60 mlynedd ers boddi Tryweryn: 'Pawb wedi'u chwalu'

Disgrifiad,

Plant Ysgol Capel Celyn ar eu diwrnod olaf yn yr ysgol

  • Cyhoeddwyd

"Bydd pawb wedi chwalu ar ôl i'r llyn 'ma ddod mewn."

Dyna eiriau Aeron Prysor Jones, un o'r 13 disgybl yn Ysgol Capel Celyn ar ei ddiwrnod olaf un yn yr ysgol.

Mae 60 mlynedd wedi mynd heibio ers i Gwm Tryweryn gael ei foddi i wneud cronfa ddŵr i ddinas Lerpwl - a hynny'n groes i ewyllys y rhan helaeth o bobl Cymru.

Aeth camerâu rhaglen O Sul i Sul i ysgol Capel Celyn ar y diwrnod olaf cyn iddo orfod cau yn 1963, a chlywed atgofion gan y plant am sut y byddai cau'r ysgol yn cael effaith arnyn nhw.

Dywedodd Aeron y byddai cau'r ysgol a symud i Fron Goch yn golygu na fydd yn gallu chwarae gyda'i ffrindiau mwyach am eu bod yn byw yn rhy bell.

Hefyd, roedd yn cofio am ei athrawes, a honno byth yn "defnyddio'r gansen".

Mae cyfweliad hefyd gyda phrifathrawes yr ysgol, Martha Roberts gyda honno'n diolch i'r gymuned ac yn sôn sut y byddai'n "colli cymdeithas yr ardal".

Gwyliwch y fideo i glywed mwy am atgofion y plant a Martha Roberts.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig