Nic Parry: Stori Ruth Ellis yn 'ysgytwol'

Nic Parry
- Cyhoeddwyd
Ruth Ellis oedd y fenyw olaf i gael ei chrogi ym Mhrydain wedi iddi lofruddio ei chyn gariad, y gyrrwr rasio David Blakely, ar Sul y Pasg 1955.
Cafodd y Gymraes o Rhyl ei dedfrydu i'r gosb eithaf ond mae rhaglen newydd ar S4C yn taflu goleuni ar y stori drist o drais domestig tu ôl i'r llofruddiaeth.
Un sy'n credu y byddai stori Ruth Ellis wedi bod yn wahanol iawn heddiw yw'r cyn farnwr a'r cyflwynydd Nic Parry: "Mae 'na elfen o anghrediniaeth o glywed beth yn union ddigwyddodd a pha gyfleon i'w harbed a gollwyd – a dyna be' sy' wedi ei chadw hi'n stori sy'n corddi yr emosiynau.
"Mae newidiadau mawr iawn er gwell wedi digwydd oherwydd beth ddigwyddodd i Ruth Ellis."
'O'n i'n bwriadu ei ladd o'
Wedi magwraeth yn Rhyl roedd Ruth Ellis yn byw yn Llundain erbyn y 1950au gan weithio fel rheolwraig clwb nos. Ar Sul y Pasg 1955, tu allan i dafarn y Magdala yn Hampstead, saethodd hi David Blakely bedair gwaith.
Mi wnaeth ei chyffes yn y llys, "O'n i'n bwriadu ei ladd o", greu sioc mawr ac mi gafodd ei stori sylw eang yn y wasg.
Yn ôl Nic, sy'n cyfrannu at raglen newydd am yr achos, Ruth Ellis: Y Cariad a'r Crogi, ar S4C: "Yn y cyfnod roedd y wasg efo obsesiwn am ddau beth – rhyw a chrogi. Wrth gwrs roedd unrhyw stori oedd yn cyfuno'r ddau yn siŵr o ddenu sylw. Felly dyna pam oedd hi'n gymaint o stori ar y pryd.
"Y rheswm ei fod yn stori fawr heddiw ydy achos fod beth ddigwyddodd mor anghydnaws efo sut fyddai achosion fel hyn yn cael eu trin heddiw."

Ruth Ellis
Fel un o Sir y Fflint mae Nic yn cofio clywed stori Ruth Ellis fel plentyn ac yn teimlo empathi mawr tuag ati: "Hyd yn oed fel plant oedd y stori am y wraig yma o Rhyl oedd wedi cael ei chrogi yn cyfareddu. Ers hynny mae wedi bod yna yn fy meddwl i yn y cefndir.
"Tristwch eithriadol ac annhegwch (ei stori) oedd yn gwneud i fi deimlo'n emosiynol – yr unig beth oedd yn atal chi rhag dweud fod hi wedi cael cam 100% oedd y ffordd aeth hi amdano fo, dylai hi ddim fod wedi gwneud beth wnaeth hi.
"Heddiw - ac efallai fod o i wneud efo'r gwaith o'n i'n gwneud (fel barnwr) - dwi'n gweld fel mae agweddau at drais domestig a gwarchod dioddefwyr trais domestig wedi newid gymaint.
"Nid yn unig oedd ei stori hi'n gwneud i fi deimlo'n drist ond oedd o'n eithaf ysgytwol i ddweud y gwir."
Cefndir
Mae Nic yn grediniol y byddai dedfryd Ruth Ellis wedi bod yn wahanol heddiw gyda llawer mwy o ystyriaeth i'w chefndir trist.
Roedd ei phlentyndod yn un dreisgar oherwydd ei thad, ac fel oedolyn roedd ei pherthynas gyda'r gyrrwr rasio David Blakely yn un stormus: "Dwi ddim yn dweud fyddai hi'n cael ei chanfod yn ddieuog oherwydd natur y weithred – ond dwi yn weddol sicr mai cael ei chanfod yn euog o ddynladdiad fyddai hi heddiw, nid o lofruddiaeth.
"Roedd hi wedi cael ei threisio yn blentyn, wedi cael plentyn gan ddyn oedd wedi cymryd mantais ohoni ac wedyn yn disgwyl plentyn ac yn cael ei churo – roedd yr elfennau gwaethaf o drais domestig yno ac hi sy'n cael ei chrogi.
"Mae mor affwysol o annheg pan 'da ni'n edrych ar yr achos efo llygaid yr 21ain ganrif."

Newid er gwell
Ond mae Nic yn dweud fod achos Ruth Ellis wedi newid y gyfraith ar gyfer y dyfodol: "Mi esgorodd o a chyflymu y drafodaeth ynglŷn â dileu y gosb eithaf.
"Ar y pryd roedd rhoi pardwn i fenywod yn arbennig yn weddol gyffredin – mewn cyfnod o bum mlynedd cyn y crogi roedd yna gymaint â 67 o ferched wedi eu dedfrydu i farwolaeth ond dim ond rhyw saith gafodd eu crogi.
"Felly roedd y trafodaeth ar droed ond oedd yna gymaint o ymateb cyhoeddus i hwn."
Mae 'na elfen Gymreig arall i'r stori gan mai'r Ysgrifennydd Cartref ar y pryd oedd y Cymro o Griccieth, Gwilym Lloyd George, sef mab David Lloyd George. Mi dderbyniodd e nifer fawr o geisiadau gan y cyhoedd i roi pardwn iddi – ond gwrthododd wneud.
Meddai Nic: "Fel cyfreithiwr a barnwr beth oedd yn ddiddorol ac yn anghyffredin oedd fod y barnwr wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref a dweud o dan y ddeddf doedd gen i ddim dewis ond dydy hon ddim yn haeddu marw.
"Hyn i gyd wnaeth gyflymu y drafodaeth wnaeth arwain at ddileu y gosb eithaf. Mae hwn wedi bod yn achos allweddol ar y daith yna."
Llofnododd dros 50,000 o bobl ddeiseb i achub bywyd Ruth Ellis, ac mi wnaeth ei hachos arwain yn uniongyrchol at gyflwyno'r amddiffyniad o gyfrifoldeb lleiedig (diminished responsibility) yn 1957 - newid a allai fod wedi achub ei bywyd.
Fel mae'r rhaglen yn ei drafod, mae ei theulu y mis hwn yn gwneud cais am bardwn iddi.
Yn y rhaglen mae Nic yn disgrifio Ruth Ellis fel "dynes ddewr, 'styfnig a phenderfynol" ac mae'n dweud: "Beth sydd wedi bod yn ddiddorol yw unwaith bod chi yn edrych mewn i fanylion ei phlentyndod hi a sut gafodd hi ei thrin, agweddau gwleidyddion a phapurau newydd, 'da chi'n gweld yn sydyn roedd hi'n byw yn yr oes anghywir."
Felly beth fyddai hanes y ddynes o Rhyl os fyddai hi wedi bod yn y llysoedd ddegawd yn ddiweddarach?
Yn ôl Nic: "Byddai hi wedi byw."
Gwyliwch Ruth Ellis: Y Cariad a'r Crogi ar S4C nos Fawrth 21 Hydref neu ar BBC iPlayer.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd14 Mawrth
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021