithasol lawer mwy na dim ond stoc tai; pobl heb gyflogau digon da, ddim yn gallu prynu eu cartrefi eu hunain."

Dywedodd Ifan Jones o Lanrug: "Rwy'n dychmygu ei fod yn anodd i bobl ifanc, ond yn ôl pob tebyg, yn anoddach i deuluoedd oherwydd yn amlwg gyda theuluoedd os oes gennych ddau neu dri o blant mae angen mwy arnoch na phobl ifanc yn fy marn i."

Dywedodd Bethan Owen o Gaernarfon: "Rwyf wedi symud yn ôl i mewn gyda fy rhieni nawr i geisio cynilo ar gyfer tŷ ond mae'n anodd, yn enwedig ar yr isafswm cyflog - mae'n amhosibl."

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru fod "sicrhau bod gan bawb yng Nghymru le gweddus, fforddiadwy a diogel i'w alw'n gartref yn flaenoriaeth".

"Er gwaethaf heriau economaidd digynsail, rydym wedi buddsoddi mwy na £2bn yn ystod tymor y Senedd hon mewn tai cymdeithasol ac rydym yn gweld rhai o'n cyfraddau cyflawni uchaf mewn bron i 20 mlynedd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.