Gwyl ddigidol ar waliau castell Conwy

  • Cyhoeddwyd
Castell ConwyFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bydd waliau Castell Conwy yn cael eu defnyddio i sgrinio celf ddigidol

Bydd waliau castell Conwy yn cael eu defnyddio i ddangos celfyddyd ddigidol gan 24 artist o wahanol wledydd yn ystod gŵyl newydd.

Cynhelir Blinc, gŵyl ddigidol newydd, yn nhref Conwy ar yr 'un penwythnos â Gwledd Conwy, gŵyl bwyd flynyddol.

Bydd celf ddigidol yn cael eu sgrinio ar furiau'r castell.

Bydd artistiaid megis Bedwyr Williams, artist a chelf-berfformwr a enillodd y Fedal Aur am Gelfyddyd yn Eisteddfod Genedlaethol 2011, a'i frawd, Llyr, yn dangos eu gwaith.

Dywedodd Craig Morrison, un o gyfarwyddwyr creadigol y prosiect: "Yr her i'r artistiaid oedd ymateb i Gastell Conwy a muriau'r dref.

"Mae'r castell a'r muriau yn ehangder mawr, ffantastig, sgrin enfawr i bob pwrpas.

"Rydym wedi ceisio rhoi detholiad amrywiol o waith ymlaen a dwi'n gobeithio bydd yna rywbeth at flas pawb."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol