'Dwi'n poeni am bob dim fel gofalwr di-dâl fy ngŵr a'r plant'

Dywedodd Ceri Roberts nad ydy hi'n rhannu ei phryderon, er mwyn cadw'r straen oddi ar bobl eraill
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Gaernarfon sy'n ofalwr di-dâl yn dweud ei bod yn "poeni am bob dim" wrth geisio ymdopi.
Mae Ceri Roberts yn gofalu am ei gŵr a'u pedair merch, a dywedodd ei bod yn teimlo straen o bob cyfeiriad.
Roedd dros hanner y rhai ymatebodd i arolwg Carers UK yn dweud bod eu horiau gofalu wedi cynyddu llynedd, gyda chanran tebyg yn dweud eu bod wedi gorfod torri'n ôl ar hanfodion fel bwyd, gwres, dillad a theithio.
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru'n dweud bod "angen gweld mwy o fesurau ymarferol o ddydd i ddydd – megis cymorth gyda chostau byw, cludiant neu addasiadau".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod y pwysau sydd ar ofalwyr di-dâl.
'Ddim yn licio dangos mod i dan straen'
Unwaith y mis mae criw bychan o ofalwyr yn cael cyfle am baned a sgwrs yng nghanolfan Porthi Dre yng Nghaernarfon.
Yno mi gwrddais i â Ceri Roberts, sy'n gofalu am ei gŵr a'u pedair merch.
Mae'n dweud bod un o'u merched wedi cael triniaeth canser a'i bod hi ei hun wedi bod mewn uned gofal brys yn ddiweddar ar ôl anafu ei chefn wrth godi ei gŵr oddi ar y llawr.
"Ddyliwn i wybod yn well a finna'n gweithio mewn cartref gofal", meddai.
"Ond pan mae pethau'n digwydd adre', instinct ydy trio helpu. A hefyd codi'r gadair olwyn fewn ac allan o'r car, mae o just wedi deud ar fy nghefn i."
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd27 Mai
Er ei bod hi'n teimlo'n ffodus bod ei chyflogwr yn cydymdeimlo, mae'n dweud bod straen o bob cyfeiriad.
"Am bod gan bobl broblemau iechyd mae ganddyn nhw apwyntiadau felly 'dach chi'n sôn am drafnidiaeth, cael day-off, mae bob dim yn adio fyny o ddydd i ddydd i fedru fforddio byw a dal i fyny efo bob dim arall."
Ychwanegodd: "Dwi ddim yn licio dangos mod i o dan straen. Fel mam 'dach chi isio gwneud yn saff bod y plant yn iach ac yn hapus, gwneud yn siwr bod y gŵr yn saff ac yn ok.
"A hefyd 'dach chi'n poeni am filiau sy'n dod fewn, gwres, costau byw yn gyffredinol.
"Mae rhywun yn poeni am bob dim, mae'n anodd ofnadwy. A trio bod yn iawn i bawb arall, ei gadw fo i chi'ch hun a pheidio gadael i'r pethau sy'n eich poeni chi effeithio ar bawb arall."

Dywedodd Ella Simpson ei bod yn cael galwadu brys gan rieni "bob dydd"
Yn ôl arolwg gan elusen Carers UK, roedd 52% o'r rhai wnaeth ymateb yn dweud bod eu horiau gofalu wedi cynyddu llynedd.
Roedd 49% yn dweud eu bod wedi gorfod torri yn ôl ar hanfodion fel bwyd, gwres, dillad a theithio.
Roedd 42% yn dweud bod eu hiechyd personol wedi dirywio.
Cafodd 20% anaf wrth ofalu yn y 12 mis diwethaf.
'Angen mwy o help dydd i ddydd'
Elusen Cymorth Gofalwyr sy'n trefnu'r sesiynau sgwrs yng Nghaernarfon.
Dywedodd Ella Simpson o'r elusen ei bod yn cael galwadu brys gan rieni "bob dydd".
"Rhieni mewn sefyllfaoedd gwael, dim pres, maen nhw'n cael panic attacks."
"'Dan ni'n gorfod gwneud referrals i'r banciau bwyd, fuel bank, mae'n really poeni nhw."
Un ffordd o leihau'r straen ar ofalwyr di-dâl fyddai cael rhagor o ofalwyr cyflogedig, yn ôl Delyth Kerr, sy'n helpu gofalwyr gyda phroblemau ariannol yng Nghaernarfon.
"Y peth gorau i'r gofalwyr di-dâl fysa cael gofalwr tâl i ddod i fewn fel bod y person yna yn gallu gofalu.
"Wedyn mi fysa'r teulu yn gallu mynd allan i weithio mwy a dod a mwy o bres i fewn fel 'na.
"Mi fysa mwy o bres i'r adran gwasnaethau cymdeithasol yn helpu."

Dywedodd Delyth Kerr mai rhagor o ofalwyr cyflogedig fyddai'n cymryd y straen oddi ar y rhai sy'n gwneud y gwaith am ddim
Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Rhian Bowen-Davies, bod angen i wasanaethau "fod yn llawer mwy rhagweithiol ac ymatebol i hawliau ac anghenion gofalwyr di-dâl, gan ddarparu gwybodaeth glir a chyrraedd allan yn fwy effeithiol i gynnig cymorth".
"Mae hefyd angen gweld mwy o fesurau ymarferol o ddydd i ddydd – megis cymorth gyda chostau byw, cludiant neu addasiadau, yn ogystal â gofal seibiant dibynadwy – sy'n darparu cefnogaeth hanfodol.
"Bydd cyflawni camau o'r fath yn allweddol i atal gofalwyr di-dâl rhag cyrraedd pwyntiau argyfwng ac i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i barhau â'u rolau hanfodol heb aberthu eu hiechyd a'u llesiant eu hunain."
Llywodraeth yn 'cydnabod y pwysau'
Mewn ymateb fe ddywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod y pwysau mae llawer o ofalwyr di-dâl yn ei brofi a'r cymorth maen nhw'n ei roi i'r sector gofal cymdeithasol. Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu a chynorthwyo anghenion gofalwyr.
"Rydym wedi rhoi £13m yn ychwanegol eleni i'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a'r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau cymorth i ofalwyr di-dâl. Mae hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer egwylion byrion, cyngor a gwasanaethau lles yn ogystal â chymorth ariannol brys.
"I helpu i ddenu a chadw gweithwyr i'r sector, rydym yn parhau i ariannu'r Cyflog Byw Gwirioneddol ac wedi darparu £28m i Gofal Cymdeithasol Cymru. Rydym hefyd wedi cynyddu'r Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol i £45m i awdurdodau lleol - o £30m yn 2019."