Tri wedi eu cyhuddo ar gam o droseddau rhyw yn sgil 'nam technegol'

GwifrauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y tri eu cyhuddo o ganlyniad i gamgymeriad wrth osod y gwifrau sy'n cysylltu cartrefi i'r we

  • Cyhoeddwyd

Clywodd tribiwnlys fod tri pherson wedi eu cyhuddo ar gam o greu delweddau anweddus o blant oherwydd camgymeriad gan beiriannydd BT.

Fe ddaeth y tri ag achos yn erbyn Heddlu Dyfed Powys ond dyfarnodd y tribiwnlys fod yr heddlu wedi gweithredu'n gyfreithlon a bod y camgymeriad wedi digwydd oherwydd nam technegol.

Clywodd y gwrandawiad fod yr heddlu wedi cael gwarant i chwilio cartref dau o'r unigolion ym mis Awst 2016 a mis Ionawr 2017 ac iddyn nhw fynd â dyfeisiau electroneg gan dri o bobl.

Fe wnaethon nhw hynny ar ôl i ddata gan BT gysylltu'r troseddu i'r cyfeiriad anghywir o ganlyniad i gamgymeriad wrth osod y gwifrau sy'n cysylltu cartrefi i'r we.

Fe ddywedodd BT wrth y tribiwnlys fod y camgymeriad wedi ei wneud tua wyth mlynedd ynghynt a bod y gwifrau sy'n cysylltu dau dŷ wedi croesi.

O ganlyniad roedd y cyfeiriad we 'IP' yn dangos fod y troseddau'n digwydd yn y tŷ anghywir.

Dim achos am iawndal

Roedd y tri gafodd eu cyhuddo'n gwbl ddi-euog ac fe gafodd y troseddwr a oedd yn byw gerllaw, ei erlyn maes o law.

Casglodd y tribiwnlys fod y tri wedi dioddef sgil effeithiau pellgyrhaeddol o ganlyniad i'r cyhuddiadau.

Cafodd un wybod na allai ei phlant fyw gyda hi heb oruchwyliaeth ac roedd y ddau arall yn wynebu camau diogelu plant.

Wynebodd un gyfyngu ar ei ddyletswyddau yn y gwaith tra chollodd y llall gynnig swydd.

Er hynny fe ddyfarnodd y tribiwnlys fod yr heddlu wedi gweithredu o fewn y gyfraith a bod y camgymeriad wedi digwydd o ganlyniad i nam technegol.

Casglodd y tribiwnlys hefyd fod y pwerau ddefnyddiodd yr heddlu yn gymesur ac yn angenrheidiol wrth geisio atal troseddu.

Doedd dim achos am iawndal, casglodd y tribiwnlys, am fod yr heddlu wedi gweithredu o fewn y gyfraith ac wedi ymateb yn briodol pan ddaeth y camgymeriad i'r golwg.

Fe ddywedodd Heddlu Dyfed-powys eu bod yn cydnabod y loes gafodd ei achosi i'r tri gafodd eu cyhuddo ar gam gan nodi eu hurddas a'u cydweithrediad.

Maen nhw wedi croesawu'r dyfarniad sy'n dangos nad oedd bai ar yr heddlu a bod y camau a gymerwyd wrth ymchwilio yn gyfreithlon, yn gymesur ac yn angenrheidiol.

Er yr amgylchiadau anodd, maen nhw'n fodlon bod y troseddwr yn yr achos hwn wedi wynebu cyfiawnder.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i BT am ymateb.