Gwraig a'i chariad yn euog o gynllwynio i lofruddio ei gŵr mewn carafán

Mae'r heddlu wedi rhyddhau lluniau o swyddogion yn arestio Michelle Mills
- Cyhoeddwyd
Mae dynes a'i chariad wedi eu cael yn euog o gynllwynio i lofruddio ei gŵr mewn carafán yn Sir Gaerfyrddin.
Cafwyd Ethel Mills, 46 o Langennech, sy'n cael ei hadnabod fel Michelle, yn euog o gynllwynio i lofruddio Christopher Mills a cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae ei chariad, Geraint Berry, 46 o Glydach, Abertawe hefyd wedi ei gael yn euog o gynllwynio i lofruddio.
Roedd dau ddyn gyda mygydau, gynnau ffug a cheblau plastig wedi ymosod ar Mr Mills yn y garafán a rannodd gyda'i wraig yng Nghenarth, Sir Gaerfyrddin, ym mis Medi 2024.

Clywodd y llys bod Michelle Mills a Geraint Berry mewn perthynas gyfrinachol
Cafwyd dyn arall, Steven Thomas, 47 o Flaengwynfi, Castell-nedd Port Talbot, yn ddieuog o gynllwynio i lofruddio yn Llys y Goron Abertawe.
Roedd Thomas eisoes wedi cyfaddef bod â gwn ffug yn ei feddiant.
Roedd y galeri cyhoeddus yn ddistaw wrth i'r rheithgor gyhoeddi'r rheithfarn, a'r tri yn ddiemosiwn yn y doc.
Bydd y tri yn cael eu dedfrydu ar 19 Rhagfyr.

Roedd dau ddyn gyda mygydau, gynnau ffug a cheblau wedi ymosod ar Mr Mills yn y garafán
Yn ystod yr achos fe glywodd y rheithgor bod Michelle Mills a Berry wedi cwrdd mewn digwyddiad gwaith i elusen i gyn-filwyr.
Roedd y ddau mewn perthynas gyfrinachol ac yn cyfnewid negeseuon yn trafod dechrau bywyd newydd gyda'i gilydd.
Roedd dros 100 o dudalennau o negeseuon testun rhwng y ddau yn dangos eu bod wedi trafod "mygu Mr Mills â chlustog" a "gwenwyno ei fwyd".
Ffordd o 'ddianc o realiti'
Dywedodd yr erlynydd Jonathan Rees KC wrth y rheithgor fod Berry wedi dweud wrth Michelle Mills 16 o weithiau ei fod am ladd ei gŵr, a hynny mewn negeseuon testun.
Dywedodd un neges gan Berry: "Gallen ni wylio fe'n marw ac yna dod adref ac ymlacio am weddill y penwythnos gyda'n gilydd - ac aros i rywun ddod o hyd iddo."
Dywedodd Michelle Mills wrth yr heddlu mai ffordd o "ddianc o realiti" oedd y negeseuon ac iddi gredu mai "ffantasi" oedd y cyfan.
Honnodd hi hefyd wrth swyddogion fod ei gŵr yn ei cham-drin ac yn ei rheoli.

Digwyddodd yr ymosodiad ar Christopher Mills ym mis Medi y llynedd
Ar noson 20 Medi, 2024 roedd Mr a Ms Mills yn eu carafán yng Nghenarth pan ddaeth dau ddyn i'r drws ac ymosod ar Mr Mills.
Dywedodd Mr Mills wrth y llys ei fod ef a'i wraig wedi bwyta swper gyda'i gilydd yn eu carafán ar noson yr ymosodiad.
Yna, meddai, bu'r ddau yn gwrando ar gerddoriaeth ac wedi mwynhau ychydig o ddiodydd, cyn clywed cnoc ar y drws am tua 23:30.
"Buodd Michelle ar ei ffôn," meddai. "Roeddwn i'n meddwl mai chwarae gêm oedd hi. Doedd hi ddim, mae'n debyg."
"Wrth i mi agor y drws, fe darodd o fi, yn llythrennol, yn syth yn fy ngwyneb gyda pistol, 'ewch yn ôl', 'ewch lawr', roedd o'n dweud.
"Dyrnais o yn ei wyneb. Tynnais y gwn oddi wrtho. Roedd yn gwisgo oferôls, gyda balaclafa. Roedd yn llawer mwy na fi," ychwanegodd Mr Mills.

