Rygbi 13: Cymru yn fuddugol
- Cyhoeddwyd
Roedd yna fuddugoliaeth gyffyrddus i dîm rygbi 13 Cymru mewn gem baratoadol ar gyfer Pencampwriaeth y 4 Gwlad.
Llwyddodd tîm Iestyn Harris i sgorio chwe chais wrth guro Iwerddon 30-6 ar y Gnoll yng Nghastell-nedd.
Croesodd Andrew Gay, Christiaan Roets, Tyson Frizell, Mark Lennon, Elliott Kear a Jordan James i Gymru, gyda Ian Webster yn cicio tair gol gosb.
Bydd gêm gyntaf Cymru yn y gystadleuaeth go iawn yn erbyn Lloegr yn Leigh ar ddydd Sadwrn, Hydref 29.
Ers i Harris gael ei benodi'n hyfforddwr Cymru yn 2009, mae wedi mwynhau llwyddiant.
Enillodd Cymru'r hawl i chwarae ym Mhencampwriaeth y 4 Gwlad drwy ennill Cwpan Ewrop yn 2010 gan guro Ffrainc 12-11 yn Albi.

Cymru: Gay, Kear, Webster, Roets, R Williams, White, Watson, J James, Budworth, Kopczak, Frizell, Bracek, Lupton.
Eilyddion: Seamark, Flower, Dudson, Jones, L. Williams, Divorty, Lennon.