Roedd mygydau nwy wedi eu canfod gan yr heddlu
Dywedodd Mr Mills fod rhywun arall yno hefyd - ond ei fod wedi llwyddo i amddiffyn ei hun.
Clywodd y llys yr alwad 999 a wnaeth Mr Mills ar y noson, lle'r oedd yn bosib ei glywed yn gofyn am "ymateb arfog ar unwaith" i'r ymysodiad.
"Cyn-filwr ydw i," meddai, "dwi wedi tynnu'r gynnau oddi wrthyn nhw. Efallai eu bod nhw yn dal yma. Mae hi'n hollol dywyll yma."

Lluniau o'r foment pan gafodd Berry a Thomas eu darganfod gan swyddogion arfog mewn clawdd ger y maes carafanau
Cafodd Berry a Thomas eu darganfod gan yr heddlu yn cuddio mewn clawdd ger y maes carafanau.
Daeth yr heddlu o hyd i fygydau nwy, ceblau plastig a gynnau ffug mewn bag wrth eu harestio.
Roedd yna lythyr hunanladdiad ffug - a oedd yn cynnwys cyfaddefiad ffug o dreisio - wedi'i chyfeirio gan Mr Mills at ei wraig ym mhoced Berry.

Clywodd y llys bod Michelle Mills wedi anfon neges at Berry oriau cyn yr ymosodiad: "Rwyt ti'n gwybod beth wyt ti'n gwneud. Rwy'n ymddiried ynddo ti."
Yn dilyn yr ymosodiad anfonodd hi neges arall at Berry: "Dwi'n gwybod pwy oedd gyda ti, doedd Chris ddim yn dy adnabod."
Wrth grynhoi'r achos fe gafodd Berry ei ddisgrifio fel "ffantasïwr" oedd yn dychryn Thomas.
Wrth roi ei thystiolaeth dywedodd Michelle Mills wrth y rheithgor na fyddai Berry yn lladd unrhyw un a gwadodd ei bod hi'n adnabod y ddau'r noson honno.
Mae deunydd camera corff yr heddlu yn dangos Michelle Mills yn dweud, "dwi'n mynd i'r carchar am hyn", adeg ei harestio yn ei chartref yn ddiweddarach.
Mewn datganiad dywedodd y Ditectif Arolygydd, Sam Gregory: "Roedd y sgwrs ffôn rhwng Mills a Berry y llwyddon ni i gael gafael arno yn dangos yn glir bod y ddau wedi dechrau perthynas gyfrinachol ers diwedd mis Mehefin 2024.
"Mewn cyfnod byr fe wnaeth Berry, gydag anogaeth gan Mills, ddechrau magu teimladau gelyniaethus tuag at ei gŵr, ac roedd y ddau wedi sôn am ei ladd mewn gwahanol ffyrdd.
"Er gwaetha'r sgyrsiau yma, fe wnaeth Mills honni ei bod yn credu mai ffantasi yn unig oedd y cynlluniau yma ac ni fyddai byth wedi gweithredu arnynt."
Aeth yn ei flaen i ddweud "nad oes esboniad gan un o'r tri diffynnydd ynghylch y nodyn hunanladdiad ffug neu'r mygydau nwy yn y bag.
"Yr hyn sy'n amlwg yw nad oedd y rhain yn cael eu defnyddio i ddychryn Mr Mills – roedden nhw yno i drefnu hunanladdiad ffug."